Mae pum blaenoriaeth y Prif Weinidog, fel y nodwyd yn ei ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru, yn cynnwys ymrwymiad i roi 'dechrau cryf i bob plentyn yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn’.
Yn y gyntaf o'n dwy erthygl yn edrych ar y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn, gwnaethom archwilio'r ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad babanod a phlant ifanc. Yma, yn ein hail erthygl, byddwn yn edrych ar ba gymorth y gallai fod ei angen ac yn cael ei ddarparu yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf ar gyfer plant y mae anabledd yn effeithio arnynt.
Fel y cydnabyddir yn y Dull Iechyd Cyhoeddus y 1,000 Diwrnod Cyntaf, gall darparu cymorth cynnar effeithiol i rieni a phlant gyfrannu at gynnig yr amgylcheddau diogel a meithringar sydd eu hangen ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plentyn.
Polisïau Llywodraeth Cymru
Gwnaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething MS ailbwysleisio ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i ofal iechyd plant ym mis Mehefin 2024:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth gofal iechyd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae amrywiaeth gynhwysfawr o bolisïau a rhaglenni, sy'n cael eu rhoi ar waith ar draws y Llywodraeth, yn chwarae rhan ganolog wrth wella canlyniadau iechyd a hyrwyddo iechyd a lles plant i blant ledled Cymru.
Mae nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar iechyd a lles plant anabl gan gynnwys:
- Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. I grynhoi, mae Erthygl 23 yn nodi bod gan blentyn ag anabledd yr hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas a, chyn belled ag y bo’n bosibl, annibyniaeth a rhan weithgar yn y gymuned. Nodir hefyd bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl a'u teuluoedd.
- Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (2012), cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl, a strategaeth ddrafft sydd â’r nod o wella mynediad at gymorth ar gyfer lles emosiynol ac iechyd meddwl babanod, plant a phobl ifanc, ac atal iechyd meddwl gwael.
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) sy’n cynnwys rhwymedigaeth gyfreithiol i gyrff cyhoeddus gydweithio tuag at saith nod llesiant, gan gynnwys creu Cymru iachach a mwy cyfartal.
- Rhaglen Plant Iach Cymru (2016) sy'n cynnwys nod craidd i ‘hybu ymlyniad a bondio er mwyn cefnogi perthynas gadarnhaol rhwng rhieni a’u plant, a fydd yn arwain at ymlyniad emosiynol cadarn i blant’ (t.5)
- Cymru Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (2019), y Strategaeth Gweithlu ategol, a’r canlynol a oedd yn deillio ohonynt:
- Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu sy'n nodi camau gweithredu i wella cyfraddau cadw staff, gan gynnwys gwella llesiant, a buddsoddiad parhaus mewn addysg a hyfforddiant.
- Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol (2022) sy’n ceisio sicrhau dulliau clir a chyson o ymdrin â diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol.
- Y Rhaglen Lywodraethu a ddiffiniwyd ymhellach gan y Cynllun Plant a Phobl Ifanc
Ers 2007, mae Rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar wedi canolbwyntio ar ymweliadau iechyd a datblygiad iaith cynnar mewn ardaloedd difreintiedig.
Barn rhanddeiliaid ar bolisïau a’r ddarpariaeth
Nod gwasanaethau pediatrig cymunedol arbenigol yw darparu gwasanaethau arbenigol o ansawdd uchel i blant ag oedi datblygiadol a phlant ag anghenion iechyd cymhleth ac anawsterau dysgu. Mae'r timau amlddisgyblaethol hyn yn cynnwys pediatregwyr cymunedol, nyrsys arbenigol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel awdiolegwyr, dietegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion. Nod y gweithwyr proffesiynol hyn yw gwella gweithrediad a gwneud y mwyaf o botensial plant i gymryd rhan ym mhob agwedd ar eu bywydau o'r cyfnod newyddenedigol ymlaen.
Mae recriwtio ac uwchsgilio’r gweithlu iechyd plant yn hanfodol felly er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant anabl yn y 1,000 diwrnod cyntaf a thu hwnt. Mae ymwelwyr iechyd hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi rhieni a theuluoedd plant cyn oedran ysgol ac o ran nodi anghenion iechyd. Mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn wynebu llwythi achosion a disgwyliadau sy’n cynyddu yng nghyd-destun cyllid cyfyngedig. Diben y Rhaglen Dechrau'n Deg yw darparu gwasanaethau ymwelwyr iechyd gwell a chymorth lleferydd ac iaith.
Mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) wedi mynegi siom ynghylch yr hyn y maent yn ei ystyried yn ddiffyg ffocws ar ofal iechyd plant o fewn cynlluniau gweithredu ar gyfer y gweithlu. Nodwyd eu blaenoriaethau allweddol ar gyfer Cymru yn eu hadroddiad Cyflwr Iechyd Plant 2020. Dyma eu hargymhellion sy’n berthnasol i’r 1,000 diwrnod cyntaf:
Gostwng anghydraddoldeb mewn iechyd plant Mae tlodi ac anghydraddoldeb yn effeithio ar addysg, tai ac amgylcheddau cymdeithasol plant, ac mae’r rhain yn eu tro yn effeithio ar eu canlyniadau iechyd. Mae'r RCPCH yn galw am strategaeth ddiwygiedig gyda thargedau cenedlaethol i leihau cyfraddau tlodi plant. Rhoi blaenoriaeth i iechyd cyhoeddus, ataliaeth ac ymyriad cynnar Canolbwyntio ar atal a darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar. Mae’r RCPCH yn galw am fuddsoddiad parhaus yn Rhaglen Plant Iach Cymru, er mwyn sicrhau bod pob cysylltiad gyda phlant cymwys yn digwydd. Adeiladu a chryfhau gwasanaethau lleol, traws-sector i adlewyrchu angen lleol Dylai babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd gael mynediad cyfartal at wasanaethau traws-sector, adnoddau, cyngor a chefnogaeth o fewn y gymuned leol i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant. Mae'r RCPCH yn annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi eto mewn gwasanaethau i blant a theuluoedd, sy'n helpu’r plentyn i fod yn barod ar gyfer yr ysgol. |
Y galw am wasanaethau yn fwy na'r capasiti
Nododd adroddiad yr RCPCH: Workforce census: Focus on Wales (2019) fod galw cynyddol am feddygon ymgynghorol pediatrig yn gofyn am gynnydd o 42 y cant i weithlu cyfwerth ag amser llawn o 249.4. Ym mis Rhagfyr 2023, nifer yr ymgynghorwyr pediatrig cyfwerth ag amser llawn oedd 213.4 sef diffyg o 36. Mae prinder gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, fel seicolegwyr addysg a therapyddion lleferydd ac iaith, yn effeithio ar y timau amlddisgyblaethol mewn gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol.
Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) yn nodi bod y galw am therapi lleferydd ac iaith wedi cynyddu ers y pandemig, a bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith fesul person yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU. Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gydag anghenion bwydo a chyfathrebu o enedigaeth drwy gydol oes y plentyn. Mae gan 33% o blant Cymru ag anghenion dysgu ychwanegol anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, sef y math mwyaf cyffredin o angen dysgu. Mae peidio ag adnabod a chefnogaeth annigonol ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cyfrannu at ganlyniadau gwaeth fel oedolyn gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol is a chanlyniadau cyflogaeth gwaeth, ac mae gan dros 60% o bobl ifanc sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Mae mynd i’r afael â heriau o ran ariannu a recriwtio ym maes iechyd plant yn cael ei ystyried yn hanfodol yng ngoleuni archwiliadau o’r ddarpariaeth newyddenedigol. Fel a nodir gan yr RCSLT, mae'r archwiliadau hyn yn tynnu sylw at brinder gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o fewn timau a diffyg cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer therapïau fel testun pryder sylweddol. Nid yw’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn bodloni safonau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain ar gyfer darpariaeth therapi lleferydd ac iaith yn ôl Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cymru. Nod y fforwm Cymru gyfan i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd newydd-anedig yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu cynnwys mewn cynllun gweithlu amenedigol strategol.
Er bod nifer y genedigaethau yng Nghymru ar ei hisaf erioed, mae nifer y plant sydd wedi goroesi ag anghenion cymorth cymhleth wedi gweld cynnydd bach ond cyson. Fel cyfran o'r cyfanswm, dylid disgwyl y bydd angen mynediad at wasanaethau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ar fwy o blant.
Yng ngoleuni hyn ymddengys y bydd adnoddau digonol yn hanfodol er mwyn cyflawni blaenoriaeth flaenllaw Llywodraeth Cymru i roi “dechrau cryf” i blant yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf a thu hwnt.
Craffu perthnasol gan y Senedd
Edrychodd ein herthygl flaenorol ar dlodi, anabledd a’r 1,000 o diwrnod cyntaf. Rydym yn gwybod bod Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 Llywodraeth Cymru yn nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud i gefnogi plant anabl, a disgwylir ei hadroddiad nesaf ar gynnydd yn 2025. Yn fwy diweddar ym mis Mehefin, clywodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar newydd am ei blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer y 1,000 diwrnod cyntaf a Rhaglen Plant Iach Cymru. Dylai gwaith craffu parhaus y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi Plant ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? ychwanegu at y darlun o'r 1,000 diwrnod cyntaf ac anabledd yng Nghymru.
Erthygl gan Sarah Hayward, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Sarah Hayward gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.