Ddydd Mawrth 7 Mawrth, bydd Aelodau o’r Senedd yn cynnal dadl ynghylch gwelliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 3 taith y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) drwy'r Senedd, ac yn pleidleisio ar y gwelliannau hynny.
Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o’r newidiadau a wnaed i’r Bil yng Nghyfnod 2, a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 23 Ionawr 2023.
Mae Llywodraeth Cymru’n disgrifio’r Bil hwn fel “fframwaith i wella llesiant pobl Cymru, gan wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol”.
Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Senedd. Mae ein Crynodeb o'r Bil – a gyhoeddwyd cyn dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2022 – yn esbonio’r hyn y mae’r Bil yn ei wneud a’r materion allweddol a godwyd yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1.
Gallwch wylio’r trafodion ar gyfer dadl Cyfnod 3 yn fyw ar Senedd TV ar 7 Mawrth.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru