Y Bil Lobïo

Cyhoeddwyd 27/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Medi 2013 Ar 4 Gorffennaf trafododd y blog hwn gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer creu cofrestr o lobïwyr a’r ansicrwydd ynghylch a fyddai’r Cynulliad yn rhan o’r cynlluniau hynny. Cafodd Bil Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2013-14   ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar 17 Gorffennaf 2013. Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth mewn tri maes:
  • Mae’n sefydlu cofrestr o lobïwyr proffesiynol a Chofrestrydd lobïwyr i oruchwylio a gorfodi’r gofynion cofrestru.
  • Mae’n newid y gofynion cyfreithiol ar gyfer pobl neu sefydliadau sy’n ymgyrchu mewn perthynas ag etholiadau ond nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr neu blaid wleidyddol gofrestredig.
  • Mae’n newid y gofynion cyfreithiol mewn perthynas â rhwymedigaethau undebau llafur i ddiweddaru eu rhestr o aelodau.
Mae Rhan 1 y Bil yn cwmpasu pob rhan o’r Deyrnas Unedig.  Mae’r gofyniad i gofrestru yn gymwys i bob lobïwr ymgynghorol sy’n ymwneud â lobïo Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Parhaol Llywodraeth y DU, ni waeth ymhle y digwydd y lobïo neu ymhle y lleolir y lobïwr ymgynghorol. Serch hynny, nid yw Rhan 1 yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ynghylch y rhai hynny sy’n lobïo’r Gweinyddiaethau a’r Deddfwrfeydd Datganoledig.  Mae’n ymdrin â materion neilltuedig yn unig ac nid oes angen caniatâd y deddfwrfeydd datganoledig.  Felly, ni fydd gofyn i’r Cynulliad fod â chofrestr o lobïwyr.  Mae Rhan 2 y Bil yn cwmpasu pob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn ymdrin â materion neilltuedig yn unig ac nid oes angen caniatâd y deddfwrfeydd datganoledig.  Mae rhai diwygiadau hefyd yn cwmpasu Gibraltar. Bydd y darpariaethau ynghylch cofrestri aelodau’r Undebau Llafur a fewnosodir yn TULRCA gan Ran 3 yn berthnasol i Gymru a Lloegr a hefyd i’r Alban ond nid i Ogledd Iwerddon, lle mae hynny’n fater datganoledig. Bu Ail Ddarlleniad y Bil ar 3 Medi 2013 a chraffwyd arno gan Bwyllgor o’r Tŷ Cyfan ar 9,10 ac 11 Medi. Mae Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Ddiwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol wedi bod yn feirniadol o’r diffyg cyfle i graffu ar y Bil cyn y broses ddeddfu, ac mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i dynnu’r Bil yn ôl. Mae gan amryw o gyrff, gan gynnwys Y Comisiwn Etholiadol a’r WCVA, bryderon am Ran 2 y Bil a’i heffaith ar gyrff y trydydd sector yng Nghymru. Yn ôl y WCVA: "Mae Rhan 2 o'r bil yn effeithio ar weinyddiaethau datganoledig yn uniongyrchol, o ran (1) ymgyrchu yn ystod cyfnodau etholiadau San Steffan; ac (2) ymgyrchu yn ystod cyfnodau etholiadau datganoledig ac etholiadau'r Undeb Ewropeaidd. Golyga hyn bod posibilrwydd y bydd rôl cymdeithas sifil mewn etholiadau i'r gweinyddiaethau datganoledig yn cael ei chyfyngu'n ddifrifol gan fil a basiwyd yn San Steffan, heb ddim ymgynghori, neu ddim llawer, â'r gweinyddiaethau hynny. Mae'n bosib iawn y bydd rhaid i fwy o fudiadau o Gymru gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol, a gwneud cyfrif am eu gwariant, gan gynnwys digwyddiadau, maniffestos polisi ac amser staff  a dreulir ar y rhain." Bydd Cyfnod Adrodd y Bil ar 8 Hydref 2013. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno rhai gwelliannau i fynd i’r afael â’r pryderon am Ran 2, ar ôl ymgynghori â’r trydydd sector a’r Comisiwn Etholiadol. Ceir mwy o wybodaeth ym mhapur y Gwasanaeth Ymchwil. Erthygl gan Alys Thomas.