Wynebu'r un storm ond nid yn yr un cwch: anghydraddoldeb a'r pandemig

Cyhoeddwyd 01/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Yn ystod y pandemig, mae ein siawns o farw, mynd yn ddifrifol wael, colli swyddi neu gael ein gadael ar ôl mewn addysg wedi'u pennu'n rhannol gan ein hoedran, ein hil, ein rhyw, ein hanabledd, ein hincwm a ble rydym yn byw.

Cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd ei adroddiad ar effaith y pandemig ar anghydraddoldeb ym mis Awst, ac ymatebodd Llywodraeth Cymru i’w argymhellion ym mis Medi. Bydd y Senedd yn trafod y ddau ddydd Mercher 7 Hydref.

Mae adroddiad economaidd-gymdeithasol Grŵp Cynghori Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y Prif Weinidog, a ysgrifennwyd gan yr Athro Emmanuel Ogbonna wedi llywio llawer o argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwn hefyd.

Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o brif feysydd argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Gwelliannau i asesiadau effaith a data

Cafodd y Llywodraeth ei hannog gan y Pwyllgor i gyhoeddi asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer pob penderfyniad mawr, a gwneud cynnydd mawr o ran gwella'r broses o gasglu data cydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus (ac mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir i fusnesau), a chafodd hyn ei ategu gan adroddiad yr Athro Ogbonna. Argymhellodd hefyd y dylid cyflymu'r adolygiad o ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED).

Dechreuodd Llywodraeth Cymru gyhoeddi asesiadau effaith ochr yn ochr â'r adolygiadau rheoliadau coronafeirws 21 diwrnod, a dywedodd y caiff asesiadau effaith pellach yn ymwneud â deddfwriaeth a chanllawiau coronaifeirws eu cyhoeddi maes o law".

Mae'r ymateb yn cydnabod problemau o ran casglu data cydraddoldeb, ac ymrwymiad i weithio gyda'r GIG, y sector gofal cymdeithasol a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn arbennig, i wella hyn. Mae'n tynnu sylw at ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith y feirws ar bobl ag anableddau dysgu, a gyhoeddwyd ym mis Medi.

Mae'r Llywodraeth hefyd yn datgan "os bydd adnoddau ar gael bydd gwaith adolygu PSED yn ailddechrau".

Gwrthdroi llacio ar frys y ddyletswyddau gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gwrthdroi'r broses o lacio dyletswyddau gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl o dan Ddeddf y Coronafeirws, gan nad oedd yn glir pam eu bod yn dal yn angenrheidiol. Dywedodd "Mae'r ffaith eu bod yn eu lle o hyd yn anfon neges bwerus i'r grwpiau hynny o bobl nad yw cyflawni eu hanghenion gofal yn cael ei ystyried yn hanfodol."

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pryderon hyn, ond dywedodd fod ei dull gweithredu yn cael ei lywio gan ymgysylltu â grwpiau pobl hŷn a phobl anabl. Mae'n datgan y bydd yn ymgynghori ynghylch a ddylid diddymu'r darpariaethau gofal cymdeithasol.

O ran tribiwnlysoedd iechyd meddwl, mae'r ymateb yn datgan nad yw’r ddarpariaeth i ganiatáu i achosion gael eu penderfynu heb wrandawiad wedi effeithio ar unrhyw un hyd yma, ac mae pob gwrandawiad wedi'i gynnal dros y ffôn.

Targedu gwasanaethau cyhoeddus at y rhai sydd eu hangen fwyaf

Ailadroddodd y Pwyllgor ei alwadau blaenorol i Lywodraeth Cymru ailsefydlu strategaeth lleihau tlodi, a glynu wrth ysbryd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol (a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried anghenion pobl ar incwm isel wrth wneud penderfyniadau) cyn iddo ddechrau ym mis Mawrth 2021.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei Strategaeth Tlodi Plant, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2015, "yn pennu amcanion i fynd i’r afael â thlodi plant". Aiff ymlaen i ddweud ei bod yn “parhau â’i hymrwymiad i ddatblygu ein ffordd o fynd ati i luniopolisïau a rhaglenni yn erbyn tlodi yn y dyfodol. yn y dyfodol".

Mae'r ymateb hefyd yn dweud, "Rwy'n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi annog swyddogion i arwain drwy esiampl a chymhwyso ethos y Ddyletswydd [economaidd-gymdeithasol] yn eu cyngor iWeinidogion ar benderfyniadau strategol."

Helpu pobl i gael gwybod am eu hawliau cyflogaeth a'u hawliau i gael budd-daliadau

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod llawer o bobl wedi colli incwm neu swyddi oherwydd y pandemig, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt hawlio budd-daliadau neu gymorth brys am y tro cyntaf. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru:

  • gynyddu cyllid i wasanaethau cynghori sydd ag arbenigedd mewn cyflogaeth, budd-daliadau a gwahaniaethu yn sylweddol – ymatebodd y Llywodraeth drwy dynnu sylw at ei chyllid presennol o £8.2 miliwn ar gyfer gwasanaethau cynghori, a chynllun peilot llinell gymorth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond dywedodd nad yw mewn sefyllfa i ariannu'r holl fylchau yn y ddarpariaeth ac y bydd yn gweithio gyda cyllidwyr eraill i sicrhau dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau cynghori ledled Cymru;
  • cynnal ymgyrch gynhwysfawr ar raddfa fawr i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau i sicrhau bod pobl yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt – ymrwymodd y Llywodraeth i ddarparu £800,000 ar gyfer mentrau cynyddu incwm, a bydd yn targedu gwaith hawl i fudd-daliadau mewn tri grŵp blaenoriaeth: aelwydydd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, aelwydydd â phlant neu oedolion anabl, ac aelwydydd mewn cyflogaeth isel;
  • atal y broses o orfodi dyledion y dreth gyngor am 12 mis – gwrthodwyd hyn gan y Llywodraeth;
  • ailfrandio a chynnal ymgyrch ymwybyddiaeth ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol – mynnodd y Llywodraeth fod y Gronfa yn 'frand cydnabyddedig', ond dywedodd y bydd yn parhau i adolygu ei heffeithiolrwydd a'r ymwybyddiaeth ohoni;
  • ychwanegu at y Cronfeydd Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn ôl yr angen – gwrthodwyd hyn gan y Llywodraeth gan fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn adolygu dyraniadau ar gyfer y taliadau;
  • archwilio opsiynau ar gyfer caniatáu hawl awtomatig i fudd-daliadau datganoledig megis gostyngiadau’r dreth gyngor – mae'r ymateb yn nodi bod atebion posibl yn cael eu harchwilio i fynd i'r afael â hyn.

Gofalu am ofalwyr

Gwnaeth y Pwyllgor amrywiaeth o argymhellion i sicrhau incwm gweddus ac amodau gwaith da ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol (sy'n anghymesur o ran nifer o fenywod, ac yn fwy tebygol o fod o grwpiau pobl dduon, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig). Argymhellodd y dylai offeryn y Grŵp Cynghori - asesiad risg yn y gweithle gael ei gyflwyno y tu hwnt i iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai gwaith ar y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol gael ei gyflymu i ganfod manteision cyflym, megis talu gweithwyr gofal cartref am yr holl amser y maent yn gweithio, gan gynnwys amser teithio, gwella cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ffurfiol a sicrhau bod gweithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref yn cael eu trin yn gyfartal. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y fforwm wedi'i sefydlu ym mis Medi 2020 a'i fod wedi cael y dasg o archwilio newidiadau tymor byr i ganolig i sicrhau gwaith teg yn y sector.

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y bonws gofal cymdeithasol o £500 yn cael ei drethu gan Lywodraeth y DU, ond dywed Llywodraeth Cymru fod ei chais am hepgor treth wedi'i wrthod.

O ran cyfrifoldebau gofalu di-dâl, tynnodd y Pwyllgor sylw at waith ymchwil sy'n dangos bod mamau 1.5 gwaith yn fwy tebygol na thadau o fod wedi rhoi'r gorau i'w swydd neu wedi colli eu swydd, ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Pwysleisiodd y Pwyllgor ei argymhellion blaenorol o 2018 i holl swyddi'r sector cyhoeddus gael eu hysbysebu fel rhai 'hyblyg yn ddiofyn', a dylai'r Llywodraeth ddarparu cyngor ar sut i weithredu gweithio hyblyg i bob cyflogwr sy'n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n 'archwilio' y materion hyn, a'i bod yn archwilio ffyrdd o atgyfnerthu cysylltiadau rhwng cyllid cyhoeddus a chanlyniadau gwaith teg.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai'r Llywodraeth gynyddu incwm gofalwyr di-dâl i'r eithaf, gan gynnwys drwy ostyngiadau'r dreth gyngor. Dywed y Llywodraeth mai'r ffordd orau o gynyddu incwm gofalwyr i’r eithaf yw parhau mewn gwaith. Mae'n datgan bod ymgynghoriad ‘cynllun gofalwyr cenedlaethol’ yn cael eu lansio yn yr hydref, ac mae'r gweithgareddau cynyddu incwm (a nodwyd yn gynharach) wedi'u targedu at aelwydydd incwm isel sy'n cynnwys oedolion neu blant anabl.

Lleihau anghydraddoldebau iechyd a bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol

Ategodd y Pwyllgor argymhelliad yr Athro Ogbonna y dylai negeseuon iechyd y cyhoedd gael eu targedu at grwpiau y mae coronafeirws yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, gan gynnwys grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd pobl hŷn, pobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor, a phobl mewn ardaloedd difreintiedig. Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi bod ei negeseuon iechyd cyhoeddus wedi'u cyfieithu i dros 100 o ieithoedd.

O ran addysg, mae'r sefyllfa wedi newid yn sylweddol ers i'r Pwyllgor wneud ei argymhellion, yn enwedig o ran arholiadau. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai dosbarthiadau 'dal i fyny' gael eu darparu ar gyfer disgyblion sydd fwyaf tebygol o fod wedi methu â dal ati gyda’u gwaith yn ystod y cyfyngiadau symud, ac mae Llywodraeth Cymru yn datgan bod £29 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer dysgwyr sydd ar 'gamau tyngedfennol' yn eu haddysg.

Amddiffyn pobl sydd fwyaf tebygol o wynebu trais a chael eu cam-drin

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ym mis Mehefin wrth i bryderon am gynnydd mewn cam-drin yn ystod y cyfyngiadau symud gynyddu. Ysgrifennodd at y Dirprwy Weinidog Jane Hutt MS ar 29 Mai yn annog Llywodraeth Cymru i egluro pa gyllid fyddai ar gael i'r sector i reoli'r cynnydd yn y galw a thalu am addasiadau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1.5 miliwn i helpu dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth.

Yn ei adroddiad, ailadroddodd y Pwyllgor ei argymhelliad(au) blaenorol bod model ariannu cynaliadwy, hirdymor a addawyd ers dros bedair blynedd, wedi’i ganfod ar gyfer y sector VAWDASV. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn 'gweithio gyda rhanddeiliaid', ac er bod nifer o fodelau wedi'u cynnig, nid oes yr un ohonynt wedi'u cytuno.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid canfod ffordd o gofnodi achosion o VAWDASV y mae pobl hŷn yn ei brofi, a dywedodd y Llywodraeth ei bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y mater hwn.

Tynnodd y Pwyllgor sylw at droseddau casineb y mae rhai grwpiau wedi’u profi yn ystod y pandemig, ac ailadroddodd ei argymhellion blaenorol i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei chynllun cyflawni cydlyniant cymunedol. Dywedodd y Llywodraeth fod gwaith i "ddatblygu cyfres o Egwyddorion Cydlyniant Cymunedol" wedi cael ei oedi oherwydd y pandemig, ond bydd yn llunio diweddariad byr ar gynnydd tuag at gamau gweithredu yn ei Fframwaith Troseddau Casineb.

Gwella hygyrchedd i bobl anabl

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth am yr heriau sy'n wynebu pobl anabl oherwydd newidiadau yn ein hamgylchedd, a'r effaith ar eu hannibyniaeth. Argymhellodd y dylai'r Llywodraeth gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth ymbellhau cymdeithasol i bwysleisio'r heriau gwahanol y mae pobl anabl yn eu hwynebu, a darparu canllawiau i fusnesau ynghylch hygyrchedd corfforol a chyfathrebu.

Dywedodd y Llywodraeth ei bod wedi rhoi cyngor i bobl sy'n 'gwarchod' a’i bod wedi cefnogi'r Fenter Distance Aware drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a thynnodd sylw at ei chanllawiau i fusnesau manwerthu. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi codi pryderon am y mater hwn nifer o weithiau dros y chwe mis diwethaf, ac wedi cyhoeddi canllawiau hygyrchedd penodol ym mis Medi o ganlyniad i hyn.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai cynllun cyflenwi bwyd â blaenoriaeth (tebyg i'r Cynllun RNIB/ Defra yn Lloegr) gael ei sefydlu ar gyfer pobl anabl nad ydynt yn gwarchod, ond sy'n ei chael yn anodd siopa drostynt eu hunain. Dywedodd y Llywodraeth fod manwerthwyr yn cyflwyno mentrau o'r fath yn wirfoddol.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu ‘arweinydd hygyrchedd’ i oruchwylio’r gwaith o lunio gwybodaeth am iechyd y cyhoedd a gwybodaeth arall mewn fformatau hygyrch. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Cyfathrebu Hygyrch, ac wedi tynnu sylw at waith parhaus i lunio cynnwys mewn iaith arwyddion, Gwylio Rhwydd a dulliau eraill. Nododd fod 'polisi cyfathrebu i’r dyfodol' yn cael ei ddatblygu.

Sicrhau nad yw ymfudwyr yn syrthio i’r bylchau mewn cymorth

Dywedodd adroddiad y Pwyllgor fod ymfudwyr yn chwarae rhan allweddol yn ein cymdeithas wrth ymateb i'r pandemig, gydag un rhan o bump o weithlu iechyd a gofal cymdeithasol y DU wedi’u geni y tu allan i'r DU. Mae ymfudwyr hefyd yn fwy tebygol o fod mewn diwydiannau y mae'r argyfwng wedi effeithio arnynt, megis gwasanaethau llety a bwyd, a ni fydd gan lawer sydd â hawl dros dro i aros 'ddim hawl i arian cyhoeddus', gan eu hatal rhag cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau a chymorth tai.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ymfudwyr i staff rheng flaen y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau y gall ymfudwyr gael gafael ar yr holl wasanaethau a chronfeydd y mae ganddynt hawl iddynt, yn ddi-wahân. Dywedodd y Llywodraeth y bydd hyn yn cael ei gyflawni ddiwedd 2020/dechrau 2021.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd lobïo Llywodraeth y DU i godi cyfyngiadau dim hawl i arian cyhoeddus. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn a nododd ei bod wedi cyhoeddi astudiaeth ddichonoldeb ar roi cymorth i bobl sydd â dim hawl i arian cyhoeddus o fewn y setliad datganoli presennol.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd bod dosbarthiadau Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) ar-lein yn cael eu darparu, sy'n cael ei ddatblygu o dan gynllun ReStart: Prosiect Integreiddio Ffoaduriaid, ochr yn ochr â darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Mynegwyd pryderon hefyd nad yw dinasyddion yr UE wedi gallu cael gafael ar gymorth wyneb yn wyneb i wneud cais i Gynllun Setliad yr UE yn ystod y cyfyngiadau symud, felly argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal y sesiynau mewn ffyrdd amgen. Dywedodd y Llywodraeth fod hysbysiadau fideo, gweminarau ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu defnyddio i barhau i ddarparu cyngor.

***

Gellir gwylio'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 7 Hydref ar senedd.tv.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru