Y 1,000 diwrnod cyntaf: ffactorau sy’n dylanwadu ar anabledd plant - Rhan 1

Cyhoeddwyd 09/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae pum blaenoriaeth y Prif Weinidog, fel y nodwyd yn ei ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru, yn cynnwys ymrwymiad i roi 'dechrau cryf i bob plentyn yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn’.

Yn y cyntaf o ddwy erthygl, rydym yn bwrw golwg ar y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd plant o'u genedigaeth, ar unrhyw anableddau a allai fod ganddynt ac ar unrhyw anghenion cymhleth o ran cymorth y gallent eu datblygu. Bydd ein hail erthygl yn trafod gwasanaethau a chymorth i blant anabl yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf.

Mae'r erthygl hon yn trafod genedigaeth gynamserol ac anabledd. Cynghorir darllenwyr y gallai’r cynnwys beri gofid iddynt.

Datblygiadau mewn gofal meddygol

Goroesi cynamseroldeb

Mae cyfraddau goroesi ar gyfer babanod cynamserol a babanod sydd â phwysau geni isel wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf oherwydd datblygiadau mewn gofal newyddenedigol arbenigol. Er bod cyfraddau goroesi wedi cynyddu, mae cynamseroldeb yn gysylltiedig ag anabledd a chanlyniadau iechyd gwaeth.

Rhwng 2006 a 2019, arweiniodd cyfraddau goroesi cynyddol yn sgil 'cynamseroldeb eithafol', a ddiffinnir gan Sefydliad Iechyd y Byd fel genedigaethau sy’n digwydd cyn 28 wythnos, at newidiadau yn y canllawiau ar gyfer dadebru babanod, i gynnwys babanod a anwyd mor gynnar â 22 wythnos.

Mae tua 10 y cant o fabanod sengl sy'n cael eu geni ar ôl 22 wythnos ac sydd â phwysau geni isel yn goroesi. O'r babanod hynny sy'n cael triniaeth ddwys, mae 30 y cant yn goroesi, yn ôl astudiaethau mewn gwledydd incwm uchel. Ar gyfer babanod a anwyd ar ôl 24 wythnos, mae’r gyfradd oroesi yn codi i tua 60 y cant.

Yng Nghymru, digwyddodd 8.2 y cant o enedigaethau byw yn 2022 cyn 37 wythnos, allan o'r cyfanswm o 28,388 o enedigaethau, sef y nifer lleiaf o enedigaethau byw ers 1929. Mae nifer y genedigaethau cyn 37 wythnos fel canran o’r holl enedigaethau wedi cynyddu 0.2 pwynt canran ers 2021 ac 1.1 pwynt canran ers 2013.

Mae cysylltiad agos rhwng pwysau geni a chynamseroldeb ac mae ffactorau risg yn cynnwys:

Un o'r dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd i fesur cynnydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw canran y genedigaethau sengl byw sydd â phwysau geni o dan 2.5kg, sef yr hyn a ystyrir yn 'bwysau geni isel'. Yn 2022, roedd gan 7.2 y cant o’r holl fabanod a anwyd bwysau geni isel. Roedd hyn 0.4 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 0.3 pwynt canran yn uwch nag yn 2013.

Goroesi ag anableddau cymhleth

Er bod y cynnydd mewn cyfraddau goroesi ar gyfer babanod cynamserol a babanod sydd â phwysau geni isel yn rhoi gobaith o ganlyniadau cadarnhaol i lawer o rieni, mae Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain yn argymell y dylid cael mynediad at wasanaeth cwnsela cefnogol ynghylch goblygiadau posibl cynamseroldeb. Mae canfyddiadau pobl o namau ac anabledd yn amrywio. Yn aml, gall agweddau ac amgylcheddau cymdeithasol fod yn brif ffactorau sy'n anablu pobl, ac mae'r 'model cymdeithasol' o anabledd yn anelu at wyrdroi’r ffactorau hyn.

  • Bydd gan 1 o bob 10 baban cynamserol anabledd parhaol megis clefyd yr ysgyfaint, parlys yr ymennydd, dallineb neu fyddardod.
  • Bydd gan 1 o bob 2 faban cynamserol sy’n cael ei eni cyn 26 wythnos ryw fath o anabledd.
  • Bydd gan 22 y cant o fabanod sy’n cael eu geni cyn 26 wythnos anabledd difrifol (a ddiffinnir fel parlys yr ymennydd a pheidio â cherdded, sgorau gwybyddol isel, dallineb, byddardod dwys).

Mae'r rhan fwyaf o fabanod cynamserol yn tyfu i fyny heb anabledd difrifol ac mae'r cyfraddau'n disgyn o 1 o bob 3 o dan 22 wythnos i 1 o bob 10 ar ôl 26 wythnos. Fodd bynnag, ar gyfer y babanod hynny sy’n cael eu geni cyn 26 wythnos, efallai y bydd gan 80 y cant ohonynt ryw elfen o angen ychwanegol.

Efallai mai dim ond wrth i blant heneiddio y daw mân anghenion neu anghenion cymhedrol i’r amlwg, gan olygu, er enghraifft, bod angen cymorth ychwanegol arnynt yn yr ysgol neu gymorth i ymdrin â phroblemau symudedd. Yn ôl Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain, mae’n bosibl y bydd plant a gafodd eu geni’n gynamserol yn datblygu problemau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae cyfraddau goroesi hefyd wedi cynyddu ar gyfer babanod sy'n cael eu geni ag ystod o gyflyrau cynhenid, gan gynnwys cyflyrau genetig. Gall y rhain gael effeithiau amrywiol ar ddatblygiad corfforol a deallusol plant. Mae gofal meddygol gwell yn golygu y bydd 97 y cant o fabanod sy’n cael eu geni ag annormaledd cynhenid yn goroesi i gyrraedd o leiaf 1 mlwydd oed. Roedd oddeutu 4.8 y cant o’r holl enedigaethau yng Nghymru yn 2022 wedi’u heffeithio gan gyflwr cynhenid yn arwain at anabledd (gallai’r gwir ffigwr fod yn agosach at 5.1 y cant).

Cynnydd mewn anableddau niwroddatblygiadol

Lle bo pryderon yn codi ynghylch datblygiad plentyn yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, mae’n bosibl y caiff y plentyn hwnnw ei gyfeirio at bediatregydd cymunedol neu weithiwr proffesiynol arall ym maes iechyd ar gyfer ymchwiliadau a chymorth.

Caiff cyflyrau niwroddatblygiadol eu diffinio'n feddygol fel grŵp o anhwylderau ymddygiadol a gwybyddol sy'n dod i’r amlwg yn ystod datblygiad person ac sy'n effeithio ar swyddogaethau’r ymennydd. Gall y rhain effeithio ar allu deallusol, sgiliau echddygol, iaith ac ymddygiad cymdeithasol unigolyn.

Un dehongliad o niwroamrywiaeth yw bod y nodweddion hyn yn rhan o'r ystod naturiol o wahaniaethau o ran swyddogaeth yr ymennydd ac ymddygiad unigol, ac yn rhan o'r amrywiad arferol mewn poblogaethau dynol.

Mae cyflyrau sy’n dod o dan ambarél niwroamrywiaeth yn cynnwys awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, syndrom alcohol y ffetws, anawsterau dysgu penodol (dyscalcwlia, dyslecsia), anhwylder cydsymud datblygiadol (neu ddyspracsia) ac anhwylderau tic (gan gynnwys syndrom Tourette).

Adroddir yn eang bod tua 15-20 y cant [tua 1 o bob 7] o bobl yn y DU yn niwrowahanol. Ar hyn o bryd, nid oes ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ar gyfer diagnosis niwroddatblygiadol yng Nghymru. Fodd bynnag, ledled y DU gyfan, bu cynnydd o 787 y cant mewn diagnosis o awtistiaeth dros gyfnod o 20 mlynedd. Mae'n debygol bod y rhesymau am y cynnydd hwn yn gysylltiedig â nifer o ffactorau cymhleth.

Mae rhai unigolion sy’n niwrowahanol yn ystyried eu hunain fel pobl sydd ag anabledd, ac mae’n bosibl bod pobl eraill yn eu gweld yn yr un ffordd. Hefyd, efallai fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, neu anabledd dysgu sy’n cyd-fynd â’u niwrowahaniaeth. Gall plant ifanc sydd ag ystod o anghenion cymhleth fod o dan ofal gwasanaethau pediatrig cyn iddynt gael diagnosis.

Mae ein papur briffio diweddar yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wasanaethau niwroddatblygiadol.

Tlodi, anabledd a'r 1,000 diwrnod cyntaf

Mae’r Prif Weinidog wedi gosod ei ymrwymiad i'r 1,000 o ddiwrnodau cyntaf yng nghyd-destun trechu tlodi, a fydd yn “gofyn am ymateb hirdymor a chydlynol ar draws y Llywodraeth, ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, ledled Cymru”.

Mae pob teulu yng Nghymru wedi wynebu cynnydd yng nghostau nwyddau a gwasanaethau hanfodol, y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud ei fod yn dilyn “gostyngiad parhaus yn y budd-daliadau lles sydd ar gael i deuluoedd â phlant ers 2010” a bod “gwaith ansicr a chostau gofal plant uchel yn gwaethygu’r risg y mae cynnydd mewn costau byw yn ei achosi i iechyd a llesiant plant”. Rydym yn gwybod bod y ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar ganlyniadau o ran iechyd, megis ansicrwydd bwyd, tlodi tanwydd, tlodi trafnidiaeth a’r amgylchedd yn cael effaith anghymesur ar blant ac yn arwain at ganlyniadau gwaeth pan fyddant yn oedolion.

Mae plant mewn teuluoedd sy'n cynnwys rhywun ag anabledd (plentyn neu oedolyn) yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi (31 y cant) na phlant sy’n byw mewn cartrefi lle nad oes gan unrhyw un anableddau (26 y cant). Yn erbyn y cefndir hwn o anfantais, mae’r gwariant ychwanegol gan deuluoedd sydd â phlant anabl yn gyfystyr â ‘Thag Pris Anabledd’, ac mae Scope, yr elusen sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl anabl, wedi amcangyfrif mai’r gost ychwanegol i’r teuluoedd hyn yw £975 y mis.

Mae'r delweddau'n cynrychioli pedair effaith ariannol ar deuluoedd sydd â phlant anabl: pwysau costau byw sylfaenol, costau cynhyrchion a gwasanaethau arbenigol, costau dyddiol uwch a defnydd uwch o hanfodion. Mae'r rhain yn gyfystyr â Thag Pris Anabledd o £975 y mis.

Mae gostyngiadau mewn incwm aelwydydd yn golygu bod yr hanfodion bob dydd sy’n hyrwyddo iechyd a datblygiad plant yn anoddach eu fforddio. Yn achos plant sy’n eisoes yn fregus oherwydd anabledd, gall yr anfanteision cymdeithasol hyn gronni, gan waethygu iechyd meddwl a llesiant yn ddiweddarach mewn bywyd. Ymddengys, felly, bod ymdrin â thlodi plant yn hanfodol i leihau effaith anghymesur anghydraddoldebau iechyd ar blant anabl.


Erthygl gan Sarah Hayward, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Sarah Hayward gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.