Ar 3 Hydref 2018, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc.
Daeth y ddeiseb i law yn dilyn marwolaeth Peter Baldwin yn 13 oed. Bu Peter farw ym mis Ionawr 2015 o ganlyniad i cetoasidosis diabetig a achoswyd gan ddiabetes math 1 a oedd heb ei ddiagnosio.
Mae’n bwysig nodi, er bod teitl y ddeiseb yn cyfeirio at ‘sgrinio rheolaidd’ ar gyfer diabetes math 1, mai prif nod y deisebydd – a ffocws argymhellion y Pwyllgor – yw gwella diagnosis cynnar o’r cyflwr.
Yr angen i adnabod diabetes math 1 yn gynnar
Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1, lle nad yw’r pancreas yn cynhyrchu unrhyw inswlin. Yn wahanol i ddiabetes math 2, nid yw’n gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw ac nid oes modd ei atal. Er ei fod yn cael ei ddiagnosio’n fwy cyffredin cyn 15 oed, gall diabetes math 1 ddigwydd i bobl o unrhyw oedran.
Mae diabetes math 1 yn llawer llai cyffredin na diabetes math 2 - ac felly gallai fod yn llawer llai tebygol y bydd meddyg teulu’n sylw arno - ond dyma’r un o’r clefydau cronig mwyaf cyffredin mewn plentyndod. Mae gan oddeutu 1,400 o blant yng Nghymru ddiabetes math 1. Mae achosion math 1 yn codi tua 4% y flwyddyn, ac maent yn codi’n gynt ymysg plant o dan bump oed.
Gall symptomau diabetes math 1 ddatblygu’n gyflym iawn (dros ddiwrnodau neu wythnosau). Caiff diagnosis o ddiabetes math 1 a chychwyn triniaeth ei ystyried yn achos meddygol brys, ac mae angen ymateb yn llawer cynt nag i achos o ddiabetes math 2.
Mae cetoasidosis diabetig yn gyflwr a allai fod yn angheuol, a all ddatblygu os na chaiff diabetes ei ganfod a’i drin yn ddigon cynnar. Nid yw tua chwarter o achosion o ddiabetes math 1 yn cael eu diagnosio nes bod gan y plentyn cetoasidosis diabetig. Mae angen ymyrraeth feddygol ddwys ar gyfer cetoasidosis diabetig, gan beri trawma i’r plentyn, a gallai gael effaith andwyol hirdymor ar ei reolaeth ar ddiabetes. Dyma’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymysg plant â diabetes.
Trafodaeth y Pwyllgor o’r ddeiseb
Ceisiodd y Pwyllgor Deisebau dystiolaeth gan ystod o randdeiliaid er mwyn llywio’i drafodaeth o’r ddeiseb, gan gynnwys gwybodaeth fanwl gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru a chyrff proffesiynol perthnasol.
Cysylltodd y Pwyllgor Deisebau â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a aeth ati ei hun i ofyn am dystiolaeth gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc (PDF, 468KB) ynghylch camau gweithredu i wella’r canlyniadau i blant a phobl ifanc â diabetes math 1 yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2017, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau sesiwn dystiolaeth gyda Beth Baldwin, y deisebydd, a chynrychiolwyr o Diabetes UK/Diabetes UK Cymru. Tynnodd y deisebydd a Diabetes UK sylw at yr angen am y canlynol:
- mwy o ymwybyddiaeth o arwyddion/symptomau diabetes math 1 – a phwysigrwydd cynnal profion ar frys – ymysg meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, a hefyd ymysg y cyhoedd;
- ffocws ar gwestiynau allweddol pan fydd plentyn sy’n sâl yn cael gofal sylfaenol, sef y pedwar symptom mwyaf cyffredin yn achos diabetes math 1 – toiled, syched, blinder, colli pwysau;
- sicrwydd bod offer priodol ar gyfer profi glwcos yn y gwaed ar gael mewn pob practis meddyg teulu, a bod yr holl weithwyr iechyd proffesiynol perthnasol yn hyderus yn ei ddefnyddio ac yn dehongli’r canlyniadau;
- mwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r agenda hwn.
Ym mis Chwefror 2018, ymddangosodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon gerbron y Pwyllgor i ateb cwestiynau ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb ac wrth i’r Pwyllgor gasglu tystiolaeth.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar 13 Gorffennaf 2018 (PDF, 859KB). Yn unol â galwadau’r deisebydd am weithredu, argymhellodd y Pwyllgor y dylid gofyn y cwestiynau ynghylch pedwar symptom diabetes math 1 fel mater o drefn pan fydd plant a phobl ifanc sy’n sâl yn cael gofal sylfaenol, ac y dylid cynnal profion priodol (e.e. prawf glwcos yn y gwaed drwy bigo bys) ar unwaith pan welir symptomau a allai fod yn arwydd o ddiabetes math 1. Hefyd, argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod canllawiau NICE ynghylch diagnosis o ddiabetes math 1 yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gyson ledled Cymru, gan gynnwys bod achosion tybiedig bob amser yn cael eu cyfeirio at ofal arbenigol. Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys:
- sicrhau bod offer priodol ar gyfer profion glwcos yn y gwaed ar gael ym mhob lleoliad gofal sylfaenol perthnasol;
- hyfforddiant ar gyfer meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill;
- cyflwyno llwybr atgyfeirio ar gyfer gofal sylfaenol ar lefel genedlaethol;
- monitro gwelliant mewn diagnosis o ddiabetes math 1;
- sicrhau bod y gwersi o adolygiadau achos yn cael eu rhannu;
- darparu gwybodaeth am arwyddion/symptomau diabetes math 1 i’r cyhoedd;
- hyrwyddo ymgyrch Diabetes UK am bedwar symptom diabetes.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Deisebau, ond derbyniodd rai o’r rhain ‘mewn egwyddor’. Derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad allweddol 1 y Pwyllgor mewn egwyddor (sef y dylid gofyn am y pedwar symptom fel mater o drefn), ond tynnodd sylw yn ei ymateb at y ffaith and yw canllawiau clinigol NICE yn nodi y dylid gofyn i bob plentyn sy’n sâl am symptomau diabetes math 1. Dywedodd Llywodraeth Cymru:
Rhaid i glinigwyr ddefnyddio eu disgresiwn, ar sail eu hyfforddiant a’r canllawiau sydd ar gael, i lywio’r archwiliadau o blant gwael.
Fodd bynnag, roedd y ffocws ar gwestiynau’r pedwar symptom yn ystod apwyntiadau â meddygon teulu yn fater allweddol i’r Pwyllgor, yn enwedig o gofio’r cefndir i’r ddeiseb, sy’n disgrifio sut y collwyd cyfleoedd cynnar yn achos Peter Baldwin i adnabod diabetes math 1 mewn gofal sylfaenol.
Mewn ymateb i argymhelliad penodol ynghylch gallu meddygon teulu i gael mynediad at offer profi glwcos yn y gwaed (argymhelliad 3), dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gofyn am sicrwydd ynghylch argaeledd mesuryddion glwcos yn y gwaed mewn lleoliadau gofal sylfaenol.
Un datblygiad allweddol a gododd wrth i’r Pwyllgor drafod y ddeiseb oedd rhoi llwybr atgyfeirio (PDF, 122KB) ar brawf ar gyfer diabetes math 1 mewn gofal sylfaenol, dan arweiniad Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc. Y bwriad yw i’r llwybr ategu ymgyrch ymwybyddiaeth Diabetes UK Cymru o’r pedwar symptom, sef Know Type 1. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor yn cadarnhau bod y llwybr bellach wedi cael ei gyflwyno ym mhob un o’r byrddau iechyd yng Nghymru.
Gyda’i gilydd, nod argymhellion y Pwyllgor Deisebau yw cynyddu ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd yn ehangach, a sicrhau na chollir cyfleoedd cynnar i ganfod a thrin y cyflwr. O ystyried ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a’i sicrwydd ynghylch Gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i wella diagnosis cynnar o ddiabetes math 1 yng Nghymru, nid oes amheuaeth y bydd rhanddeiliaid yn awyddus i weld y gall Llywodraeth Cymru ddangos tystiolaeth o gynnydd yn y meysydd gweithredu a nodwyd gan y Pwyllgor.
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru