Y Comisiwn Ewropeaidd yn gwrthod cynigion ar gyfer y broses awdurdodi ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig.

Cyhoeddwyd 22/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3556" align="alignnone" width="640"]Llun o adeilad Senedd Ewrop Llun o Flickr gan DiamondGeezer. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i ganiatáu i Aelod-wladwriaethau wahardd defnyddio bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM) yn eu tiriogaethau eu hunain, neu gyfyngu ar eu defnydd ynddynt, yn wynebu taith drafferthus drwy’r Sefydliadau Ewropeaidd. Mae'r blog hwn yn dilyn erthygl flaenorol ar y cynigion ynghylch bwyd a bwyd anifeiliaid GM ac ynddo mae'r wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y goflen. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynigion yn Y Diweddaraf am Bolisi'r UE (PDF, 275KB). Mae'r Sefydliadau Ewropeaidd yn ystyried y cynigion o dan y weithdrefn ddeddfwriaethol arferol. Yn sgil pryderon cyffredin, mae risg y caiff y cynigion eu tynnu yn ôl. Cyngor yr Undeb Ewropeaidd Mewn dadl ar 13 Gorffennaf 2015, lleisiodd cynrychiolwyr Aelod-wladwriaethau o'r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd bryderon cryf (PDF, 352KB) ynghylch ymarferoldeb y cynigion. Roedd pryder nad oedd gan y cynigion eglurder cyfreithiol ac na fyddent yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau ddefnyddio mesurau i gyfyngu neu wahardd ar sail gyfreithiol gadarn. Awgrymwyd y byddai'r cynnig yn codi problemau o ran cysondeb â'r farchnad fewnol a rheolau Sefydliad Masnach y Byd. Dadleuodd Awstria, Denmarc a Gwlad Belg y dylai fod cysonder drwy'r UE parthed GM. Roedd y rhan fwyaf o'r Aelod-wladwriaethau yn feirniadol o'r ffaith na chafwyd asesiad effaith i ategu’r cynnig; galwyd ar i'r Comisiwn gynnal asesiad effaith fel y byddai modd iddynt drafod y cynnig yn gall. Senedd Ewrop Argymhellodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd o'r Pwyllgor Amgylchedd y dylid gwrthod y cynigion mewn dadl ar 16 Gorffennaf 2015. Mae Giovanni La Via, cadeirydd y Pwyllgor a'r Rapporteur ar y goflen, wedi drafftio adroddiad yn galw am i'r cynigion gael eu gwrthod yn llwyr. Nododd y Rapporteur fod gan bob grŵp gwleidyddol amheuon mawr ynghylch y cynigion. Cefnogodd Rapporteuriaid Cysgodol yr adroddiad drafft ar y sail na fyddai'r cynnig yn rhoi digon o sicrwydd cyfreithiol i Aelod-wladwriaethau sydd am wahardd bwyd a bwyd anifeiliaid GM, y byddai'n dryllio'r farchnad fewnol, ac y byddai'n anghydweddu â rheolau'r WTO. Gofynnodd ASE Eickhout (y Gwyrddion/EFA, yr Iseldiroedd) am i'r Adroddiad Drafft gynnwys adran a fyddai'n gofyn i'r Comisiwn gyflwyno cynnig newydd ar y mater, a hynny gyda chefnogaeth mwyafrif o'r ASEau. Serch hynny, mae cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud na fydd dim ‘plan B’ ac y byddai gwrthod mewn unrhyw ffordd yn golygu y byddai'r sefyllfa bresennol yn parhau, gyda'r Comisiwn yn aml yn gorfod penderfynu yn derfynol ynghylch awdurdodi. Y camau nesaf yn yr UE Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i Adroddiad Drafft y Pwyllgor Amgylchedd yw 16 Medi 2015. Trefnwyd y bydd ASEau ar y Pwyllgor Amgylchedd yn pleidleisio ar yr Adroddiad Drafft ar 12/13 Hydref 2015. Bydd pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Tachwedd 2015. Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi bod yn dilyn cynigion y Comisiwn ac mae wedi ysgrifennu at Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ac effeithiau posibl y cynigion ar Gymru. Bydd y Pwyllgor yn trafod y llythyr yn y tymor newydd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg