Bu llawer o drafod am y gwahaniaethau ym mhwerau a threfniadau llywodraethu ein comisiynwyr a’r ombwdsmon. A yw'n bryd ailwampio pethau?
Ers i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ddechrau yn ei swydd ym mis Ebrill 2016, mae gan Gymru bedwar comisiynydd statudol ac ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Ond a yw eu swyddogaethau yn ddigon clir ac a ydynt yn wirioneddol annibynnol? Mae'r trefniadau ar gyfer eu penodi a'u dwyn i gyfrif yn anghyson, ac mae rhai, gan gynnwys rhai o'r comisiynwyr eu hunain, o'r farn bod angen newid. Y comisiynwyr a’r ombwdsmon yng Nghymru Ers creu comisiynydd cyntaf Cymru yn 2001 – ar gyfer plant a phobl ifanc – mae comisiynwyr wedi sefydlu’u hunain yn rhan o’n bywyd cyhoeddus. Maent yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus o fewn eu meysydd gwaith. Erbyn hyn mae comisiynwyr ar gyfer plant, pobl hŷn, cenedlaethau'r dyfodol a'r Gymraeg, yn ogystal â chomisiynydd safonau'r Cynulliad ac ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn y maes hwn – pan grëwyd rhai o swyddi’r comisiynwyr, y rhain oedd y cyntaf o'u math. Cydnabyddir hefyd bod creu un ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus drwy uno tri chorff blaenorol yn enghraifft o arfer da.Gwahanol drefniadau llywodraethu
Mae'r comisiynwyr pobl hŷn, y Gymraeg, cenedlaethau'r dyfodol a phlant i gyd yn cael eu penodi a'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, er eu bod yn annibynnol.
Caiff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ei benodi gan y Frenhines yn dilyn argymhelliad gan y Cynulliad, a'i ariannu gan Gronfa Gyfunol Cymru.
Caiff y Comisiynydd Safonau, sy'n ymwneud â safonau yn y Cynulliad, ei benodi gan y Cynulliad a'i dalu o Gronfa Gyfunol Cymru.
Annibyniaeth y comisiynwyr Craffodd sawl pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad ar y prosesau ar gyfer penodi’r comisiynwyr a'u dwyn i gyfrif. Y casgliad oedd y dylai rhanddeiliaid neu grwpiau trawsbleidiol ymwneud mwy â’r broses benodi, neu bod y Cynulliad yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud hynny. Er nad oes awgrym o unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r comisiynydd plant presennol yn ogystal â’r un blaenorol wedi dadlau y dylai deilydd y swydd fod yn atebol i'r Cynulliad a chael ei benodi ganddo. Yn yr un modd, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cwestiynu a yw'n briodol mai Llywodraeth Cymru sy'n ariannu ei swydd. Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi awgrymu mai ymrwymiad y ddwy ochr i wneud i'r trefniant weithio sy'n gyfrifol am y diffyg gwrthdaro rhwng ei swyddfa a Llywodraeth Cymru. Ac ystyried yr angen i gomisiynwyr fwrw llygad beirniadol dros waith y llywodraeth, mae amheuaeth a fydd y trefniadau presennol yn ddigon cadarn yn y tymor hir. Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru Dr Mike Shooter i gynnal adolygiad annibynnol o rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru. Gwnaeth adroddiad Shooter nifer o argymhellion ynghylch cylch gwaith y comisiynydd, ynghyd â’r trefniadau atebolrwydd, penodi, ariannu a llywodraethu. Roedd hyn yn cynnwys argymell ymestyn cylch gwaith y comisiynydd i gynnwys materion sydd heb eu datganoli. Cytunodd Llywodraeth flaenorol Cymru, gan dderbyn llawer o'r argymhellion yr oedd o fewn ei phwerau i'w gweithredu. Fodd bynnag, mae agweddau eraill ar yr adroddiad wedi arwain at anghytuno mawr. Argymhellodd yr adolygiad mai'r Cynulliad yn hytrach na Llywodraeth Cymru ddylai benodi ac ariannu'r comisiynydd plant yn y dyfodol. Anghytunodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru, er mawr siom i Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Pedwerydd Cynulliad. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai unrhyw bwyllgor olynol yn y Pumed Cynulliad bwyso'n gryf dros ailystyried y penderfyniad hwn. Nododd adroddiad Shooter hefyd fod angen i'r Cynulliad graffu'n fwy trylwyr ar y comisiynydd. Dull strategol Mae gwahaniaethau mewn pwerau yn ogystal â threfniadau llywodraethu rhwng y comisiynwyr; mae pob un wedi cael ei sefydlu dan ddeddfwriaeth ar wahân. Yn sgil y gwahaniaethau hyn, awgrymodd adroddiad Shooter y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr hyn sy'n ofynnol gan bob comisiynwr a drafftio un ddeddf a allai bennu diffiniadau, egwyddorion, swyddogaethau a phwerau sy'n gyffredin i bob un. Gallai materion sy'n benodol i bob comisiynydd gael eu nodi mewn rheoliadau. Ni fyddai drafftio deddfwriaeth i gynnwys yr holl gomisiynwyr yn fater syml, ac ystyried eu cylchoedd gwaith gwahanol, ond gallai dull mwy cydlynol eu gwneud yn fwy effeithiol a sicrhau bod y cyhoedd yn deall eu gwaith yn well. Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru nad oedd wedi'i hargyhoeddi bod angen un darn o ddeddfwriaeth a fyddai'n cwmpasu'r comisiynwyr i gyd. Fodd bynnag, ymrwymodd i wneud rhywfaint o waith ymchwil ar ddeddfwriaeth bosibl. Yn y cyfamser, lluniodd is-ddeddfwriaeth i sicrhau bod cyfnod swydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyd-fynd â thymhorau’r comisiynwyr eraill ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Wrth i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fwrw ati, mae gwaith swyddfeydd y comisiynwyr yn dylanwadu ar fywydau nifer cynyddol o bobl. O ystyried proffil cyhoeddus amlwg deiliaid swyddi o'r fath, bydd yn bwysicach nag erioed cael eglurder am eu cyfrifoldebau a’u hatebolrwydd. Ffynonellau allweddol- Llywodraeth Cymru, Adolygiad o rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru (2014)
- Llywodraeth Cymru, Ymateb i'r Adolygiad Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru (2016)
- Royles, E. a Powel, D. Y Comisiynwyr a’r Ombwdsmon a seilwaith llywodraethiant Cymru: gwersi o Gymru a gwersi i Gymru, (2014) Prifysgol Aberystwyth 2014.