Y Cynulliad i drafod adroddiad ar ei berthynas â Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 04/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ar 6 Mawrth 2019 cynhelir Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynnig yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gosodwyd y Cytundeb ar ddydd Iau 31 Ionawr.

Sut y digwyddodd y Cytundeb?

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ("y Pwyllgor") ei adroddiad, Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Argymhelliad 9 o'r adroddiad yn nodi:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio cytundeb ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r Pwyllgor hwn, er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Yn ystod y ddadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2018, dywedodd Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol, fod Llywodraeth Cymru yn fodlon trafod cynnwys y cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol â'r Pwyllgor.

[G]allaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn hapus i drafod cynnwys cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor. Wrth wneud hynny, byddwn yn dymuno ystyried yn ofalus y cytundeb rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban y cyfeiria'r pwyllgor ato yn yr adroddiad.

Ar 30 Ebrill 2018, nododd Mark Drakeford AC, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd, barodrwydd Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r Pwyllgor wrth ddatblygu'r trefniadau y byddai eu hangen ar y deddfwrfa i oruchwylio'r camau a ddaw yn sgil y Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ac o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.

Yn dilyn gohebiaeth rhwng Mick Antoniw AC fel Cadeirydd y Pwyllgor a Mark Drakeford, cytunwyd y dylid bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn ffurfiol.

Ar 7 Ionawr 2019, cytunodd y Pwyllgor yn ffurfiol ar fersiwn derfynol y cytundeb, sydd bellach gerbron y Cynulliad.

Pam mae angen y Cytundeb?

Mae'r Cytundeb Ysgrifenedig yn cynrychioli'r sefyllfa a gytunwyd rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'i chyfranogiad o gyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel Gweinidogion, concordatiau, cytundebau a memoranda cyd-ddealltwriaeth.

Yn y Cytundeb, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod prif bwrpas y Cynulliad Cenedlaethol o ran craffu ar waith Llywodraeth Cymru o fewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cydnabod ac yn parchu'r angen am drafodaeth rynglywodraethol gyfrinachol rhwng gweinyddiaethau'r Deyrnas Unedig, er enghraifft, mewn sefyllfaoedd lle y cynhelir trafodaethau ar faterion penodol.

Mae'r Cytundeb yn cydnabod cymhlethdod cynyddol y setliad datganoli a'r goblygiadau o'r herwydd i drafodaethau priodol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, mae hefyd yn cydnabod y bydd y gyd-ddibyniaeth rhwng cymwyseddau datganoledig a chymwyseddau a gedwir yn cael ei rheoli'n bennaf mewn cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r Cytundeb hwn yn ceisio sicrhau bod yr egwyddorion ynghylch atebolrwydd Llywodraeth Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a thryloywder ynghylch y cysylltiadau hyn yn cael eu cynnwys yn y drefn rynglywodraethol ddiwygiedig.

Mae'r Cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol, sef:

  • Tryloywder;
  • Atebolrwydd;
  • Parchu a chydnabod bod gan drafodaethau cyfrinachol rhwng llywodraethau ran i'w chwarae, yn enwedig wrth ddatblygu polisi.

Cwmpas y Cytundeb

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddarparu rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw i'r Pwyllgor, ac i unrhyw Bwyllgor arall yn y Cynulliad, fel arfer o leiaf fis cyn y cyfarfodydd perthnasol a drefnwyd. Bydd hyn yn galluogi'r Pwyllgorau i fynegi barn ar y pwnc ac, lle y bo'n briodol, i wahodd y Gweinidog sy'n gyfrifol i ddod i gyfarfod y pwyllgor cyn y cyfarfod rhynglywodraethol. Bydd rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw yn cynnwys eitemau ar yr agenda ac amlinelliad bras o'r materion allweddol a drafodir, gan gydnabod y posibiliad y bydd eitemau agenda weithiau'n cael eu nodi'n "breifat", i gydnabod yr angen am gyfrinachedd.

Ar ôl pob cyfarfod gweinidogol rhynglywodraethol sydd o fewn cwmpas y Cytundeb hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi i'r Pwyllgor, ac i unrhyw bwyllgor perthnasol arall yn y Cynulliad Cenedlaethol, grynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod. Bydd crynodeb o'r fath yn cynnwys unrhyw ddatganiad ar y cyd a ryddheir ar ôl y cyfarfod, gwybodaeth yn ymwneud â phwy a oedd yn y cyfarfod, pryd y cynhaliwyd y cyfarfod ac, lle bo'n briodol, ac yn amodol ar yr angen i gadw cyfrinachedd, arwydd o'r prif faterion a'r hyn a drafodwyd, ac amlinelliad o'r safbwyntiau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ddarparu i'r Pwyllgor, ac i unrhyw bwyllgor perthnasol arall yn y Cynulliad Cenedlaethol, destun unrhyw gytundebau rhynglywodraethol dwyochrog neu amlochrog, memoranda cyd-ddealltwriaeth a phenderfyniadau eraill o fewn cwmpas y Cytundeb hwn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i gadw cofnod o'r holl gytundebau rhynglywodraethol, concordatau, penderfyniadau a memoranda rhynglywodraethol ffurfiol y mae Llywodraeth Cymru yn cytuno arnynt a sicrhau bod y rhain ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi Adroddiad Blynyddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol a'i osod gerbron y Cynulliad i'w gyflwyno i'r Pwyllgor. Bydd yr adroddiad hwn yn crynhoi allbynnau allweddol gweithgarwch sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb hwn, gan gynnwys unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan fforymau rhynglywodraethol perthnasol.

Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am fonitro'r modd y caiff y cytundeb ei weithredu.


Erthygl gan Alys Thomas, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru