Y bwlch llywodraethu amgylcheddol: pa mor gadarn yw’r mesurau interim?

Cyhoeddwyd 29/11/2022   |   Amser darllen munud

Ers canlyniad refferendwm yr UE, bu cryn bryder ar draws sector yr amgylchedd ynghylch bylchau mewn llywodraethu amgylcheddol ar ôl gadael yr UE. Mae'r sector yn ofni y gallai'r 'bwlch llywodraethu' hwn arwain at ddifrod amgylcheddol, gyda mecanweithiau cyfyngedig ar gyfer dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r DU wedi gwyro oddi wrth system llywodraethu amgylcheddol yr UE.

Mae sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn monitro sut mae cyfraith amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gweithredu gan Aelod-wladwriaethau. Maent yn cael cwynion gan ddinasyddion ac yn ystyried y cwynion hynny, a gallant gymryd camau gorfodi yn erbyn Aelod-wladwriaethau sy'n torri'r cyfreithiau hynny, gan gynnwys codi dirwyon. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder yr UE wedi chwarae rhan sylweddol wrth lywodraethu’r broses o roi deddfau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE ar waith ledled y DU, a datrys anghydfodau amgylcheddol trawsffiniol rhwng y DU ac Aelod-wladwriaethau eraill. Mae rhagor o fanylion ym Mriff Ymchwil y Senedd.

Mae rhanddeiliaid yn pryderu am y bwlch llywodraethu ac y n feirniadol o ddiffyg cynnydd Llywodraeth Cymru

Ym mis Mawrth 2018, ymrwymodd Llywoddraeth flaenorol Cymru i “fanteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i … gau’r bwlch llywodraethu”. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd unrhyw ddeddfwriaeth. Nid yw rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol yn cynnwys unrhyw ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath. Mae hyn wedi annog rhanddeiliaid i ddweud fod gan Gymru’r strwythurau llywodraethu amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.

Roedd y bwlch llywodraethu yn faes oedd yn peri pryder i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd. Cytunodd y Chweched Senedd – sydd newydd ei ffurfio – ar gynnig i gydnabod “yr angen i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd drwy adael yr UE.”. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i “deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru”.

Erbyn hyn, mae gan wledydd eraill y DU gyrff goruchwylio statudol ar waith. Er enghraifft, cyhoeddodd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (neu’r OEP) yn Lloegr adroddiad heriol i Lywodraeth y DU ar gyflawni ei Chynllun Amgylcheddol 25 Mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu mesurau interim

Er mwyn pontio'r bwlch cyn rhoi trefniadau llywodraethu amgylcheddol parhaol ar waith, sefydlodd Llywodraeth Cymru fesurau interim ar gyfer diogelu'r amgylchedd, dan arweiniad Asesydd InterimDiogelu'r Amgylchedd ('yr Asesydd Interim').

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru benodi Dr Nerys Llewelyn Jones yn Asesydd Interim.  Dechreuodd yn ei swydd ar 1 Mawrth 2021 am gyfnod o ddwy flynedd (gyda’r posibilrwydd o ymestyn am flwyddyn arall) ac “… yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu corff goruchwylio amgylcheddol parhaol”.

Rôl yr Asesydd Interim yw ystyried “sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio”. Mae ei hamcanion strategol fel a ganlyn:

  • Darparu gwasanaeth i'r cyhoedd sy'n caniatáu iddyn nhw gyflwyno eu cyflwyniadau ynghylch sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio yng Nghymru;
  • trwy gyfrwng adroddiadau, cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw gamau y gallai fod eu hangen; a
  • chyfrannu at ddatblygu’r dull parhaol o lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru.

Nid oes ganddi'r awdurdod cyfreithiol i gael cwynion ynghylch achosion o dorri cyfraith amgylcheddol na mynd i’r afael â’r cyfryw gwynion. Er mwyn cyflwyno her mewn perthynas â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, mae Llywodraeth Cymru’n cynghori dinasyddion i ddefnyddio dulliau presennol o unioni domestig – er enghraifft, adolygiad barnwrol.

Mae rhanddeiliaid wedi amlygu bod yr mesurau interim hyn ymhell o system llywodraethu amgylcheddol yr UE, neu’r hyn a fyddai’n ddymunol o dan gorff domestig.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd wedi dod i’r casgliad – er bod gwerth i’r mesurau interim – bod dirfawr angen corff llywodraethu amgylcheddol parhaol.

Nod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yw craffu ar gynnydd y mesurau interim hyd nes y bydd trefniadau parhaol yn eu lle. Mae ei ymchwiliad ar “fesurau interim diogelu’r amgylchedd” yn destun dadl yr wythnos nesaf.

Ar 30 Mehefin 2022, fe wnaeth y Pwyllgor glywed tystiolaeth ar flwyddyn gyntaf y mesurau interim gan Dr Llewelyn Jones a chynrychiolwyr sector yr amgylchedd. Llywiwyd y sesiwn gan Adroddiad Blynyddol 2021-22, (Mehefin 2022)yr Asesydd Interim, a cyflwyniadau ysgrifenedig gan randdeiliaid.

Mae Adroddiad Blynyddol yr Asesydd Interim yn crynhoi’r broses o sefydlu'r gwasanaeth i dderbyn cyflwyniadau gan y cyhoedd ac ystyried y cyflwyniadau hynny. Mae’n cydnabod ei bod wedi cymryd “llawer o amser” a oedd yn cynnwys “bod wrthi’n gyson yn adolygu ac yn diwygio’r prosesau”. Mae'n manylu ar waith i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a meithrin perthynas â chymheiriaid yn y DU.

Mae’n dweud bod y galw ar y gwasanaeth wedi bod yn fwy na’r disgwyl yn ystod y flwyddyn gyntaf, gyda 21 o gyflwyniadau wedi dod i law, sy’n:

…dangos yn glir bod gan y cyhoedd lawer o ddiddordeb mewn gwarchod yr amgylchedd, a bod yna awydd i sicrhau bod y gyfraith yn gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru.

Themâu allweddol y cyflwyniadau oedd coedwigaeth, ansawdd dŵr, a gwrychoedd.

Yn ôl RSPB Cymru, roedd nifer y cyflwyniadau yn dangos pryder sylweddol yng Nghymru ynghylch rhoi cyfraith amgylcheddol ar waith.

Tynnodd y rhanddeiliaid sylw at ddiffyg tryloywder yng ngwaith yr Asesydd Dros Dro. Roedd ganddynt gwestiynau ar sut y cesglir tystiolaeth ar gyfer yr adroddiadau i Weinidogion Cymru.

Yn ystod y cyfnod adrodd, ni chynhyrchodd yr Asesydd Dros Dro unrhyw adroddiadau ar gyfer y Gweinidogion. Eglurodd – er ei bod wedi gobeithio adrodd ar goedwigaeth o fewn y flwyddyn gyntaf – fod y galw ar y gwasanaeth y gaeaf diwethaf yn effeithio ar yr amserlen. Dywedodd fod y swyddfa yn gorff bach gydag adnoddau cyfyngedig.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad ei fod wedi ei “galonogi” gan faint mae swyddfa'r Asesydd Dros Dro wedi'i gyflawni yn ystod ei blwyddyn gyntaf, er gwaethaf adnoddau cyfyngedig. Tynnodd sylw at le i wella, yn enwedig o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd a thryloywder.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb gydag ymrwymiad i gynnal adolygiad mewnol o'r adnoddau sydd ar gael i'r Asesydd Dros Dro, ac fe groesawyd hynny gan yr Asesydd Dros Dro. Fe wnaeth hi fanylu ynghylch gwaith parhaus manwl i wneud y mesurau interim yn fwy hygyrch a thryloyw.

Pwysleisiodd yr Asesydd Dros Dro na all ystyried achosion o dorri cyfraith amgylcheddol a thynnodd sylw pellach at y canlynol:

I don't have powers to require action to take place as a result of any recommendations that I make or to require public bodies to undertake certain actions as a result of recommendations that I've made either.

Croesawodd y cynrychiolwyr o sector yr amgylchedd rôl yr Asesydd Dros Dro fel “ateb tymor byr”. Fodd bynnag, maent yn honni bod cwmpas cul y mesurau interim yn golygu bod bwlch llywodraethu yn bodoli yng Nghymru.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod y mesurau interim yn cyflawni swyddogaeth bwysig i wella cyfraith amgylcheddol. Fodd bynnag, dywedodd nad ydynt “yn agos at fod y corff goruchwylio sy’n gweithredu’n llawn ac sydd ag adnoddau da y mae ei angen ar Gymru i sicrhau llywodraethu amgylcheddol effeithiol a chydlynol.”

Er bod y Pwyllgor yn croesawu ffocws amgylcheddol y rhaglen ddeddfwriaethol, pwysleisiodd fod goruchwyliaeth effeithiol “wir ar goll” yng Nghymru pan fydd y llywodraeth yn methu â chyflawni. Mae’n “colli amynedd fwyfwy” wrth aros i Fil gael ei gyflwyno.

Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru