Y Cynulliad i drafod adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar dagfeydd: Tawelu’r Traffig

Cyhoeddwyd 09/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2020   |   Amser darllen munudau

Pryderon am dagfeydd

Lansiodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei ymchwiliad i effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru ym mis Ebrill 2017. Clywodd y Pwyllgor sut y mae tagfeydd yn effeithio ar ddibynadwyedd y gwasanaeth bws, yn cynyddu costau gweithredu ac yn arafu cyflymder teithio, sy'n cael effaith andwyol ar brofiadau teithwyr. Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad yr ymchwiliad yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Hydref.

Trafodwyd pryderon am effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau yng Nghymru yn ystod uwchgynhadledd bysiau gyntaf Cymru ym mis Ionawr eleni. Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd yng nghyd-destun dirywiad sylweddol yn siwrneiau teithwyr bysiau a gwasanaethau yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd nifer y teithiau a wnaed gan deithwyr bws yng Nghymru wedi gostwng tua 20 y cant rhwng 2005-06 a 2015-16. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o tua 1 y cant mewn teithiau yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod. At hynny, gostyngodd nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig yng Nghymru tua 32 y cant, o 1,889 ym mis Mawrth 2006 i 1,283 erbyn mis Mawrth 2016.

Yn ôl yr Athro David Begg yn 2016 yn ei adroddiad the impact of congestion on UK bus passengers ar gyfer Greener Journeys, mae'r diwydiant bysiau yn profi "fortecs" o ddirywiad mewn dibynadwyedd, gostyngiad yn y galw gan gwsmeriaid a phrisiau uwch sy'n bygwth dinistrio'r diwydiant.

Ffactorau sy’n cyfrannu at dagfeydd

Clywodd y Pwyllgor gan weithredwyr bysiau, ymarferwyr trafnidiaeth llywodraeth leol, ymgynghorwyr trafnidiaeth, cynrychiolwyr teithwyr ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Yn ogystal â'r effeithiau ar ddarpariaeth gwasanaethau bysiau, tynnodd y tystion sylw at y ffaith bod ffyrdd gorlawn yn arwain at ganlyniadau negyddol o ran yr economi, yr amgylchedd ac iechyd.

Yn ei dystiolaeth, awgrymodd Stagecoach (De Cymru) fod newid moddol wedi digwydd ar ôl y rhyfel, o fws i gar, o ganlyniad i gynnydd mewn cyfoeth personol, masgynhyrchu ceir ac argaeledd cynnyrch ariannol newydd. Yn yr un modd, tynnodd Cymdeithas Cydgysylltwyr Trafnidiaeth Cymru sylw at y ffaith mai’r prif achos dros amseroedd teithiau bws hirach yw tagfeydd traffig ar hyd llwybrau allweddol oherwydd:

  • Cynnydd mewn perchnogaeth ceir;
  • Ymlediad siopa ar-lein a'r cynnydd cysylltiedig mewn faniau sy’n cyflenwi nwyddau;
  • Gwaith ffordd na chaiff ei drefnu’n ofalus; a
  • Cynnydd mewn cerbydau hurio preifat a hyrwyddir gan apiau ffonau clyfar fel Uber.

Argymhellion i dawelu'r traffig

Delwedd o glawr adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Dawelu’r Traffig.Yn ei ragair i adroddiad tawelu’r traffig (PDF 546KB) y Pwyllgor, dywedodd Russell George, y Cadeirydd:

Mae ein casgliad yn syml – yn y bôn, mae hyn yn fater lle mae angen ewyllys wleidyddol gryfach. Yn fras, mae'r pwerau, yr ysgogyddion, a’r ddeddfwriaeth yn eu lle. Yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw cynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru sy'n dwyn ynghyd yr hyn sy'n gweithio, ac yn annog awdurdodau lleol i fabwysiadu ac addasu arferion da.

Gwnaeth y Pwyllgor un argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru, ar fyrder, ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu i nodi sut y bydd yn mynd i'r afael ag effeithiau tagfeydd traffig ar y diwydiant bysiau yng Nghymru.

Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i Lywodraeth Cymru gydnabod graddfa a maint effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru, ac ymrwymo i fynd i'r afael â'r mater trwy gynllun gweithredu sy'n:

  • pennu cyfeiriad strategol clir ar gyfer awdurdodau priffyrdd a gweithredwyr bysiau ar y camau gweithredu i fynd i'r afael ag effeithiau tagfeydd ar wasanaethau bysiau.;
  • amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau i ddatblygu a gweithredu mesurau blaenoriaeth i fysiau, gan gynnwys newidiadau i gyllid er mwyn sicrhau atebion hirdymor, cynaliadwy;
  • cynnwys canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i sefydlu a gwneud y gorau o effeithiolrwydd cynlluniau partneriaeth ansawdd bysiau ; ac yn
  • cynnwys asesiad o'r ystod lawn o offer sydd ar gael a pha mor ddefnyddiol y gallent fod wrth fynd i'r afael ag effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys: gweithredu cynlluniau parcio a theithio, taliadau i leddfu tagfeydd, taliadau parcio uwch, ardollau parcio yn y gweithle, a mesurau blaenoriaeth i fysiau.

Llwybr Llywodraeth Cymru

Derbyniodd Llywodraeth Cymru holl argymhellion y Pwyllgor (PDF 210KB). Wrth wneud hynny, roedd yn cydnabod yr "effeithiau niweidiol y mae tagfeydd traffig yn eu cael ar ddibynadwyedd a phrydlondeb gwasanaethau bysiau" ac y bydd effeithiau negyddol tagfeydd yn gwaethygu os na wneir unrhyw beth yn eu cylch. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "mynd i'r afael â thagfeydd yn flaenoriaeth" y bydd yn ei hystyried wrth ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth nesaf Cymru:

Mae’r broses o ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru yn creu cyfle i bwysleisio pwysigrwydd dulliau o liniaru tagfeydd yn rhwydwaith bysiau Cymru.

Cafodd Strategaeth Drafnidiaeth bresennol Cymru (PDF 3.12MB) ei diweddaru ddiwethaf yn 2008. Nododd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhagweld cwblhau strategaeth newydd erbyn 2019.

Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i becyn cyllido amlflwydd sy’n werth £48 miliwn) er mwyn dileu mannau cyfyng ac, fel rhan o'i chynllun pum pwynt i gefnogi'r diwydiant bysiau yng Nghymru, yn cyllido swyddi cydgysylltwyr bysiau yng ngogledd a de Cymru i hyrwyddo datblygu partneriaethau bysiau o ansawdd.

Nododd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd yn:

  • Cynnal cyfres o weithdai yn hydref 2017 i lywio polisïau a chamau gweithredu yn y dyfodol i fynd i'r afael â thagfeydd;
  • Ysgrifennu at yr holl awdurdodau lleol i dynnu sylw at y pwerau ôl disgresiwn sydd ganddynt i helpu i fynd i’r afael â thagfeydd traffig – yn benodol, tramgwyddau parcio, lonydd bysiau, a thraffig sy’n symud; a
  • Dosbarthu cyngor ar ymyriadau a ariennir sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar y broses o ddarparu gwasanaethau bysiau lleol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nawdd o £2.8 miliwn tuag at rwydwaith trafnidiaeth leol i ganolbwyntio ar "wneud bysiau’n fwy dibynadwy a lleihau amserau teithio trwy eu gwneud yn fwy hygyrch, lleihau tagfeydd ac integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth".

Darllenwch ein blog blaenorol ar effaith economaidd ac amgylcheddol tagfeydd.


Erthygl gan Sean Evans, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru