Ddydd Mawrth 13 Ionawr bydd y Senedd yn trafod cyfraith newydd arfaethedig a fydd yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer rhai mathau o lety ymwelwyr yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu 2021 i “fwrw ymlaen â chamau i… [d]rwyddedu llety gwyliau” a’r ymrwymiad dilynol yn y Cytundeb Cydweithio i ddatblygu “cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau”.
Yn gyffredinol mae Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn:
- ailddatgan a moderneiddio swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran hybu twristiaeth yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried yr effaith gymdeithasol y gallai twristiaeth ei chael, ynghyd â'r effaith y gallai ei chael ar yr amgylchedd a'r Gymraeg;
- rheoleiddio darpariaeth llety ymwelwyr yng Nghymru drwy gyflwyno cyfundrefn drwyddedu i roi sicrwydd i ymwelwyr bod llety yn cyrraedd y safonau y byddent yn eu disgwyl a sicrhau bod y safonau hynny, yn achos llety hunanddarpar, yn cyd-fynd yn agosach â safonau cyfatebol sydd eisoes yn gymwys i’r sector rhentu preifat;
- gwneud safon mewn perthynas â ffitrwydd llety ymwelwyr yn ofyniad contractiol, a
- sefydlu cyfeiriadur o lety ymwelwyr at ddiben darparu gwybodaeth i’r cyhoedd.
- creu cod o gyfraith ar dwristiaeth, gan ymgorffori darpariaethau’r Bil ei hun a darpariaethau Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025. Bydd is-ddeddfwriaeth a wneir [....] o dan y Bil neu’r Ddeddf honno hefyd yn ffurfio rhan o’r cod.
Mae ein Crynodeb o’r Bil yn egluro'n fanylach beth mae'r Bil yn ei wneud a'i gefndir. Mae'r erthygl hon yn nodi rhai o'r themâu allweddol a ddeilliodd o waith craffu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Amserlen “anarferol o fyr” ar gyfer craffu
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil ar 3 Tachwedd a, chyda diwedd cyfnod y Senedd hon yn agosáu’n gyflym, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai Pwyllgor yr Economi Masnach a Materion Gwledig gyflwyno adroddiad ar ei waith craffu yng Nghyfnod 1 erbyn 19 Rhagfyr 2025. Er bod cefnogaeth eang ymhlith tystion i egwyddorion cyffredinol y Bil, mynegodd llawer o bobl bryder ynghylch manylion ei weithredu, gyda rhai'n awgrymu ei fod wedi cael ei "ruthro".
Cyfeiriodd nifer o dystion at yr amserlen gryno fel elfen sy'n creu heriau o ran ansawdd y dystiolaeth y gellid ei darparu, a mynegodd rhai pobl bryder ynghylch lefel y craffu a all fod yn bosibl yn yr amser sydd ar gael.
Roedd y Pwyllgor yn cytuno, a daeth i’r casgliad, ar ôl saith wythnos eistedd, fod yr amserlen ar gyfer Cyfnod 1 yn “anarferol o fyr”, yn “annigonol”, a’i bod “wedi cyfyngu ar ein gallu i gynnal gwaith craffu trylwyr a phriodol a roddir fel arfer i gynigion nad ydynt yn rhai brys ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol”.
O ganlyniad, argymhellodd y Pwyllgor na ddylai'r amserlen hon gael ei derbyn fel cynsail ar gyfer gwneud deddfwriaeth nad yw'n ddeddfwriaeth frys, a chraffu arni, gan Senedd na llywodraeth yn y dyfodol.
“Cyfnod cymharol brysur” o newidiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol
Mynegodd rhanddeiliaid bryderon ynghylch effaith gronnus newidiadau deddfwriaethol a pholisi sy'n effeithio ar y sector rhentu tymor byr hunanarlwyo yn ystod y blynyddoedd diwethaf – er enghraifft, y trothwy ardrethi busnes 182 diwrnod, premiymau treth gyngor ail gartrefi, a rheolaethau cynllunio cynyddol. Cydnabu’r Ysgrifennydd Cabinet fod “hwn wedi bod yn gyfnod cymharol brysur i’r sector o ran newidiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol” ond nododd fod y newidiadau “wedi bod yn ymateb i natur y diwydiant sy’n newid yn gyflym”.
Roedd y rhanddeiliaid, fodd bynnag, yn fwy uniongyrchol wrth ddisgrifio effaith y newidiadau hyn. Nododd Ymweld â Sir Benfro, er enghraifft, fod gweithredwyr yn teimlo'n eithaf blinedig a blinderog, ac yn bryderus iawn. Dywedodd Twristiaeth Gogledd Cymru fod y canlynol yn amlwg ymhlith ei aelodau:
“significant concerns persist regarding the cumulative regulatory burden on an industry already facing unprecedented challenges. In the last 36 months, tourism businesses have navigated multiple new stipulations amid a cost-of-living crisis, with hospitality in areas like Caernarfon reporting at least 30% downturns compared to previous years.”
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, o ystyried bod y sector “yn ôl pob tebyg yn wynebu eu trwmlwytho o ran deddfwriaeth a pholisi, ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i adennill hyder rhanddeiliaid wrth i drafodaethau barhau ar fanylion y Bil.
Mae angen “rhagor o fanylion”.
Roedd diffyg manylion yn thema barhaus y clywodd y Pwyllgor amdani yn ystod y broses graffu. Cydnabu Llywodraeth Cymru yn y Memorandwm Esboniadol fod “prinder data dibynadwy” ar hyn o bryd ynghylch maint y sector a gwmpesir gan y Bil, er y bydd hyn yn gwella unwaith y bydd y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr (a sefydlwyd o dan Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025) ar gael yn 2027.
Ystyriodd y Pwyllgor lefel y manylder yn y Bil a'i Femorandwm Esboniadol ar sut y bydd y cynllun trwyddedu'n gweithredu'n ymarferol. Nododd hefyd benderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio llawer o'r manylion hyn, gan ddewis yn hytrach i fynd i'r afael â nhw'n ddiweddarach drwy'r 20 pŵer gwneud rheoliadau sydd wedi'u cynnwys yn y Bil.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod manylion sylweddol eto i'w datblygu a'u cytuno mewn nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys:
- Y sefydliad(au) a fydd yn gweithredu'r cynllun trwyddedu
- Y sefydliad(au) a fydd yn chwarae rhan wrth orfodi'r cynllun
- Y gofynion hyfforddi y bydd yn rhaid i ddarparwyr llety eu bodloni
- Y broses ar gyfer ymdrin â chwynion a wneir gan ymwelwyr.
Felly, mae 10 o 23 o argymhellion y Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor cyn y ddadl yng Nghyfnod 1.
Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2026. Gallwch ddilyn y trafodion ar Senedd.tv neu weld y trawsgrifiad yn fuan wedyn.
Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru