Arwydd Senedd Cymru - Welsh Parliament y tu allan i adeilad y Senedd

Arwydd Senedd Cymru - Welsh Parliament y tu allan i adeilad y Senedd

Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes): Cydsyniad deddfwriaethol a materion o bwys i Gymru

Cyhoeddwyd 19/02/2026

Yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud

Mae’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes), a elwir yn aml yn y bil marw â chymorth, yn Fil Aelod Preifat a gyflwynwyd yn Senedd y DU ar 16 Hydref 2024 gan Kim Leadbeater AS. Ei ddiben yw caniatáu i oedolion sydd â salwch terfynol, yn amodol ar fesurau diogelwch llym, ofyn am ddod â'u bywyd eu hunain i ben a chael cymorth i wneud hynny.

Mae'r Bil yn diwygio Deddf Hunanladdiad 1961 i amddiffyn unigolion sy'n gweithredu o fewn ei darpariaethau rhag atebolrwydd troseddol, ac mae’n nodi fframwaith rheoleiddio ar gyfer sut y mae rhaid darparu cymorth. Byddai cynorthwyo hunanladdiad y tu allan i'r darpariaethau hyn yn parhau yn drosedd o dan y Ddeddf Hunanladdiad.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal safbwynt niwtral ar basio'r Bil ac ar fater ehangach marw â chymorth.

Ym mis Hydref 2024, cynhaliodd y Senedd bleidlais nad oedd yn rhwymol, a gwrthododd egwyddorion marw â chymorth. Yn nodedig, pleidleisiodd Eluned Morgan AS y Prif Weinidog,, a Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yr 'Ysgrifennydd Cabinet'), yn erbyn y cynnig. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ers hynny ei bod yn parhau yn niwtral ar y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) a'r cwestiwn ehangach o farw â chymorth.

Pam mae angen cydsyniad deddfwriaethol

Er bod cyfraith droseddol ar hunanladdiad yn parhau wedi’i chadw’n ôl i Senedd y DU, mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig, fel:

  • canllawiau ynghylch gweithredu’r Ddeddf
  • rheoliadau ar sut y byddai gwasanaethau marw â chymorth gwirfoddol yn gweithredu yng Nghymru
  • monitro gan Gomisiynydd Marw â Chymorth yn Wirfoddol 
  • gofynion ar gyfer gwybodaeth ddwyieithog

O dan y confensiwn cydsyniad deddfwriaethol, mae Senedd y DU yn gofyn am gydsyniad y Senedd cyn deddfu mewn meysydd datganoledig. Mae'r confensiwn hwn, fodd bynnag, yn wleidyddol yn hytrach na chyfreithiol rwymol, a gall Senedd y DU fwrw ymlaen o hyd pe bai'r Senedd yn gwrthod cydsyniad. Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) ar 9 Ebrill 2025, ac yna Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar 4 Gorffennaf 2025. Gwahoddwyd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad  i graffu ar y rhain.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach (Memorandwm Rhif 3) ar 23 Rhagfyr 2025. Mae'n cwmpasu gwelliannau perthnasol a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ystod y Cyfnod Pwyllgor nad ydynt, ar adeg ysgrifennu, wedi'u derbyn hyd yma.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol arall (Memorandwm Rhif 4) ar 16 Chwefror 2026. Mae'n egluro bod Llywodraeth Cymru, yn sgil y nifer uchel iawn o welliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi, wedi mabwysiadu dull pragmataidd o nodi pa welliannau y bydd angen cydsyniad y Senedd yn eu cylch. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar welliannau 'allweddol' y noddwr – sef y rhai a gyflwynwyd gan noddwr y Bil sy'n cyflwyno cymalau newydd neu'n diwygio darpariaethau a oedd gynt yn destun cydsyniad deddfwriaethol.

Ystyriaeth pwyllgorau’r Senedd

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol alwad fer am dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch y Memorandwm gwreiddiol, ac wedi hynny, cynhaliodd sesiwn dystiolaeth lafar gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ym mis Gorffennaf 2025. Roedd adroddiad y Pwyllgor , a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025, yn canolbwyntio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn hytrach na'r ddadl foesegol ar farw â chymorth.

Dyma rai o'r prif gasgliadau:

  • Mae'r Pwyllgor yn parhau yn niwtral ac nid yw'n cynghori Aelodau ynghylch a ddylent gefnogi'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
  • Os cyflwynir rheoliadau i weithredu gwasanaethau marw â chymorth yng Nghymru, dylent:
    • gael eu cyhoeddi ar ffurf drafft, ar gyfer ymgynghori yn eang â’r cyhoedd.
    • caniatáu digon o amser i graffu gan y Senedd
    • cynnwys manylion polisi clir a chostau llawn
  • Rhaid mynd i’r afael â goblygiadau i’r gweithlu, gan gynnwys anghenion hyfforddi, rhagor o gyfrifoldebau, a darpariaeth Gymraeg. Dylai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd, ac amlinellu cynlluniau i sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg a’u bod yn hygyrch i’r rhai nad yw eu hiaith gyntaf yn Gymraeg nac yn Saesneg.
  • Rhaid gwahaniaethu'n glir rhwng marw â chymorth a gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Ni ddylai gweithredu’r Ddeddf gael effaith negyddol ar gyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad (Hydref 2025) yn canolbwyntio ar gwmpas cydsyniad y Senedd, y defnydd o bwerau cydredol a chanllawiau, a darpariaethau cychwyn ar gyfer Cymru.

Cafodd dadl yn y Senedd a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 27 Ionawr 2026 ei gohirio tan 24 Chwefror 2026. Gwnaed y penderfyniad hwn yn sgil pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad na fyddai’r amserlen a bennwyd ar ôl i Femorandwm Rhif 3 gael ei osod yn caniatáu ar gyfer gwaith craffu digonol. Nododd adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 27 Ionawr, fod dros 1,150 o welliannau pellach wedi cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond nad oedd Memorandwm Rhif 3 yn rhoi unrhyw arwydd ynghylch a oedd Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r gwelliannau, eu perthnasedd i faterion datganoledig, neu a fyddai angen cydsyniad y Senedd ar gyfer unrhyw rai ohonynt. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2026, dywedodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nad oedd wedi gallu gwneud gwaith ymgynghori ar Femorandwm Rhif 3 o fewn yr amser a oedd ar gael.

Gweithredu a goblygiadau ehangach

Un o'r materion o bwys a amlygwyd yn ystod gwaith craffu gan bwyllgorau’r Senedd oedd bod angen eglurder ynghylch pwy sydd â'r pŵer i weithredu marw â chymorth yng Nghymru - ai Gweinidogion Cymru neu Lywodraeth y DU. Eglurodd yr Ysgrifennydd Cabinet er bod cychwyn y ddeddfwriaeth yn nwylo Ysgrifennydd Gwladol y DU (gan fod y Bil yn diwygio Deddf Hunanladdiad 1961), byddai cyflwyno gwasanaethau marw â chymorth gwirfoddol o fewn y GIG yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau gael eu gosod gan Weinidogion Cymru a'u cymeradwyo gan y Senedd.

Mae ansicrwydd hefyd ynghylch rôl darparwyr preifat. Mae'r Bil yn caniatáu darpariaeth nad yw’n gyhoeddus p'un a yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno gwasanaethau marw â chymorth gwirfoddol y GIG ai peidio. Mae hyn yn codi pryderon, os na chyflwynir gwasanaethau’r GIG, mai dim ond y rhai sy’n gallu fforddio talu am farw â chymorth a all gael y gwasanaeth, ac y byddai hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau. O ran rheoleiddio, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet y gellid defnyddio pwerau presennol i reoleiddio gofal iechyd annibynnol, a nododd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y Bil yn darparu pwerau rheoleiddio priodol ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Tynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylw at oblygiadau trawsffiniol, gan gynnwys yr ansicrwydd a'r heriau a allai godi pe bai gwasanaethau marw â chymorth ar gael yn Lloegr ond nid yng Nghymru, neu pe bai modelau gwasanaeth yn amrywio ar draws ffiniau. Gallai'r gwahaniaethau hyn greu problemau ymarferol a chyfreithiol i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Nododd y Pwyllgor y bydd angen i unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ystyried y materion hyn yn ofalus wrth benderfynu ar ei dull gweithredu.

Mae pryderon tebyg wedi’u codi ynghylch cynigion yr Alban, ble mae meini prawf cymhwysedd ar hyn o bryd yn llai cyfyngol nag ym Mil Lloegr / Cymru. Mae hyn wedi ysgogi ofnau am lif trawsffiniol o “dwristiaid marwolaeth” posibl.

Mae Bil Marw â Chymorth i Oedolion Terfynol Sâl (Yr Alban) ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 yn Senedd yr Alban. Mae rhannau eraill o'r DU hefyd yn ystyried newid: pasiodd  Bil Marw â Chymorth Ynys Manaw ei gyfnod olaf yn Tynwald ym mis Mawrth 2025, ac mae'n aros am Gydsyniad Brenhinol, ac mae cynigion ar gyfer marw â chymorth hefyd wrthi’n cael eu hystyried yn Jersey.

Cynnydd yn Senedd y DU

Mae'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) wedi gwneud ei hynt drwy Dŷ'r Cyffredin ac mae ar hyn o bryd yn y cyfnod pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi. Penodwyd Pwyllgor Dethol yr Arglwyddi i ystyried y Bil – sydd yn gam gweithdrefnol anarferol ar gyfer y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth, ac sy'n adlewyrchu ei gymhlethdod a'i sensitifrwydd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 11 Tachwedd 2025.

Ailddechreuodd Cyfnod Pwyllgor yr Arglwyddi ar 9 Ionawr 2026. Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a’i gyfnodau seneddol, a phapurau briffio perthnasol o lyfrgelloedd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, ar gael ar wefan Senedd y DU.

Y camau nesaf

Mae dadl y Senedd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i threfnu ar gyfer 24 Chwefror 2026. Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet yn flaenorol nad oedd yn debygol y byddai’r Bil yn cael ei gwblhau tan ddechrau 2026, a bod disgwyl i'w weithredu gymryd tua phedair blynedd. Dywedodd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd penderfyniadau ynghylch a ddylid cyflwyno gwasanaethau marw â chymorth yng Nghymru yn debygol o fod yn nwylo Llywodraeth nesaf Cymru, ac y bydd angen ymgynghori helaeth, cynllunio gweithredol, datblygu'r gweithlu a gwaith polisi. Nododd y byddai gwaith rhagarweiniol yn cael ei wneud i sicrhau bod opsiynau ar gael i'r llywodraeth newydd.

Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru