Mae meddyginiaethau yn chwarae rôl ganolog mewn gofal iechyd yn yr oes fodern, ond gydag adnoddau cyfyngedig mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynghylch pa driniaethau newydd i’w cyllido. Gallai newidiadau diweddar i’r ffordd y caiff pa mor costeffeithiol yw meddyginiaethau ei asesu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ynghyd â diweddariadau i’r cynllun prisio ledled y DU, effeithio ar ba feddyginiaethau sy’n cael eu hargymell a beth fydd y gost i’r GIG.
Mae’r papur briffio hwn yn trafod y broses ar gyfer sicrhau bod meddyginiaethau ar gael i gleifion yng Nghymru. Mae’n egluro sut y caiff meddyginiaethau eu trwyddedu a’u hasesu ar gyfer effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd o ran cost, rôl Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru a’r ffordd y caiff y Gronfa Triniaethau Newydd ei gweithredu. Hefyd, mae’n archwilio’r ffordd y caiff gwariant ar feddyginiaethau newydd ei reoli a sut y gall cleifion gael mynediad at driniaethau sydd ddim ar gael yn arferol drwy geisiadau cyllido cleifion unigol.
Erthygl gan John Hitchcock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru