Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol. I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, darllenwch ein blog blaenorol.
Mae’r blog hwn yn edrych yn benodol ar elfennau’r Papur Gwyn sy’n ymwneud â physgodfeydd. Mae cynigion mwy manwl ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y dyfodol ar ôl ymadael â’r UE wedi’u nodi ym Mhapur Gwyn Defra ar Bysgodfeydd Cynaliadwy ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori arno ar 4 Gorffennaf. Mae’r pwyntiau allweddol o’r papur hwn wedi’u nodi isod, ynghyd ag ymatebion cynnar rhanddeiliaid.
Mae pysgodfeydd yn faes cymhleth o ran perthynas y DU a’r UE. I gael trosolwg o bysgodfeydd Cymru a datblygiadau’r trafodaethau Brexit gweler ein blog diweddar ar Brexit a Physgodfeydd Cymru.
Crynodeb
Un o brif elfennau’r Papur Gwyn yw’r bartneriaeth economaidd arfaethedig rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Rhan allweddol o’r bartneriaeth economaidd yw creu ardal fasnach rydd newydd ar gyfer nwyddau, gan gynnwys cynhyrchion amaethyddol, cynhyrchion bwyd a chynhyrchion pysgodfeydd. Mae’r elfen hon o’r Papur Gwyn wedi’i chynnwys mewn blog blaenorol; Y sector bwyd-amaeth.
Mae’r neges amlwg iawn o ran pysgodfeydd a geir yn y Papur Gwyn yn ategu safbwynt Llywodraeth y DU:
On leaving the EU, the UK will become an independent coastal state under the UN Convention on the Law of the Sea (UNCLOS). As a result, the UK will control access to fish in its waters, both in territorial seas and the Exclusive Economic Zone (EEZ).
Mae’r papur yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithio’n agos gydag Aelod-wladwriaethau a gwladwriaethau arfordirol eraill i sicrhau rheolaeth gynaliadwy o stociau a rennir a’r amgylchedd morol ehangach. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r papur yn cynnig:
- cytuno ar fecanwaith ar gyfer trafodaethau blynyddol ar fynediad i ddyfroedd a chyfleoedd pysgota; a
- hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy i gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol, fel nodau datblygu cynaliadwy.
Yn ddiddorol, dywed y papur bod mynediad at ddŵr a chyfleoedd pysgota ar wahân i gael mynediad at farchnadoedd ar gyfer pysgod a chynhyrchion pysgod. Ailadroddwyd y safbwynt hwn ar 17 Gorffennaf gan George Eustice AS mewn tystiolaeth i Bwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ’r Cyffredin, pan ddywedodd:
... negotiations on fisheries access and fisheries management as being one strand under an association agreement, and trade as being an entirely separate one. We do not see the two as being connected.
Ar 14 Mawrth, fodd bynnag, mabwysiadodd Senedd Ewrop ei safbwynt o ran y fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol. Noda hwn:
… the level of access to the EU domestic market must be conditional on the level of access for EU vessels to the UK fishing grounds and their resource.
Ar 23 Mawrth, mabwysiadodd y Cyngor Ewropeaidd ei ganllawiau negodi ar y fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol. Roedd y canllawiau yn amlinellu y dylai Cytundeb Masnach Rydd rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol gynnwys mynediad at ddyfroedd pysgota i’r naill ochr a’r llall.
Mynediad at ddŵr a chyfleoedd pysgota
Mae’r Papur Gwyn yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch caniatáu mynediad i ddyfroedd y DU ar gyfer llongau o’r UE, neu unrhyw wladwriaethau arfordirol eraill, yn fater i’w drafod. Mae’n cynnig y dylai’r DU, yr Undeb Ewropeaidd a gwladwriaethau arfordirol eraill sydd â diddordeb gytuno i gynnal trafodaethau blynyddol ar hawliau mynediad a chyfleoedd pysgota ar gyfer fflydau’r DU, yr UE a gwladwriaethau arfordirol.
Mae’r papur yn nodi y bydd y DU yn ceisio symud oddi wrth egwyddor y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) cyfredol o sefydlogrwydd cymharol, lle mae Aelod-wladwriaethau’r UE yn cael cyfran sefydlog o gyfleoedd pysgota (cwota) yn seiliedig ar gofnodion dal hanesyddol. Bydd y symudiad tuag at ddull mwy gwyddonol o osod terfynau dal (‘Cyfanswm y Ddalfa a Ganiateir’ neu TAC) ar gyfer y DU, a fydd wedyn yn cael ei ddyrannu i’r gweinyddiaethau datganoledig gan ddefnyddio cofnodion dal hanesyddol o dan Gytundeb y Concordat 2012.
Yn ychwanegol at hyn, mae’r papur yn nodi y byddai unrhyw fynediad i ddyfroedd y DU gan longau nad ydynt wedi’u cofrestru yn y DU yn amodol ar gydymffurfio â’r un gofynion â llongau’r DU, gan gynnwys arferion cynaliadwy.
Pysgodfeydd cynaliadwy
Mae’r Papur Gwyn yn dweud bod y DU yn bencampwr o ran datblygu cynaliadwy a chadwraeth forol. Ymhellach i ymrwymiadau sy’n rhan o Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig 14 , dywed y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio dangos hyn drwy:
- barhau i arfer yr egwyddor cynhyrchedd cynaliadwy uchaf (MSY);
- parhau i weithio gyda phartneriaid Ewropeaidd i reoleiddio pysgota a gosod cyfraddau cynaeafu sy’n adfer a chynnal stoc pysgod;
- ... parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i roi terfyn ar daflu pysgod yn wastraffus;
- ... cyhoeddi asesiad blynyddol o gyflwr y stociau o ddiddordeb a’n dull gweithredu o ran pennu cyfleoedd pysgota am y flwyddyn i ddod. Os bydd stociau penodol yn lleihau, bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda phawb sydd â diddordeb i lunio a gweithredu cynlluniau adfer; a
- ... gweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, Dibyniaethau’r Goron a Thiroedd Tramor sy’n gyfrifol am fesurau cadwraeth ar gyfer stociau sydd wedi’u crynhoi yn eu dyfroedd tiriogaethol.
Papur Gwyn ar Bysgodfeydd Llywodraeth y DU - pwyntiau allweddol
Ar 4 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar Bysgodfeydd Cynaliadwy ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Papur Gwyn hwn yn cynnwys manylion am ddulliau rheoli pysgodfeydd arfaethedig yn y dyfodol, ac yn nodi dull gweithredu arfaethedig Llywodraeth y DU o ran:
- hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy;
- cytundebau mynediad a dyrannu cwotâu;
- Rheoliadau technegol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC);
- fframwaith newydd y DU; a
- diwygio dulliau rheoli pysgodfeydd.
Mae’r Papur Gwyn yn egluro’n glir ei bod yn ddogfen bolisi Llywodraeth y DU, a bydd graddau’r darpariaethau yn dibynnu ar y pwerau presennol a’r hyn y cytunir arno rhwng y gweinyddiaethau:
…some will have UK-wide extent; others will apply to England only, others to England and the Devolved Administrations that wish to adopt them.
Dywed y Papur Gwyn nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y dull o ddyrannu’r cwotâu presennol. Mae adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), Goblygiadau Brexit i Gyfleoedd Pysgota yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi y dyrennir llai nag 1 y cant o gyfanswm cwota pysgota’r DU i Gymru, a dim ond tua 0.02 y cant o gwota pysgota’r UE i gyd. Er mwyn galluogi diwydiant pysgota Cymru i dyfu, dywed y WCPP:
.as any increases would accrue to existing UK quota holders, the Welsh fleet requires a different arrangement of quota sharing within the UK to get its fair share.
Ymateb rhanddeiliaid
Gan fod manylion y dulliau rheoli pysgodfeydd arfaethedig yn y dyfodol wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn ar Bysgodfeydd Cynaliadwy ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol , ymddengys mai ychydig o ymateb a fu gan randdeiliaid i elfennau pysgodfeydd y Papur Gwyn ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol. Amlinellir ymatebion cynnar rhanddeiliaid i’r Papur Gwyn ar bysgodfeydd isod.
Nod y Papur Gwyn ar bysgodfeydd yw hybu pysgodfeydd cynaliadwy drwy ddilyn dull ecosystemau yn unol â Chynllun yr Amgylchedd 25 mlynedd Llywodraeth y DU. Dywed y bydd yn sicrhau bod cadw at arferion cynaliadwy yn rhag-amod ar gyfer unrhyw fynediad i’n dyfroedd yn y dyfodol:
We will continue to apply the principle of Maximum Sustainable Yield (MSY) when setting or agreeing total allowable catches (TACs), and we will promote fishing within MSY ranges in line with international scientific advice on mixed fisheries.
Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Morol wedi dweud bod y dull gweithredu hwn yn llawer rhy annelwig, a bod cyfeiriadau at gynaliadwyedd yn y Bil Pysgodfeydd newydd yn brin o ymrwymiadau i egwyddorion ac amcanion allweddol sy’n hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae Adolygiad yr RSPB yn atseinio hyn, ac yn ychwanegu y bydd peidio â sicrhau bod sail gyfreithiol i ddull gweithredu ecosystem yn arwain at fod pysgodfeydd y DU yn llai cynaliadwy.
Mae’r Papur Gwyn yn nodi nad ydym eto yn gwybod canlyniad trafodaethau’r DU ar ymadael â’r UE nac ar bartneriaeth economaidd yn y dyfodol, ac felly, mae’r pwerau a gynigiwyd ... wedi’u datblygu i sicrhau y gallwn ymateb yn hyblyg ac yn gyflym. Mae ymatebion cynnar rhanddeiliaid, fodd bynnag, unwaith eto’n beirniadu’r Papur Gwyn am fod yn amhendant. Dywed y New Economics Foundation
It is incredibly dangerous to make all policy change conditional on certain Brexit outcomes.
Mae’r diffyg manylion yn y Papur Gwyn yn thema gyffredin yn yr ymatebion gan randdeiliaid amgylcheddol, ac roedd ClientEarth yn croesawu’r cynigion, ond eto yn dweud:
The government’s plans for fisheries after Brexit are promising but alarmingly devoid of detail about its environmental commitments
Mae dadansoddiad Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Pysgotwyr (NFFO) yn fwy cadarnhaol, yn dweud bod y Papur Gwyn ar bysgodfeydd ... yn cyd-fynd yn eithaf agos â’r hyn y mae diwydiant pysgota’r DU ei eisiau ac yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, mae’n tynnu sylw at feysydd lle mae angen rhagor o waith, yn arbennig o ran Cymru:
How to operate a system of devolved responsibilities within an overall UK framework is underdeveloped in the White Paper.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil Pysgodfeydd yng Nghymru. Cadarnhawyd hyn gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad cyn craffu ar Brexit ar 18 Gorffennaf.
Gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch amserlenni ar gyfer Bil Pysgodfeydd yng Nghymru, ac ymatebodd gan ddweud:
In relation to a Welsh fisheries Bill, I haven’t got a timescale … I would imagine the fisheries Bill I will be looking to go out to consultation on towards the end of this year, maybe early next year, in preparation.
Pan ofynnwyd am ei barn ar Bapur Gwyn y DU ar Bysgodfeydd dywedodd:
I think I’ve been very clear right from the beginning that I don’t support the current allocation process. It favours big business, and I think it’s led to a commercialisation of fishing opportunities.
Bydd y blog nesaf yn y gyfres yn edrych ar yr hyn y gallai goblygiadau’r cynigion yn y Papur Gwyn fod i drafnidiaeth yng Nghymru.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru