Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i fod i drafod Setliad Terfynol yr Heddlu 2018-19 ar 13 Chwefror 2018 ac er nad yw polisi plismona wedi'i ddatganoli yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o'r cyllid blynyddol, ynghyd â'r Swyddfa Gartref. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs) hefyd yn codi arian trwy braeseptau’r dreth gyngor ac mae ganddynt fynediad at grantiau arbennig a phenodol.
Yn 2018-19, bydd yr heddlu’n cael setliad arian gwastad, gyda £349.9 miliwn ar gael i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru. Cafodd yr holl Gomisiynwyr ostyngiad o 1.4 y cant yn setliad 2017-18. Mae Tabl 1 isod yn dangos cyfanswm y dyraniadau cyllid ledled Cymru:
Tabl 1: Cyfanswm y Gefnogaeth Ganolog (£ m)
[table id=5 /]
Mae Setliad yr Heddlu yn deillio o broses dau gam, gyda Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar y setliad dros dro pan gafodd ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr 2017. Nid oes dim gwahaniaeth rhwng y ffigurau a gyhoeddir yn y setliad dros dro a’r setliad terfynol.
Mae'r arian yn Nhabl 1 yn cynnwys dwy gydran; Cyllid Allanol Cyfun, sy'n cynnwys Grant Cynnal Refeniw (RSG) ac Ardrethi Busnes (NNDR) ac a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, £140.9 miliwn, a Grant Heddlu'r Swyddfa Gartref a Chyllid Gwaelodol, £209 miliwn. Dangosir y gydran o’r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn nhabl 2 isod:
Tabl 2: Cyllid Allanol Cyfun (RSG+NNDR, £m)
[table id=6 /]
Penderfynir ar brif elfennau'r fformiwla ar gyfer cyfrifo'r dyraniadau i bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu gan yr Ysgrifennydd Cartref fel rhan o fformiwla gyffredin sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Yng Nghymru, mae’r cyllid cyfatebol a ddarparwyd yn y gorffennol gan Adran Gymunedau Llywodraeth y DU a’r llywodraeth leol yn Lloegr wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae’r datganiad ar Setliad Terfynol yr Heddlu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi bod y gydran o gyllid yr heddlu a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi’i seilio ar “yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr”.
Mae'r fformiwla ar gyfer 2018-19 yn cynnwys dulliau sy'n golygu bod Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn cael yr un newid â'r hyn sy'n berthnasol i gyrff plismona lleol yn Lloegr. Yn ôl adroddiad y Swyddfa Gartref ar Grantiau’r Heddlu, bydd ‘mesurau lleddfu’ a gymhwysir yn 2018-19 yn golygu y bydd pob corff plismona lleol yn cael yr un faint o gyfanswm y cyllid fformiwla ag y cawsant yn 2013-14. Mae dyraniadau Prif Grant yr Heddlu a Chyllid Fformiwla yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a ddarperir i gyrff plismona lleol yr un peth â’r hyn a ddarparwyd i gyrff plismona lleol yn 2017-18. Mae’r dyraniadau cyllid ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol wedi’u seilio ar ddosraniad Fformiwla Dyrannu’r Heddlu 2013-14.
Mae trafodaethau wedi bod yn parhau ers nifer o flynyddoedd mewn perthynas â diwygio fformiwla’r Swyddfa Gartref. Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar ddiwygio'r ffordd y mae heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hariannu gan lywodraeth ganolog. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cartref adroddiad a ddaeth i'r casgliad nad oedd y fformiwla ariannu yn gyfoes ac roedd hefyd yn beirniadu agweddau ar y broses y tu ôl i adolygiad Llywodraeth y DU. Mae Ymateb Llywodraeth y DU (Mawrth 2017) yn nodi bod diwygio'r fformiwla yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon ac yn ei ddatganiad ar Grant yr Heddlu ym mis Rhagfyr, dywedodd Gweinidog Gwladol y DU dros Blismona a'r Gwasanaeth Tân (Nick Hurd) ei fod yn bwriadu ail-edrych ar y fformiwla ariannu yn yr Adolygiad Gwariant nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar sut y cyfrifir y dyraniadau terfynol ar gael yn Adroddiad Cyllid Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Llywodraeth Cymru ac yng Nghanllaw fformiwla dyrannu'r heddlu y Swyddfa Gartref.
Yn ogystal â Grant yr Heddlu, cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd newidiadau eraill yng nghyllid yr heddlu, gyda £130 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu fel grantiau arbennig ar lefel y DU a thua £50 miliwn ychwanegol ar gyfer gwrthderfysgaeth. Ailadroddodd ac ymhelaethodd y Gweinidog ar hyn yn ei ddatganiad ar y Setliad Terfynol ar ddiwedd mis Ionawr.
Erthygl gan Owen Holzinger, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tabl 1 a Tabl 2: Setliad Terfynol yr Heddlu Llywodraeth Cymru 2018-19