Yr erthygl hon yw'r olaf yn ein cyfres yn trafod y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018 gan Lywodraeth y DU ar berthynas y DU a'r UE yn y dyfodol, a materion yn ymwneud â thrafnidiaeth sy'n cael eu trafod y tro hwn.
Mae'r Papur Gwyn yn gosod safbwynt Llywodraeth y DU ynghylch trafnidiaeth awyr, ffyrdd, rheilffyrdd a'r môr - meysydd y mae Llywodraeth y DU yn credu y byddai'n ddymunol cydweithredu arnynt. Fodd bynnag, gan fod blaenoriaethau Llywodraeth y DU o ran rheilffyrdd yn canolbwyntio ar ddod i gytundebau dwyochrog ag Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd ynghylch teithio trawsffiniol drwy dwnnel y Sianel ac ar ynys Iwerddon, mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar yr agweddau sy'n uniongyrchol berthnasol i Gymru.
Roedd ymateb rhanddeiliaid trafnidiaeth y DU a diwydiannau cysylltiedig i'r Papur Gwyn yn weddol gadarnhaol, ond roedd yr ymateb i'r Papur Gwyn gan Michel Barnier yn llai cadarnhaol o ran materion allweddol megis masnach hwylusedig a thollau. Gyda'r posibilrwydd y bydd pwysau o Frwsel am gyfaddawdu pellach ac y bydd y DU yn ymwrthod â hynny, mae dyfodol cynigion y Papur Gwyn ymhell o fod yn sicr.
Er yr ymddengys fod cytundeb yn ymddangos i fod yn agos mewn meysydd allweddol megis trafnidiaeth awyr, o ystyried egwyddor arweiniol yr UE na chaiff dim byd ei gytuno hyd nes y bydd popeth yn cael ei gytuno, cynhelir trafodaethau dros y misoedd nesaf sydd o bwys i bawb dan sylw, gan gynnwys y sector trafnidiaeth.
Wrth i’r erthygl hon gael ei phostio, dechreuodd Llywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau ar sut i baratoi ar gyfer Brexit os na fydd cytundeb.
Trafnidiaeth awyr
Mae rôl yr UE ym maes trafnidiaeth awyr yn cwmpasu tri maes allweddol: trafnidiaeth awyr y farchnad sengl (Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop neu'r ECAA); Cytundebau Trafnidiaeth Aer dwyochrog gyda gwledydd nad ydynt yn yr UE); a mentrau ar draws yr UE sy'n ymwneud â diogelwch (Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop, neu EASA) a rheoli traffig awyr (Awyr Sengl Ewropeaidd).
Er bod cyfraith ryngwladol yn gymwys i drafnidiaeth awyr, cyfyngedig yw'r trefniadau wrth gefn a gynigir. Daeth y Sefydliad Llywodraethu i'r casgliad pe na byddai cytundeb, byddai'r DU, ar y mwyaf, yn parhau i fwynhau'r pum “Rhyddid Awyr” cyntaf o'r naw ar ôl ymadael â'r UE. Ym mis Tachwedd 2017, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr wrth Glwb Hedfan y DU:
When the UK leaves the European Single Market, it will also leave the European Common Aviation Area. And when it breaks from the European Union, all traffic rights to the rest of the world associated with Europe will also be thrown into question. And, as we all know, the basis of international aviation is bilateral air services agreements. There is no WTO agreement to fall back on. For that reason, I don't see any alternative to a negotiated agreement.
Mae'r Papur Gwyn yn ffurfioli safbwynt Llywodraeth y DU fel y'i nodir yn ei fframwaith ar gyfer partneriaeth trafnidiaeth rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018, ac mae'n cynnig:
- Cytundeb Trafnidiaeth Awyr a fyddai'n galluogi cludwyr y DU a'r UE i weithredu eu gwasanaethau i diriogaeth y DU a'r UE, o'r diriogaeth honno ac o'i mewn, a hynny ar sail gydradd;
- Cydweithredu agos wrth reoli traffig awyr yn ogystal â chydweithredu agos o ran diogelwch awyr;
- Parhau i fod yn rhan o'r EASA, sef y corff sy'n datblygu ac yn monitro rheolau cyffredin ynghylch diogelwch a'r amgylchedd ar lefel Ewropeaidd, ac sy'n darparu arbenigedd technegol, hyfforddiant ac ymchwil.
Yn ogystal â thrwyddedu peilotiaid a'u hyfforddi, a thrwyddedu awyrennau, mae EASA hefyd yn ardystio injans a rhannau ar gyfer awyrennau ac yn cymeradwyo sefydliadau i'w dylunio. Mae hyn yn gwneud y sefydliad yn ganolog wrth fasnach a gweithgynhyrchu yn y DU yn y sectorau hedfan a'r awyrofod. Mae cytundeb ar EASA yn bryder mawr i weithgynhyrchwyr a chyflenwyr awyrennau ar draws y DU, gan gynnwys Airbus.
Fe wnaeth canllawiau Brexit y Cyngor Ewropeaidd ym mis Mawrth 2018 (PDF 296KB) nodi y dylid cael cytundeb trafnidiaeth awyr ochr yn ochr â chytundebau diogelwch hedfan fel rhan o'r nod ehangach o sicrhau cysylltedd parhaus. Fodd bynnag, tra bo Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ill dau wedi darparu rhywfaint o fanylion ychwanegol ar eu sefyllfa a'u blaenoriaethau, nid yw'r cytundeb wedi'i gwblhau eto.
Mae ymateb y diwydiant awyrennau i'r Papur Gwyn wedi bod yn lled-gadarnhaol. Fe wnaeth y Sefydliad Gweithredwyr Meysydd Awyr (AOA) groesawu'r Papur Gwyn, gan alw am gadarnhad cynnar ynghylch cael cytundeb ymadael a'r trafodaethau cynnar rhwng Awdurdod Hedfan Sifil y DU ac EASA.
Yn yr un modd, croesawodd y Sefydliad Gweithgynhyrchwyr Awyrennau Cyffredinol (GAMA) y cadarnhad hirddisgwyliedig ynghylch y nod o fod yn rhan o EASA, yn ogystal â chynigion ar dollau a nwyddau a weithgynhyrchir. Fodd bynnag, tynnodd GAMA sylw at nifer o gwestiynau a oedd yn dal heb eu hateb - gan gynnwys trefniadau ar gyfer symudiad personél awyrennau - a galwyd ar EASA a CAA i ddechrau deialog â'r diwydiant.
 chyhoeddiad maes awyr Caerdydd yn ei adroddiad blynyddol ym mis Ionawr 2018 fod 8 o'r 10 ehediad uniongyrchol mwyaf poblogaidd yn teithio o fewn 27 aelod-wladwriaeth yr UE, bydd y maes awyr, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn cadw llygad craff ar y negodiadau. Er bod y Papur Gwyn yn mynd i'r afael â rhai o'r materion a nodwyd gan y maes awyr mewn tystiolaeth (PDF 153KB) i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (MADY) y Cynulliad ym mis Chwefror - megis bod yn rhan o'r farchnad hedfan sengl ac EASA - mae'r maes awyr yn debygol o fod yn awyddus i gael mwy o fanylion a chynnydd solet.
Mae hefyd yn eithaf clir nad yw'r maes awyr wedi cael popeth o'r hyn y mae ei eisiau. Er enghraifft, cynigiodd y dylai fod gan y DU hawliau pleidleisio o fewn yr EASA - a wrthodwyd yn ddatganedig yn y Papur Gwyn - a galwodd am gadarnhad ynghylch safbwynt y DU mewn perthynas â mewnfudo sydd eto i gael ei nodi mewn manylder.
Trafnidiaeth ffyrdd
Mae cyfraith yr UE yn rheoli agweddau arwyddocaol o drafnidiaeth ffyrdd (PDF 87 KB), gan gynnwys: trwyddedu gyrwyr ac amser gweithio; mynediad i broffesiynau; cludo nwyddau yn rhyngwladol a chludo teithwyr ar fysiau a choets.
Fel y diwydiant awyrennau, mae safonau'r UE hefyd yn berthnasol i weithgynhyrchu cerbydau ffyrdd. Drwy'r broses cymeradwyo math, bydd awdurdodau cymeradwyo penodedig ar gyfer aelod-wladwriaethau, gan gynnwys awdurdod tystysgrifau cerbydau y DU yn cadarnhau bod samplau cynhyrchu cerbydau yn bodloni safonau penodol. Mae'r diwydiant a defnyddwyr ffyrdd yn cefnogi'r safonau yn eang.
Er bod safonau a chytundebau rhyngwladol yn bodoli fel sefyllfa "wrth gefn", mae'r rhain yn fwy cyfyngedig na fframwaith mewnol a fframwaith cyfreithiol yr UE. Er enghraifft, bydd y system cwota amlochrog ar gyfer trwyddedau cludiant ffordd ar draws Ewrop yn cynnig rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer croes fasnachu, ond ac eithrio masnach arforol.
Yn yr un modd â thrafnidiaeth awyr, bydd cytundeb ar gymeradwyo math cerbydau hefyd yn fater mawr i ddiwydiant yng Nghymru gan fod sector moduron Cymru yn cynnwys tua 150 o gwmnïau, ac amcangyfrifir iddynt gyflogi 18,000 o bobl a chynhyrchu £3 biliwn i'r economi yn flynyddol.
Mae'r Papur Gwyn yn ymrwymo i ystyried opsiynau ar gyfer mynediad cyfatebol i lorïau cludo nwyddau a gweithredwyr cludo teithwyr, a threfniadau ar gyfer moduro preifat. Rhoddodd fframwaith Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth trafnidiaeth yn y dyfodol (uchod) fanylion pellach ar flaenoriaethau negodi'r Llywodraeth, gan alw am gynnal:
- mynediad rhydd i gludo nwyddau ar lorïau, gan gynnwys masnach arforol a thraws-fasnachu;
- teithio trawsffiniol rhydd mewn bws neu goets; a
- rhyddid dinasyddion i yrru yn y DU a'r UE heb wiriadau a dogfennaeth ychwanegol.
Mae'r Papur Gwyn hefyd yn cyfeirio at y Ddeddf Cofrestru Trwyddedau Cludo ac Ôl-gerbydau 2018 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 19 Gorffennaf. Mae'r Ddeddf yn creu'r model ar gyfer nifer o amgylchiadau, gan gynnwys Brexit 'dim bargen'. Byddai'n caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ymdrin â chanlyniadau ystod o senarios ymadael ar ddiwydiant cludo'r DU trwy greu cynllun trwyddedau cludiant rhyngwladol.
O ran safonau cerbydau, dywed y Papur Gwyn y byddai'r fframwaith cyffredin ar gyfer nwyddau a weithgynhyrchir yn cynnwys y system gymeradwyo ar gyfer pob categori o gerbydau modur. Fodd bynnag, mae'r UE eisoes wedi bwrw ymlaen i ddeddfu ar ddileu awdurdodau cymeradwyo math y DU o system yr UE.
Cafodd y Papur Gwyn dderbyniad cadarnhaol yn gyffredinol gan y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau. Fodd bynnag, er bod Dirprwy Brif Weithredwr y Sefydliad, James Hookham, yn cydnabod ymdrechion i fynd i'r afael â phryderon y sector, dywedodd fod llawer y mae angen ei ddeall o hyd ynghylch elfennau ymarferol masnach yn y dyfodol.
Mae'r Sefydliad Cludo ar Ffyrdd wedi dweud nad yw'r Papur Gwyn yn mynd yn ddigon pell, gyda Phrif Weithredwr y Sefydliad, Richard Burnett, yn mynegi pryderon nad yw'n mynd i'r afael â symudiad cerbydau nwyddau trwm, a dywed nad yw'r Papur Gwyn yn cynnig dim sicrwydd ynghylch trefniadau trwyddedu yn y dyfodol. Er iddo groesawu'r cynigion ynghylch tollau, dywed y Sefydliad Cludo ar Ffyrdd nad yw'r Papur Gwyn yn gwneud dim mwy nag awgrymu fframwaith i reoli symudiad pobl, a phwysleisiodd fod ar y diwydiant cludo angen recriwtio o'r UE.
Mae'r goblygiadau i Gymru o gytundeb ar drafnidiaeth ffyrdd yn arwyddocaol.
Fe wnaeth ychydig dros 650,000 o gerbydau teithwyr a 524,000 o lorïau a threlars ategol deithio drwy borthladdoedd Cymru yn 2016, ac roedd y lorïau yn cario tua 80% o'r holl nwyddau a gafodd eu cludo ar gerbydau nwyddau trwm cofrestredig o Iwerddon yn pasio rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop. Gallai Brexit sy'n arwain at leihau'r traffig cludo nwyddau hwn esgor ar ganlyniadau economaidd sylweddol i borthladdoedd Cymru a'u hardaloedd cyfagos. Â chyfanswm y nwyddau a gariwyd i Gymru yn 2016 yn cyrraedd 234,000 o dunelli, a chyda 294,000 tunnell yn cael ei allforio, nid cludiant drwy Gymru yw'r unig beth y bydd cytundeb ar drafnidiaeth ffyrdd yn effeithio arno.
Trafnidiaeth a phorthladdoedd morol
Mae cyfraith a pholisi'r UE yn effeithio ar nifer o agweddau ar gludiant morol, yn enwedig y farchnad fewnol ar gyfer gwasanaethau cludo morol ac ystod o hawliau, rhwymedigaethau a buddion ar sail cyfraith yr UE, gan gynnwys: masnach arforol; gwasanaethau porthladdoedd; cyflogaeth, amodau gwaith a hyfforddiant morwyr; ac Asiantaeth Diogelwch Morwrol Ewrop (EMSA).
Fodd bynnag, mae sleidiau'r Comisiwn Ewropeaidd ar Brexit a chludiant yn nodi i ba raddau y bydd y gyfraith ryngwladol yn cynnig sefyllfa wrth gefn ar gyfer mynediad i'r farchnad (ac eithrio masnach arforol) a threfniadau rheoleiddio ar gyfer diogelwch, diogelwch, amgylchedd a rheolau llafur. Yn yr un modd, mae'r Papur Gwyn yn tynnu sylw at y ffaith bod y sector morol yn cael ei rhyddfrydoli ar lefel fyd-eang fel y bydd gweithredwyr llongau yn y DU ar ôl Brexit, gan mwyaf, yn gallu gwasanaethu porthladdoedd yr UE fel y maent nawr. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cynnig parhau i gydweithio'n agos â'r UE ac EMSA.
Testun pryder ar fwy o fyrder i borthladdoedd Cymru a'r DU a'u cwsmeriaid fydd y trefniadau yn y dyfodol ar gyfer masnach. Bydd cynigion y Papur Gwyn ar gyfer dim tariffau ar nwyddau a weithgynhyrchir a bwyd-amaeth, ar gyfer llyfr rheolau cyffredin ynghylch nwyddau (gan gynnwys bwyd-amaeth) ac ar gyfer Trefniant Tollau Hwylusedig (FCA) i gael gwared ar yr angen am wiriadau tollau yn sylweddol iawn i borthladdoedd y DU.
Yn ystod ei ymchwiliad yn 2017 i oblygiadau Brexit ar borthladdoedd Cymru, fe glywodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol dystiolaeth yn amlinellu'r bygythiadau posibl ar borthladdoedd Cymru drwy adael yr Undeb Tollau.
Roedd tystiolaeth gan Irish Ferries (PDF 463KB) yn crybwyll cynnydd o 694% yn y nwyddau a gludir rhwng Caergybi, sef ail borthladd 'llwytho a dadlwytho' mwyaf y DU, a Dulyn ers cwblhau'r Farchnad Sengl yn 1993 - twf a hwyluswyd yn rhannol gan y ffaith nad oedd angen i'r porthladd gynnal ardaloedd mannau sefyll ar gyfer gwirio tollau. Roedd Irish Ferries yn dadlau bod rhaid i'r DU osgoi dychwelyd i gyfundrefn tollau yn y porthladdoedd.
Yn yr un modd, cyfeiriodd Grŵp Porthladdoedd Cymru o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain (BPA) (PDF 228KB) at y goblygiadau ehangach posibl yn sgil gwiriadau tollau fel “amhariad sylweddol” ar draffig llwytho a dadlwytho rhwng Cymru ac Iwerddon gan arwain at gynnydd yn y costau cludo nwyddau sy'n "cael eu trosglwyddo i fewnforwyr, gwneuthurwyr a defnyddwyr".
Mae'r ymateb ers cyhoeddi Papur Gwyn y BPA ar lefel y DU wedi bod yn gadarnhaol - gan ganolbwyntio'n benodol ar y Trefniadau Tollau Hwylusedig a'r llyfr rheolau cyffredin ar gyfer nwyddau. Nododd RHA (uchod) hefyd y bydd "y datblygiadau cyntaf o ran tollau yn arwain at drefniadau ffiniau a fydd yn gweithio'n dda ar gyfer cadwyni cyflenwi".
Roedd Siambr Llongau'r DU hefyd yn gadarnhaol, gan ddisgrifio'r Papur Gwyn fel "cynnig busnes cyfeillgar cynhwysfawr ar gyfer perthynas y DU / UE yn y dyfodol". Fodd bynnag, mae'n nodi'r angen am ragor o fanylion ar dollau a masnach, ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod mewnfudo yn parhau i fod yn bryder i'r diwydiant gwasanaethau morol. Gan gyfeirio at y diffyg cyfeiriad penodol i forwyr, mae'n nodi cyfeiriadau ehangach at gyflogaeth ardystiedig a chydweithrediad ag EMSA. Wrth drafod y rhain mae'n awgrymu y cedwir gallu morwyr i gael mynediad symlach i gyflogaeth ar longau dynodedig yr UE a'r DU.
Er bod derbyniad y sector trafnidiaeth wedi bod yn gadarnhaol, mae'r goblygiadau yn parhau i fod yn uchel i'r sector ac i'w gwsmeriaid. Bydd llawer yn chwilio am arwyddion o eglurder yn dilyn y trafodaethau i sicrhau y gall Cymru barhau i symud ar 30 Mawrth 2019 a thu hwnt.
Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun: o Flickr gan Gosport Flyer. Dan drwydded Creative Commons.