Cyhoeddwyd 25/02/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
25 Chwefror 2016
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4738" align="alignnone" width="682"]
![Peiriant tyrchu ar waith mewn afon](/researchblogfilescy/2016/02/digger.jpg)
Llun o Flickr gan Jeremy Atkinson. Trwydded Creative Commons. Tynnwyd manylion y cwmni o'r peiriant tyrchu gan ddefnyddio Photoshop.[/caption]
Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar 1 Mawrth 2016 ynghylch
is-ddeddfwriaeth (PDF 509KB) a fydd yn symleiddio'r broses o gael caniatâd i gynnal gwaith adeiladu yn agos at amddiffynfeydd môr a phrif afonydd.
Bydd y Rheoliadau arfaethedig yn ehangu'r gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol i gynnwys caniatadau amddiffyn rhag llifogydd. Byddant hefyd yn eithrio rhai gweithgareddau risg isel fel nad oes angen trwydded ar eu cyfer.
Y prif afonydd yw'r cyrsiau dŵr a ddiffinnir ar y
map o brif afonydd.
Ar hyn o bryd, mae angen
caniatadau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer gweithgareddau fel y rhai a ganlyn:
- Adeiladu gollyngfeydd;
- Adeiladu ac atgyweirio pontydd;
- Gwaith i atal erydu glannau afonydd a cholli tir;
- Darparu mannau croesi afonydd ar gyfer cyfleustodau; a
- Chreu ceuffosydd ar gyrsiau dŵr.
Mae amrywiaeth o Ddeddfau ac is-ddeddfau gwahanol yn gwneud caniatadau'n ofynnol, ac mae'r cosbau, y cyfnodau ymgeisio a'r prosesau apelio yn wahanol ar gyfer pob cyfundrefn. Bydd y Rheoliadau yn caniatáu rhoi trwydded unigol ar gyfer gweithgareddau y mae angen trwyddedau ar wahân o dan fwy nag un cynllun ar eu cyfer ar hyn o bryd.
Lluniwyd y Rheoliadau ar sail Cymru a Lloegr ar y cyd ac mae angen i'r Cynulliad a Senedd y DU eu cymeradwyo cyn iddynt ddod i rym yn y ddwy wlad.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y newidiadau yn creu system symlach, mwy tryloyw ac yn lleihau biwrocratiaeth. Maent yn dweud y bydd y dull newydd yn galluogi rheoleiddwyr i ganolbwyntio ar y gweithgareddau sy'n peri'r risg fwyaf wrth ddyrannu adnoddau. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheoleiddiwr yng Nghymru. Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r rheoleiddiwr yn Lloegr.
Ymgynghorodd y ddwy Lywodraeth ar y cynigion rhwng 10 Rhagfyr 2014 a 17 Chwefror 2015 ac maent wedi cyhoeddi
ymateb ar y cyd i'r sylwadau a gafwyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi
Memorandwm Esboniadol (PDF 704KB) i gyd-fynd â'r Rheoliadau.
Teitl llawn y Rheoliadau yw:
The Environmental Permitting (England & Wales) (Amendment) (No2) Regulations 2016 (PDF 509KM)
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Teitl llawn y Rheoliadau yw:
The Environmental Permitting (England & Wales) (Amendment) (No2) Regulations 2016 (PDF 509KM)