Person yn edrych ar wefan Legislation.gov ar liniadur.

Person yn edrych ar wefan Legislation.gov ar liniadur.

Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): Arbenigol ond Angenrheidiol?: Pigion

Cyhoeddwyd 27/02/2025   |   Amser darllen munudau

Ar 4 Mawrth, bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sydd wedi bod yn arwain y gwaith craffu ar y Bil.

Mae'r Bil yn gwneud pedwar peth. Mae’n:

  • Codeiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwaith craffu’r Senedd ar is-ddeddfwriaeth;
  • Ffurfioli'r ffordd y caiff deddfwriaeth Cymru ei chyhoeddi;
  • Diddymu deddfiadau nad ydynt bellach o “ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd”; a
  • Gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Mae'r Erthygl hon yn edrych ar rai o'r materion a godwyd gan randdeiliaid yn ystod y gwaith craffu, yn ogystal â rhai o gasgliadau'r Pwyllgor yn ei adroddiad. I gael golwg fanylach ar ddarpariaethau'r Bil, gweler ein tudalen adnoddau.

A oes angen y Bil?

  • Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod "angen y Bil hwn yng nghyd-destun ehangach sicrhau hygyrchedd cyfraith Cymru". Argymhellodd y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Roedd rhanddeiliaid eraill yn lleisio barn debyg. Dywedodd Dr Ruth Fox o’r Gymdeithas Hansard, er bod dadleuon bob amser na ddylai eglurhad deddfwriaethol gael blaenoriaeth dros faterion eraill, mae eglurhad o'r fath yn bwysig. Ychwanegodd Dr Adam Tucker o Brifysgol Lerpwl bod y Bil yn ffordd dda a chydlynol o ddilyn polisi synhwyrol.

Gweithdrefnau craffu ar is-ddeddfwriaeth

  • Mae Rhan 1 y Bil yn ailddatgan y gweithdrefnau craffu presennol ar gyfer is-ddeddfwriaeth, tra'n rhoi labeli newydd iddynt:
    • Gweithdrefn Gymeradwyo’r Senedd
    • Gweithdrefn Gadarnhau'r Senedd
    • Gweithdrefn Dirymiad y Senedd
  • Mae ein herthygl flaenorol yn amlinellu'r gweithdrefnau hyn yn fanylach.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y labeli a ddarperir “yn taro cydbwysedd priodol rhwng darparu disgrifiad cywir a’u gwneud yn hawdd i’w deall.”

Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru

  • Er mai Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin sy’n cyhoeddi ac yn cadw deddfwriaeth Cymru ar hyn o bryd, nid oes gofyniad statudol iddo wneud hynny.
  • Byddai Rhan 2 y Bil yn cyflwyno'r gofyniad hwn ac yn ailenwi Argraffydd y Brenin yn Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru pan fydd yn cyflawni swyddogaethau'n ymwneud â deddfwriaeth Cymru.
  • Byddai hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban, lle mae Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban yn bodoli fel swydd ar wahân (er mai’r un person sy’n gwasanaethu yn y ddwy rôl ar hyn o bryd)
  • Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai fod cydraddoldeb â threfniadau cyfreithiol mewn mannau eraill yn y DU ac argymhellodd bod Llywodraeth Cymru yn esbonio pam nad yw’r Bil yn bwriadu adlewyrchu trefniadau yn yr Alban.

Diddymiadau

  • Mae Rhan 3 y Bil yn darparu ar gyfer diddymu a diwygio deddfiadau (adrannau neu Ddeddfau cyfan) yr ystyrir nad ydynt bellach o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd.
  • Gosododd Llywodraeth Cymru feini prawf iddi hi ei hun ar gyfer penderfynu pa ddeddfiadau y gellid eu cynnwys i'w diddymu. Er bod y Pwyllgor wedi ystyried rhai o’r diddymiadau yn fanylach, roedd yn fodlon bod y darpariaethau a gynhwysir yn y Bil yn bodloni’r meini prawf a nodir gan Lywodraeth Cymru i'w cynnwys.

A allai’r Bil fynd ymhellach?

  • Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar ffyrdd y gellid cryfhau’r gwaith craffu ar is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys:
    • y posibilrwydd o gael 'pwyllgor sifftio' a fyddai'n gyfrifol am benderfynu ar y lefel briodol o graffu ar gyfer pob darn o is-ddeddfwriaeth; ac
    • a ddylid cyflwyno mecanwaith a fyddai’n galluogi diwygio is-ddeddfwriaeth yn ystod y gwaith craffu.
  • Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y ddau syniad hyn yn haeddu ystyriaeth bellach.

Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 4 Mawrth 2025. Dilynwch y ddadl yn fyw ar Senedd.tv


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru