Cyflwynwyd y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) (y Bil) i’r Senedd ar 29 Medi 2025.
Mae’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio, os caiff ei ddeddfu, y bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd gweithredu stadiwm (neu leoliad tebyg) ar gyfer rasio milgwn yng Nghymru. Bydd hefyd yn drosedd bod yn rhan o drefnu rasio milgwn yng Nghymru. Diffinnir “rasio milgwn” fel cymell milgwn i redeg o amgylch trac ar ôl llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol. Mae hyn yn cynnwys amseru neu hyfforddi milgi wrth iddo redeg o amgylch trac.
Mae’r papur briffio hwn yn rhoi gwybodaeth gefndir am rasio milgwn ym Mhrydain Fawr a datblygiad polisi Cymru. Mae hefyd yn crynhoi darpariaethau’r Bil.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru