Y bwlch o ran rhywedd: lansio dangosyddion cydraddoldeb o ran rhywedd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 03/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

03 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cynhelir dadl flynyddol y Cynulliad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 7 Mawrth 2017. Yn ddiweddar, ragdybiodd Fforwm Economaidd y Byd na fyddai'r bwlch o ran rhywedd ledled y byd yn cau am 170 mlynedd arall os parheir ar y gyfradd bresennol. Daeth y DU yn ugeinfed allan o 144 gwlad o fesur cydraddoldeb o ran rhywedd, a hynny ar sail amrywiaeth o ddangosyddion. Roedd yr Almaen, Norwy, Ffrainc, Iwerddon a Rwanda oll mewn safle uwch na'r DU. Ond sut olwg sydd ar y bwlch o ran rhywedd yma yng Nghymru? Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio set o ddangosyddion cydraddoldeb o ran rhywedd yng Nghymru wedi'i seilio ar y dystiolaeth ystadegol orau sydd ar gael, er mwyn helpu Gweinidogion i graffu ar bolisïau, deddfwriaeth a chyllidebau o safbwynt rhywedd. Mae gan ddynion a menywod brofiadau bywyd gwahanol (yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn economaidd ac yn fiolegol), ac mae hynny'n effeithio ar iechyd, addysg, cyflogaeth, incwm a chynrychiolaeth. Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn cronni pan ystyrir ffactorau megis oedran, ethnigrwydd, anabledd, a rhywioldeb ymysg eraill. Bydd penderfyniadau ar y materion hyn yn effeithio ar fenywod a dynion mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y man cychwyn. Amlinellir rhai o'r casgliadau a wnaed o'r set ddata isod. Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru Y boblogaeth
  • Mae 51 y cant o boblogaeth Cymru yn fenywod, a 49 y cant yn ddynion; mae 53,000 yn rhagor o fenywod nag sydd o ddynion dros 65 oed;
Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru Cyflogaeth ac incwm
  • Mae menywod yn llai tebygol o fod yn weithgar yn economaidd nag ydyw dynion (72 y cant ar gyfer menywod o gymharu ag 83 y cant ar gyfer dynion). Mae'r gyfradd cyflogaeth rhan-amser ar gyfer menywod yn 41 y cant o gymharu ag 13 y cant i ddynion;
  • Mae'r bwlch cyflog o ran rhywedd rhwng dynion a menywod yn 7.5 y cant ar gyfer gweithwyr amser llawn, a 15.7 y cant ar gyfer pob gweithiwr - golyga hyn bod menywod yn ennill 84 ceiniog am bob punt a enillir gan ddynion. Am bob punt a enillir yr awr gan ddynion sy'n gweithio amser llawn yng Nghymru, mae menywod yn ennill 93 ceiniog;
  • Mae menywod yn llawer llai tebygol o fod yn rhan o gyfnod cynnar unrhyw weithgarwch entrepreneuraidd neu fod yn hunan-gyflogedig (mae dynion ddwywaith mor debygol o fod yn hunan-gyflogedig ag ydyw menywod), ac mae menywod ychydig yn fwy tebygol o fod yn hawlio budd-daliadau;
  • Mae hanner yr holl fenywod sy'n gweithio yn cael eu cyflogi mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd, sy'n cyfrif am 72 y cant o'r gweithwyr yn y grŵp hwn. Mewn cyferbyniad, caiff dynion eu cyflogi ar draws gwahanol ddiwydiannau. Mae menywod yn llai tebygol na dynion o weithio mewn sector sydd wedi'i flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru, gan gynrychioli traean o'r gweithwyr a gyflogir yn y sectorau hyn.
Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru Iechyd
  • Mae dynion yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew, ysmygu a diota mwy nag yr argymhellir, ac mae ganddynt ddisgwyliad oes byrach;
  • Mae dynion hefyd yn llawer mwy tebygol o gyflawni hunan-laddiad, ond mae menywod yn fwy tebygol o dderbyn triniaeth am broblemau iechyd meddwl;
Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru Addysg a sgiliau
  • Mae bechgyn yn llai tebygol o gael pum cymhwyster TGAU rhwng A*-C. Mae menywod rhwng 19-24 oed yn fwy tebygol o beidio bod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET) nag ydyw dynion. Fodd bynnag, rhwng 16-18 oed, maent ychydig yn llai tebygol o beidio bod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;
  • Bu i 20 y cant yn fwy o fenywod na dynion dderbyn cymhwyster israddedig yng Nghymru yn 2014/15, ac roeddent yn yn fwy tebygol o gael eu derbyn ar raglenni prentisiaeth;
Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru Cymunedau a chyfiawnder
  • Bu i 8.3 y cant o fenywod rhwng 16-59 oed yng Nghymru ddioddef cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (gan orffen ym mis Mawrth 2016), o gymharu â 4.3 y cant o ddynion. Yn y ffigur hwn, bu i 3 y cant o fenywod ddioddef ymosodiad rhywiol, o gymharu â 0.5 y cant o ddynion, bu i 6.5 y cant o fenywod ddioddef cam-drin gan bartner, o gymharu â 2.7 y cant o ddynion, a bu i 4.4 y cant o fenywod ddioddef stelcio, o gymharu â 3.5 y cant o ddynion;
  • Mae merched yn fwy tebygol o fod yn ddigartref ac yn flaenoriaeth o ran angen, tra bo dynion yn fwy tebygol o fod yn ddigartref heb fod yn flaenoriaeth o ran angen;
  • Nid yw cyfraddau o ran tlodi yn neilltuol wahanol rhwng menywod a dynion, ond mae tai sydd mewn perygl mawr o dlodi, fel yn achos tai un rhiant, yn llawer mwy tebygol o fod dan ofal menywod.
Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru Cynrychiolaeth
  • Mae'r gyfran o Aelodau'r Cynulliad sy'n fenywod wedi disgyn i 41.7 y cant (o 50 y cant yn 2003), ac mae'r gyfran yn 33 y cant o ran Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n fenywod. Mae gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Senedd y DU un o'r cyfrannau isaf o ran Aelodau Seneddol sy'n fenywod, sef un (9 y cant);
  • O ran Llywodraeth Leol, dim ond 18 y cant o brif weithredwyr sy'n fenywod, a 27 y cant o gynghorwyr sy'n fenywod. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â staff awdurdodau lleol, oedd â 72 y cant yn fenywod yn 2014;
  • Yn 2014, dim ond 2 y cant allan o 100 busnes gorau Cymru oedd â phrif weithredwr oedd yn fenyw.
Pa ddangosyddion eraill a hoffech weld eu cynnwys? Pa ddata sydd ddim yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar lefel Cymru, neu a ddatgrynhoir o ran rhyw? Ffeithlun yn dangos data o ran rhywedd yng Nghymru
Erthygl gan Hannah Johnson, David Millett a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y bwlch o ran rhywedd: lansio dangosyddion cydraddoldeb o ran rhywedd yng Nghymru (PDF, 576KB)