Mae’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Mae’n cynnig tynnu ynghyd a ffurfioli’r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru a’r gofynion ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth Cymru. Mae hefyd yn ceisio gwella hygyrchedd y gyfraith drwy ddiddymu a diwygio darpariaethau a deddfiadau o ran Cymru nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach, a thrwy wneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Mae’r Crynodeb hwn o'r Bil yn rhoi trosolwg o’r darpariaethau yn y Bil, ac yn cyfeirio at ragor o wybodaeth.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru