Cafodd Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) ei gyflwyno yn y Senedd ddydd Llun 29 Medi 2025.
Mae’r dudalen hon yn casglu ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) ar y dudalen we ar ei gyfer. Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Cyhoeddiadau Ymchwil y Senedd
- Geirfa Ddwyieithog Ymchwil y Senedd: Dyma restr o dermau newydd a thermau technegol yn y Bil. Bwriedir iddi gefnogi gwaith craffu dwyieithog
- Crynodeb o'r Bil gan Ymchwil y Senedd: Yn rhoi trosolwg o bob un o ddarpariaethau'r Bil a chyfeiriadau at ragor o fanylion