Y Cynulliad i drafod cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd

Cyhoeddwyd 21/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Dydd Mercher, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, sef Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Roedd yr adroddiad yn dilyn sesiwn graffu flynyddol gyntaf y Pwyllgor â Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd. Cefnogwyd y Pwyllgor yn ei baratoadau ar gyfer y gwaith craffu gan ei Grŵp Cyfeirio Arbenigol.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC) ei Adroddiad Cynnydd 2018 i’r Senedd. Dangosodd yr adroddiad fod cyfanswm yr allyriadau yng Nghymru wedi cynyddu 5 y cant yn 2016, er i’r cyfanswm allyriadau leihau yn 2014 a 2015. Mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau 14 y cant ers 1990.

Mae cynnydd o ran gwelliant yng Nghymru wedi bod yn arafach nag yn y DU drwyddi draw, yn rhannol oherwydd bod gan Gymru gyfran llawer fwy o allyriadau diwydiannol. Ond os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau uchelgeisiol ei hun o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (‘Deddf yr Amgylchedd’) mae angen gweithredu ar frys ar draws pob sector.

Polisi, deddfwriaeth ac ymgynghori

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru yn 2010. Roedd y Strategaeth yn ymrwymo i leihau cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel 40 y cant yn is na lefelau 1990 erbyn 2020. Roedd y Strategaeth hefyd yn cynnwys targed i leihau allyriadau mewn meysydd o fewn cymhwysedd datganoledig o 3 y cant bob blwyddyn o 2011 ymlaen, o’i gymharu â llinell sylfaen o allyriadau cyfartalog rhwng 2006 a 2010. Mae Deddf yr Amgylchedd yn gosod dyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr allyriadau net ar gyfer Cymru yn 2050 o leiaf 80 y cant yn is na’r llinell sylfaen (1990 neu 1995);
  • Erbyn diwedd 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu targedau allyriadau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040; ac
  • Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol pum mlynedd, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu uchafswm ar gyfer allyriadau net Cymru (cyllideb garbon), gyda’r ddwy gyllideb gyntaf i’w pennu erbyn diwedd 2018; a
  • Rhaid i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth i gytundebau rhyngwladol i gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn nhymheredd cyfartalog y byd.

Windfarms

Ar 28 Mehefin, cyhoeddodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ddatganiad ysgrifenedig ar dargedau allyriadau interim a chyllidebau carbon o dan Ddeddf yr Amgylchedd. Nododd y targedau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040, a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf:

  • 2020: gostyngiad o 27 y cant;
  • 2030: gostyngiad o 45 y cant;
  • 2040: gostyngiad o 67 y cant;
  • Cyllideb Garbon 1 (2016-2020): Gostyngiad cyfartalog o 23 y cant; a
  • Cyllideb Garbon 2 (2021-2025): Gostyngiad cyfartalog o 33 y cant.

Mae’r targedau yn unol â chyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan ei gorff cynghori annibynnol, sef Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC) .

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cynnal ymgynghoriad ar ‘Gyflawni ein llwybr carbon isel at 2030‘. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn barn ar ba gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i leihau allyriadau o hyn hyd at 2030.

Canfyddiadau ac argymhellion

Mae adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi nodi rhai materion a gwneud argymhellion mewn nifer o feysydd. Roedd y Pwyllgor yn siomedig na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2020, fel y nodwyd yn y Strategaeth Newid Hinsawdd. Er yr awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet, mewn tystiolaeth lafar, mai Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE (UE ETS), ffurf economaidd Cymru, a phatrymau tywydd sy’n gyfrifol am y methiant hwn, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai’r newidynnau hyn fod wedi’u hadlewyrchu wrth lunio polisïau, ac y dylid bod wedi’u hystyried wrth ddatblygu targedau realistig a chyraeddadwy.

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion penodol ar gyfer y sector o ran Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE (ETS), rheoli tir, trafnidiaeth, a thai ac adeiladau.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 16 o argymhellion y Pwyllgor, a derbyniodd ddau arall mewn egwyddor, a gwrthododd un o’r argymhellion.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru