Mae llygredd plastig yn broblem amgylcheddol fawr sy'n effeithio ar iechyd pobl ac ecosystemau. Pa fesurau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn – yng Nghymru ac yn rhyngwladol?
Mae'r erthygl wadd hon gan Dr Winnie Courtene-Jones, Prifysgol Bangor, yn archwilio'r mater hwn ar gyfer Gorffennaf Di-blastig 2025, fel rhan o'n rhaglen cyfnewid gwybodaeth. Barn yr awdur a geir yma, nid barn Senedd Ymchwil na’r Senedd.
Ym mis Awst 2025, bydd cynrychiolwyr o 175 o genhedloedd, ynghyd â chyrff anllywodraethol, y byd academaidd a'r sector preifat, yn dod ynghyd yn Geneva, y Swistir, ar gyfer INC-5.2, cyfarfod olaf y Pwyllgor Negodi Rhynglywodraethol (INC) i ddatblygu Cytuniad cyfreithiol rwymol i roi terfyn ar lygredd plastig. Mae'r digwyddiad nodedig hwn yn gyfle i weithredu fframwaith rhwymol byd-eang i fynd i'r afael â phlastig (o'i gynhyrchu i'w waredu) er mwyn amddiffyn iechyd pobl a'r amgylchedd. A fydd camau sy’n cael eu cymryd yn Geneva yn sicrhau bod y nodau hyn yn dod yn ganlyniadau pendant?
Mae'r erthygl hon yn trafod cynnydd tuag at Gytuniad Plastigau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig, a'r angen amdano, yn ogystal ag ystyried ymdrechion a wnaed yng Nghymru.
Yr argyfwng llygredd plastig - pam mae angen polisi byd-eang?
Mae llygredd plastig yn fygythiad byd-eang. Mae plastigau (eitemau mawr, yn ogystal â darnau plastig bach a elwir yn ficroplastigau) wedi'u dosbarthu'n eang ledled yr amgylchedd naturiol a threfol, gan gynnwys mewn priddoedd, y cefnfor, strydoedd, ochrau ffyrdd a'r atmosffer. Mae'r meintiau enfawr a'r ystod o effeithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â phlastigau, o echdynnu deunyddiau crai, hyd at eu cynhyrchu, eu defnyddio a'u gwaredu, yn golygu bod angen gweithredu byd-eang; mae rhai o'r effeithiau hyn wedi’u crynhoi isod:
- Yn flynyddol, caiff 460 miliwn tunnell o blastigau eu cynhyrchu, ffigur y mae disgwyl iddo ddyblu yn y ddau ddegawd nesaf. Caiff llai na 10% o’r cyfanswm hwn ei ailgylchu'n fyd-eang.
- Mae plastig yn barhaus, ac amcangyfrifir bod dros 139 miliwn tunnell o wastraff plastig yn llygru amgylcheddau morol a dŵr croyw.
- Mae dros 16,000 o gemegau wedi'u canfod mewn plastigau, gan gynnwys cemegau sy'n peri pryder, fel y rhai sy'n tarfu ar systemau nerfol a hormonaidd dynol, ac eraill a all achosi canser. Gall plastigau ollwng cemegau yn ystod eu defnydd, ac ar ôl eu gwaredu.
- Dengys tystiolaeth wyddonol ganlyniadau andwyol i iechyd pobl, yn ogystal â difrod amgylcheddol sy'n gysylltiedig â phlastigau a'u cemegau.
- Roedd cylch bywyd plastig (o echdynnu deunyddiau crai hyd at pan fydd yn dod yn wastraff) yn cyfrif am 4.5% o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang yn 2015.
Beth yw Cytuniad Plastigau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig?
Mae Cytuniad Plastigau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn gytundeb cyfreithiol rhyngwladol i fynd i'r afael â llygredd plastig. Dechreuodd trafodaethau ar gynnwys y cytuniad yn 2022, a byddant yn dod i ben mewn cyfarfod terfynol ym mis Awst 2025. Nod y cytuniad yw mynd i'r afael yn gynhwysfawr â chylch bywyd llawn plastig, gan gynnwys ei gynhyrchu, ei ddylunio a'i waredu.
Mae negodiadau dros y tair blynedd diwethaf a phum cyfarfod yr INC wedi wynebu heriau: o anghytundeb llwyr ynghylch manylion gweithdrefnol, i anghytundeb ynghylch cyfyngu ar gynhyrchu plastig, cyfyngiadau ar ddefnyddio cemegau sy’n peri pryder, a mecanweithiau ariannol i gefnogi gweithrediad. Fodd bynnag, er i'r INC diwethaf (INC-5 yn Busan, Tachwedd 2024) ddod i ben heb gytundeb terfynol, gosodwyd sylfaen gref. Cytunodd y cynrychiolwyr i ailddechrau trafodaethau yn Geneva gan ddefnyddio “testun y Cadeirydd” fel man cychwyn, ac yn y cyfarfod llawn terfynol, fe wnaeth dros 100 o wledydd ymrwymo i fesurau uchelgeisiol.
Yr her nawr yw adeiladu ar y momentwm hwn i sicrhau bod uchelgais yn dod yn ganlyniadau pendant ac nad yw darpariaethau allweddol yn cael eu gwanhau.
Yng ngeiriau Cadeirydd yr INC, Luis Vayas Valdivieso, nid oes dim wedi’i gytuno nes bod popeth wedi’i gytuno. Mae llawer yn gorffwys ar INC-5.2 y mis nesaf.
Mater byd-eang sy'n galw am weithredu byd-eang
Er bod strategaethau lleol a chenedlaethol yn cymryd camau bach ymlaen, mae dull byd-eang o fynd i'r afael â llygredd plastig yn hanfodol i amddiffyn iechyd pobl a’r amgylchedd mewn ffordd ystyrlon. Mae cytundebau byd-eang amlochrog o'r fath wedi profi'n hynod effeithiol yn y gorffennol, er enghraifft Protocol Montreal i amddiffyn haen osôn y Ddaear.
Cynnydd Cymru i fynd i'r afael â llygredd a gwastraff plastig
Cyn y mesurau byd-eang i roi terfyn ar lygredd plastig, ac mewn ymateb i'r pryderon cynyddol ynghylch yr her hon, mae nifer o wledydd, gan gynnwys Cymru wedi gweithredu ac yn datblygu mesurau pellach i liniaru plastigau.
Lleihau'r defnydd o blastig
Ar draws y DU, caiff nifer o eitemau “plastig untro” eu rheoleiddio o dan waharddiadau sydd wedi’u gweithredu neu eu cynnig. Yn 2023, cyflwynodd Cymru ddeddfwriaeth ar amrywiaeth o eitemau plastig untro (e.e. cynwysyddion bwyd tecawê, troellwyr, a ffyn cotwm coesyn plastig), a chaiff weips gwlyb sy'n cynnwys plastig eu gwahardd hefyd erbyn diwedd 2025.
Yn dilyn y gwaharddiad ar ficrobelenni rinsio i ffwrdd (wedi'i weithredu yng Nghymru yn 2018), gwnaed datganiad ar gynlluniau i fynd i'r afael â llygredd microplastig yn 2021. Dros y blynyddoedd dilynol, er bod gwledydd eraill yn yr UE a'r Unol Daleithiau wedi cyflwyno deddfwriaeth ar ficroplastigau, mae gweithredu pellach yng Nghymru wedi bod yn gyfyngedig.
Mae'r polisïau sy’n cael eu hamlygu yma yn gwneud ymdrechion i frwydro yn erbyn llygredd plastig, gyda ffocws yn bennaf ar lygredd sy'n deillio o blastigau untro. Mae plastigau untro yn cyfrif am hanner yr holl blastigau yn unig, felly nid yw'n bosibl mynd i'r afael â'r effeithiau ehangach sy'n deillio o blastigau heb fynd i'r afael â mathau eraill o blastig hefyd.
Gwneud mwy o ailddefnyddio ac ailgylchu
Mae cyfradd ailgylchu Cymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ond mae’n amrywio rhwng awdurdodau lleol. Gall ymdrechion i gynyddu capasiti casglu, yn ogystal â chynyddu’r seilwaith didoli a rheoli gwastraff, helpu i sefydlu Cymru ymhellach fel arweinydd ym maes ailgylchu.
Ond ni fydd ailgylchu ar ei ben ei hun yn datrys problem llygredd plastig, nac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Yn ei strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn 2020, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei chynnig i 'symud tuag at ddyfodol diwastraff erbyn 2050 mewn strategaeth newydd ar gyfer yr economi gylchol' gan bwysleisio ei hymrwymiad i ddyfodol mwy cynaliadwy.
Mae’r Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig (EPR) diweddar ar gyfer deunydd pecynnu ar gyfer y DU gyfan yn diwygio'r ffordd y caiff deunydd pecynnu plastig ei reoli ledled y DU, gan roi'r cyfrifoldeb am gost lawn rheoli gwastraff deunydd pecynnu ar fusnesau. Ei nodau yw lleihau deunydd pecynnu diangen, symud i fodelau busnes cylchol a lleihau llygredd amgylcheddol. Mae'r cydgysylltu ledled y DU yn galonogol o ran gweithredu'r mesur hwn.
Yr hyn sy’n llai sicr yw'r cynllun dychwelyd ernes, sydd wedi bod ar agenda Cymru ers 2018. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad ar gynllun dychwelyd ernes i Gymru yn unig yn 2025-2026, ond cyhoeddodd wedi hynny y bydd cynllun Cymru yn cael ei alinio i ddechrau â gweddill y DU o ran amserlen cyflawni a rhyngweithrededd. Mae’r cynllun, sy'n rhoi cymhelliant ariannol i bobl ailgylchu eitemau fel poteli plastig a gwydr, wedi bod yn llwyddiannus iawn ledled yr UE, gan gynnwys cyfradd dychwelyd deunydd pecynnu o fwy na 97% yn yr Almaen.
Edrych tua'r dyfodol
Er nad yw'r manylion a'r cynnwys wedi'u cwblhau eto, ni fydd y gwaith yn dod i ben pan fydd y trafodaethau’r cytuniad yn dod i ben. Tasg llywodraethau ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru, fydd sicrhau bod polisïau'n cael eu datblygu i gynnal ymrwymiadau a chymryd camau ystyrlon i gyflawni ei nodau.
Erthygl gan Dr Winnie Courtene-Jones, Prifysgol Bangor.
Mae Dr Winnie Courtene-Jones yn ddarlithydd mewn llygredd morol sy'n ymchwilio i gyffredinolrwydd plastigau yn yr amgylchedd a’u heffeithiau. Mae Winnie yn aelod gweithgar o’r Cynghrair Gwyddonwyr ar gyfer Cytuniad Plastigau Effeithiol, sef rhwydwaith rhyngwladol o arbenigwyr gwyddonol a thechnegol annibynnol sy'n cyfrannu gwybodaeth wyddonol gadarn at broses y cytuniad. Mae crynodebau ar draws ystod o bynciau ar gael yn rhad ac am ddim.