Rydym wedi clywed llawer am uchelgais Llywodraeth y DU i godi’r gwastad mewn gwahanol rannau o’r DU, ond llai am sut y caiff hyn ei gyflawni tan yn ddiweddar. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn Codi’r Gwastad, gan nodi’r camau nesaf yn ei chynlluniau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn seiliedig ar leoedd.
Beth yw’r anghydraddoldebau rhanbarthol allweddol y mae Llywodraeth y DU am eu datrys?
Mae yna anghydraddoldebau hirdymor a sefydledig rhwng lleoedd yn y DU mewn perthynas â’r economi, addysg, sgiliau, iechyd a thai. O ran dangosyddion economaidd fel cynhyrchiant ac incwm y pen, mae Llywodraeth y DU yn nodi bod mwy o anghydraddoldebau yn y DU nag mewn llawer o genhedloedd cymaradwy.
Gan edrych ar y metrigau allweddol y mae Llywodraeth y DU wedi’u defnyddio yn ei Phapur Gwyn, mae Cymru’n perfformio’n is na chyfartaledd y DU mewn perthynas â chynhyrchiant, enillion, sgiliau a disgwyliad oes iach. Fodd bynnag, mae amrywiaeth sylweddol rhwng gwahanol rannau o Gymru, gyda’r Cymoedd ac ardaloedd gwledig yn fwyaf tebygol o gael eu hystyried ‘wedi’u gadael ar ôl’ yn nadansoddiad Llywodraeth y DU.
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cynhyrchiant llafur rhanbarthol blynyddol
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Enillion Gweithwyr 2021 – Tabl 8
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, NOMIS – Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Disgwyliadau oes cyflwr iechyd, y DU: 2017 i 2019
Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Papur Gwyn Codi’r Gwastad (ffigur 1.13, tudalen 18)
Sut mae Llywodraeth y DU yn codi’r gwastad, a sut mae ei chynigion yn rhyngweithio â’r setliad datganoli?
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd angen i’r gwaith o godi’r gwastad fod yn ‘eang, dwfn a hirdymor’. Mae’r Papur Gwyn yn nodi pedair ffordd y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio codi’r gwastad yn y DU:
- hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny sydd ar ei hôl hi;
- ehangu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwannaf;
- adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi cael eu colli; a
- grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny sydd heb weithredaeth leol.
Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys deuddeg 'cenhadaeth' yn seiliedig ar y rhain, yn cwmpasu safonau byw; ymchwil a datblygu; seilwaith trafnidiaeth; cysylltedd digidol; addysg a sgiliau; iechyd a llesiant; balchder cymunedol; tai; trosedd; ac arweinyddiaeth leol.
Mae’r Papur Gwyn yn cwmpasu rhai meysydd heb eu datganoli lle bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu yng Nghymru, fel trosedd a band eang, a meysydd lle mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau, fel trafnidiaeth gyhoeddus ac ymchwil a datblygu. Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn ymwneud â Lloegr yn unig mewn perthynas â nifer o feysydd datganoledig, fel iechyd, tai ac addysg, a mater i Lywodraeth Cymru yw sut y mae’n mynd i’r afael â’r heriau yn y meysydd hyn. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad, Cymunedau a Thai wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i geisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i oresgyn heriau cyffredin. Dywedodd y Prif Weinidog fod y Papur Gwyn yn “ddogfen denau iawn” heb gynllun strategol, a heb y cyllid angenrheidiol i gyflawni ei nodau.
Efallai mai’r agwedd fwyaf gwleidyddol ddadleuol ar y cynigion yw bod Llywodraeth y DU yn defnyddio’r pwerau y mae wedi’u cael yn ddiweddar i wario arian ar feysydd datganoledig ledled y DU, trwy fentrau datblygu lleol/rhanbarthol fel y Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y bydd ei dull gweithredu yn cryfhau’r cymorth y mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn ei ddarparu. Mewn cyferbyniad, mae Gweinidog Economi Cymru wedi datgan fod “Deddf anghyfansoddiadol y Farchnad Fewnol yn cael ei defnyddio i sarnu datganoli democrataidd drwy ein rhwystro rhag gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru”.
Beth ydym ni'n ei wybod am y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd ar y gweill?
Dywedodd maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU 2019 y byddai’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ledled y DU drwy ddatblygu Cronfa Ffyniant Gyffredin i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE. Mae Llywodraeth y DU newydd gyhoeddi canllawiau cyn lansio ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Er bod hyn yn rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch bwriadau Llywodraeth y DU, mae nifer o gwestiynau i’w hateb o hyd.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn arwain y gwaith o weithredu’r gronfa ledled y DU, ond y bydd yn trafod rôl y gweinyddiaethau datganoledig. Bydd y gronfa yn gweld nifer o newidiadau o beilot y Gronfa Adnewyddu Cymunedol.
Yn hytrach na bod ardaloedd yn gwneud cais cystadleuol am gyllid, bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i bob rhan o'r DU a bydd angen i Lywodraeth y DU gymeradwyo cynllun buddsoddi i gael mynediad ato. Nid ydym yn gwybod eto faint y bydd Cymru neu awdurdodau lleol unigol yn ei gael, na'r fethodoleg sy’n cael ei defnyddio i bennu faint y bydd ardaloedd yn ei gael.
Un o bryderon Llywodraeth Cymru yw bod y dull gweithredu a dreialwyd gyda’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn ‘ddull llawer mwy lleoledig ac atomig’ oedd heb ddysgu gwersi o gylch y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru ar gyfer 2000-06 a welodd ormod o brosiectau heb ddigon o ffocws strategol a rhanbarthol. Mae canllawiau Llywodraeth y DU yn datgan y caiff awdurdodau lleol Cymru eu gwahodd i gydweithio i ddatblygu cynigion ar draws ardaloedd Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ‘o leiaf’ yn cyfateb i swm y Cronfeydd Strwythurol y mae pob cenedl yn ei gael. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd Cymru’n colli £750 miliwn rhwng 2021-22 a 2023-24 o ganlyniad i’r ffaith na fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn disodli’r Cronfeydd Strwythurol yn llawn tan 2024-25, er bod Llywodraeth y DU yn anghytuno â hyn.
Beth yw’r heriau sy’n gysylltiedig â chodi’r gwastad, a pha mor debygol yw cynigion Llywodraeth y DU o gyflawni ei hamcanion?
Er bod llawer o sefydliadau’n croesawu cyhoeddi’r Papur Gwyn, fe wnaethant hefyd sôn am yr heriau y mae Llywodraeth y DU yn eu hwynebu o ran cyflawni ei nodau. Fe wnaeth y felin drafod Onward, y gwnaeth Gweinidog presennol y DU dros Godi’r Gwastad, yr Undeb a’r Cyfansoddiad ysgrifennu adroddiad ar ei chyfer ar godi’r gwastad y llynedd, ddweud mai cyflawni yw’r her allweddol, a sut mae'r uchelgeisiau'n trosi i weithredu y tu hwnt i lywodraeth ganolog.
Fe wnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid awgrymu mai’r brif her y mae Llywodraeth y DU yn ei hwynebu o ran cyflawni ei chynlluniau yw sicrhau cyllid digonol a ffocws ar bolisi a diwygio. Heb y rhain, mae’n dweud bod risg bod y llywodraeth wedi dewis ei chyrchfan heb unrhyw synnwyr o sut mae’n bwriadu cyrraedd yno.
Dywedodd y Sefydliad Materion Cymreig fod dull y Papur Gwyn yn bygwth gwanhau atebolrwydd democrataidd a datblygiad economaidd yng Nghymru. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sefydlu corff cydgysylltu i weinyddu dyraniadau o’r Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru.
Fe wnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ganfod nad yw Llywodraeth y DU wedi gwerthuso effeithiau ei pholisïau blaenorol ar dwf economaidd lleol, er ei bod yn dechrau gwneud hynny nawr, ac mae wedi ‘gwastraffu cyfleoedd i ddysgu pa fentrau ac ymyriadau sydd fwyaf effeithiol’. Mae'r ffactorau hyn yn golygu nad oes gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol gymaint o hyder y bydd y cynlluniau presennol yn rhoi gwerth am arian.
Mae'n amlwg y bydd codi’r gwastad yn gofyn am ddull hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sefydledig rhwng lleoedd ledled Cymru a'r DU ac o fewn y lleoedd hyn. Mae angen aros i weld i ba raddau y bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael yn llwyddiannus â’r heriau y mae llawer o bobl a chymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu, a sut y bydd yn rhyngweithio â pholisi Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru