Ni fydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, o 7 Ebrill tan 6 Mai. Ni fyddwn yn diweddaru’r erthygl hon yn ystod y cyfnod hwn. Ceir lincs i’r data a gwybodaeth ddiweddaraf yn ein herthygl cyfeirio Coronafeirws (COVID-19).
Daeth rhyddid dinasyddion yr UE a'r DU i symud i ben yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020. Mae'r DU wedi rhoi trefniadau ar waith i ganiatáu i ddinasyddion yr UE a oedd wedi bod yn byw yn y DU cyn y dyddiad hwnnw, i barhau i wneud hynny ar ôl 1 Ionawr 2021.
Yn y DU, rhaid i ddinasyddion yr UE gyflwyno cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (‘y Cynllun’) erbyn 30 Mehefin 2021, er mwyn aros yn y DU. Fodd bynnag, mae yna heriau yn sgil y pandemig i bobl sy'n cyflwyno cais i'r cynllun, ac mae'r Senedd wedi clywed y gallai dinasyddion yr UE yng Nghymru ei chael hi'n anodd aros heb fwy o gefnogaeth.
I gael gwybodaeth gefndir, gweler ein blogiau blaenorol.
Beth yw’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE?
Mae'r Cynllun yn creu statws ‘preswylwyr sefydlog’ a statws ‘preswylwyr cyn sefydlu’ ar gyfer dinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir sy'n byw yn y DU cyn diwedd y rhyddid i symud. Mae dinasyddion Iwerddon wedi'u heithrio o dan drefniadau ar wahân. .
I gael statws preswylwyr sefydlog, mae’n rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn y DU am bum mlynedd heb absenoldeb o fwy na chwe mis, gyda rhai eithriadau. Rhoddir statws preswylwyr cyn sefydlu i breswylwyr cymwys sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020. Gall dinasyddion sy’n breswylwyr sefydlog a’r rheini sy’n breswylwyr cyn sefydlu weithio yn y DU, a chael gafael ar ofal iechyd, addysg ac arian cyhoeddus. At hynny, gallant deithio i mewn ac allan o'r DU.
Fodd bynnag, ni all dinasyddion sy’n breswylwyr cyn sefydlu ddod ag aelodau o'r teulu i ymuno â nhw a cholli eu statws os ydyn nhw'n treulio dwy flynedd y tu allan i'r DU (pum mlynedd ar gyfer y rheini â statws preswylwyr sefydlog). At hynny, daw statws preswylwyr cyn sefydlu i ben ar ôl pum mlynedd, a rhaid ei drosi i statws preswylwyr sefydlog trwy gyflwyno ail gais.
Ceisiadau i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: yr ystadegau diweddaraf
Er gwaethaf nifer uchel o geisiadau i'r Cynllun, fe wnaeth y gyfradd o gyflwyno ceisiadau yng Nghymru arafu yn ystod ton gyntaf y pandemig. Yn ôl João Vale de Almeida, Llysgennad yr UE i'r DU, nododd rhai o ddinasyddion yr UE fod cyfyngiadau teithio yn golygu na allen nhw gael gafael ar eu dogfennaeth, yr oedd ei hangen arnynt i ddarparu tystiolaeth o’r ffaith eu bod yn breswyl yn y DU.
Ar 31 Ionawr 2021, roedd Llywodraeth y DU wedi cael 5.06 miliwn o geisiadau, yn erbyn amcangyfrif o 3.8 miliwn o breswylwyr cymwys. Daeth 83,800 o geisiadau o Gymru, yn erbyn amcangyfrif o 66,000 o drigolion cymwys. Mae’r rheswm dros fwy o geisiadau nag amcangyfrif o ddinasyddion cymwys sy'n byw yn y DU yn cael ei briodoli weithiau i gyfuniad o ansicrwydd ynghylch yr union nifer o breswylwyr cymwys, ceisiadau lluosog a chyfrif ddwywaith.
Allan o gyfanswm yr ymgeiswyr, fe gafodd 44% statws preswylwyr cyn sefydlu, sy'n golygu y bydd angen i bron i hanner dinasyddion yr UE gwblhau ail gais yn y dyfodol er mwyn gallu aros yn y DU.
Roedd rhwystrau yn sgil COVID-19 i’r rheini oedd yn cyflwyno cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd waith dilynol i'w Ymchwiliad yn 2019 ar effaith newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit. Canfu'r Pwyllgor fod y pandemig nid yn unig wedi gwaethygu problemau presennol sydd ynghlwm wrth y cynllun, ond ei fod hefyd wedi cyflwyno heriau newydd i ddinasyddion yr UE sy'n cyflwyno cais i’r Cynllun. Mewn llythyr diweddar i Lywodraeth Cymru gwnaeth y Pwyllgor argymhellion i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Fe gafodd symud i lwyfannau digidol yn ystod y pandemig effaith ar grwpiau sy’n agored i niwed.
Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cefnogaeth am ddim i helpu dinasyddion yr UE i aros yng Nghymru. Fodd bynnag, fe wnaeth tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb gan Sefydliad Bevan amlygu fod COVID-19 wedi torri ar draws y Rhaglen Hawliau Dinasyddion sy'n darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb i ddinasyddion yr UE, gan gynnwys sesiynau galw heibio. Yn ei lythyr at Lywodraeth Cymru, argymhellodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y dylid parhau i ymgysylltu â dinasyddion yr UE i godi eu hymwybyddiaeth o'r cynllun, ac i gadarnhau ei chefnogaeth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru.
Gan mai ond trwy ddull digidol y gellid cyflwyno cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae yna heriau penodol i grwpiau sy’n agored i niwed sydd eisoes wedi'u heffeithio gan y bwlch digidol, er enghraifft pobl hŷn a phobl digartref. Mae tystiolaeth yn dangos fod COVID-19 wedi dwysáu’r rhaniad digidol yn y DU . Anogodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Lywodraeth Cymru i gydnabod anghenion y dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed, yn enwedig y rheini a allai fod mewn perygl o allgau digidol.
Bydd heriau'n parhau i fodoli y tu hwnt i'r dyddiad cau, sef 30 Mehefin
Clywodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y gallai dinasyddion yr UE yng Nghymru ei chael hi'n anodd bod yn gymwys i gael setliad llawn o ganlyniad i'r pandemig. Fe wnaeth Madeleine Sumption – Cyfarwyddwr yr Arsyllfa Ymfudo– rybuddio efallai na fydd pobl â statws preswylwyr cyn sefydlu yn gwybod bod angen iddyn nhw drosi eu statws trwy gyflwyno ail gais, ac efallai y byddant nhw’n anghofio eu dyddiad cau heb gael nodiadau atgoffa. Fe wnaeth Llysgennad yr UE i'r DU esbonio hefyd fod rhai o ddinasyddion yr UE sydd â statws preswylwyr cyn sefydlu wedi gorfod gadael y DU yn ystod y pandemig ac efallai eu bod yn gaeth i wlad wahanol oherwydd cyfyngiadau teithio. Efallai y bydd y dinasyddion hynny yn ei chael hi'n anodd darparu tystiolaeth o bum mlynedd o breswylio parhaus, sydd ei angen i gael statws preswylwyr sefydlog. O ganlyniad, anogodd y Pwyllgor Lywodraeth Cymru i ystyried strategaethau amgen i gefnogi dinasyddion a fethodd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, oherwydd amgylchiadau a achoswyd gan COVID-19.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd diwedd rhyddid i symud yn tanseilio sectorau sy'n dibynnu ar eu gweithlu yn yr UE, gan gynnwys y diwydiant gofal. Fe wnaeth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol argymell y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyflogwyr Cymru i ddelio â'r system fewnfudo newydd.
Y camau nesaf
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i lythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 11 Mawrth, a derbyniodd ei argymhellion yn llawn, gan gynnwys ymrwymiad i estyn cefnogaeth i sefydliadau sy'n cynnig cyngor i ddinasyddion yr UE y tu hwnt i ddyddiad cau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, sef 30 Mehefin 2021. Mae'r ymateb yn ailbwysleisio’r neges o groeso a chefnogaeth a fynegir yn llythyr agored Llywodraeth Cymru at ddinasyddion yr UE ar 6 Mawrth, lle anogodd y Prif Weinidog ddinasyddion yr UE nad ydynt eto wedi gwneud cais, i gyrchu’r gefnogaeth ar gynnig.
Erthygl gan Marine Furet,, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru