Un wythnos i wneud cais: mae’r dyddiad cau yn agosáu i ddinasyddion Ewrop aros yng Nghymru

Cyhoeddwyd 23/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, rhaid i ddinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru wneud cais os ydyn nhw am aros.

Rhaid i ddinasyddion o Aelod-wladwriaethau'r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir a oedd yn byw yng Nghymru cyn 1 Ionawr 2021 wneud cais i Gynllun Setliad yr UE erbyn dydd Mercher 30 Mehefin 2021 er mwyn aros. Mae dinasyddion Iwerddon wedi'u heithrio o dan drefniadau ar wahân.

Rhaid gwneud cais unigol ar gyfer pob aelod o'r teulu, gan gynnwys plant.

Y broses ymgeisio: canlyniadau posibl

Bydd y rhai sy’n gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE yn cael penderfyniad ynglŷn â’u statws newydd. Mae tri phrif ganlyniad – 'statws preswylydd sefydlog', ‘statws preswylydd cyn-sefydlog' neu gais wedi’i wrthod. Mae canlyniadau posibl eraill hefyd ar gyfer ceisiadau a dynnwyd yn ôl neu geisiadau amhendant.

  • I gael statws preswylydd sefydlog, mae’n rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn y DU am bum mlynedd heb absenoldeb o fwy na chwe mis, gyda rhai eithriadau.
  • Rhoddir statws preswylydd cyn-sefydlog i breswylwyr cymwys sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020.
  • Gall dinasyddion sy’n breswylwyr sefydlog a’r rheini sy’n breswylwyr cyn-sefydlog weithio yn y DU, a chael gafael ar ofal iechyd, addysg ac arian cyhoeddus. At hynny, gallant deithio i mewn ac allan o'r DU.

Fodd bynnag, ni all dinasyddion sy’n breswylwyr cyn-sefydlog ddod ag aelodau o'r teulu i ymuno â nhw, a gallent golli eu statws os ydyn nhw'n treulio dwy flynedd y tu allan i'r DU (pum mlynedd ar gyfer y rheini â statws preswylwyr sefydlog). At hynny, daw statws preswylydd cyn-sefydlog i ben ar ôl pum mlynedd, a rhaid ei drosi i statws preswylydd sefydlog drwy wneud ail gais.

Faint o ddinasyddion sydd angen gwneud cais o hyd o Gymru?

Nid yw nifer y dinasyddion cymwys yn hysbys, sy'n golygu nad oes neb yn gwybod faint o geisiadau ddylai fod. Yr amcangyfrif diweddaraf yw bod 95,000 o ddinasyddion cymwys yng Nghymru.

Ar 31 Mai 2021, roedd 92,700 o geisiadau wedi dod i law o Gymru, i fyny o 83,800 ddiwedd mis Ionawr. Mae 58 y cant o ymgeiswyr yng Nghymru wedi cael statws preswylydd sefydlog, ac mae oddeutu 40 y cant wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog.

Mae ystadegau manwl yn cael eu cyhoeddi’n chwarterol. Yn ôl y data diweddaraf:

  • Mae 2 y cant o holl geisiadau’r DU yn dod o Gymru.
  • Mae ceisiadau o Gymru yn fwy tebygol o gael statws preswylydd sefydlog (58 y cant) o’u cymharu â Lloegr (53 y cant) a'r Alban (56 y cant) ond nid o’u cymharu â Gogledd Iwerddon (61 y cant).
  • Mae'r mwyafrif helaeth o ymgeiswyr o Gymru rhwng 18 a 64 oed.
  • Daw cyfran uchel o’r ceisiadau o Gymru i'r Cynllun gan bobl 65+ oed

Gweinidog newydd Llywodraeth Cymru

Er bod polisi mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei safbwynt yn rheolaidd bod croeso i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. Jane Hutt AS yw'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol newydd sy'n gyfrifol am weithgareddau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Cynllun yng Nghymru.

Ar 8 Mehefin, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn, a nododd ei gofid nad yw Llywodraeth y DU wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ganiatáu rhagor o amser i gyrraedd dinasyddion cymwys (yn unol â sawl cais a wnaed gan Lywodraeth Cymru (PDF, 616KB)).

Esboniodd y Gweinidog ei bod wedi ysgrifennu at Kevin Foster AS, Gweinidog Llywodraeth y DU (PDF, 261KB), yn gofyn iddo o leiaf ystyried effaith barhaus y pandemig. Gallwch ddarllen mwy am effaith y pandemig ar y Cynllun yn ein blog diweddar.

Bydd angen i ddinasyddion 'cyn-sefydlog' wneud cais eto mewn pum mlynedd.

Mynegodd y Gweinidog bryder am ddinasyddion 'cyn-sefydlog' Cymru a fydd angen cwblhau ail gais i wneud cais am statws sefydlog pan fyddant yn gymwys.

Ar hyn o bryd maent yn cyfrif am 39 y cant o’r ceisiadau sy’n cael eu prosesu o Gymru. Ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 32,370 o ymgeiswyr o Gymru yr oeddent wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog ac y bydd angen iddynt wneud ail gais. Mae’r data sydd ar gael yn dangos nifer yr ymgeiswyr y rhoddwyd statws preswylydd cyn-sefydlog iddynt yn ôl ardal awdurdod lleol:

Awdurdod lleol

Nifer o ymgeiswyr ‘cyn-sefydlog’

Blaenau Gwent

370

Pen-y-bont ar Ogwr

620

Caerffili

440

Cardiff

8,590

Sir Gaerfyrddin

1,320

Ceredigion

1,410

Conwy

540

Sir Ddinbych

450

Sir y Fflint

2,930

Gwynedd

1,050

Ynys Môn

130

Merthyr Tudful

670

Sir Fynwy

550

Castell-nedd Port Talbot

530

Casnewydd

3,350

Sir Benfro

780

Powys

780

Rhondda Cynon Taf

1,000

Abertawe

3,350

Torfaen

230

Bro Morgannwg

620

Wrecsam

2,680

Cyngor a chymorth am ddim

Lansiodd Llywodraeth Cymru becyn cyngor a chymorth am ddim yn 2019 a ddarparwyd gan amrywiaeth o sefydliadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cymorth digidol gyda cheisiadau neu gymorth gydag ymholiadau cyffredin ynghylch cymhwysedd gan Cyngor ar Bopeth;
  • cyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle; a
  • chyngor arbenigol rhad ac am ddim ar fewnfudo i bobl sydd ag anghenion cymhleth.

Nod pecyn cymorth Llywodraeth y DU yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyflogwyr i gefnogi gweithwyr sy’n ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd.

Mynegwyd pryderon gan Lywodraeth Cymru a’r Senedd y gall dinasyddion cymwys:

  • beidio â sylweddoli bod angen iddynt wneud cais, yn enwedig os ydynt wedi byw yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, neu fod angen ceisiadau ar wahân ar gyfer pob aelod o'r teulu;
  • wynebu rhwystrau digidol wrth wneud cais i'r Cynllun digidol yn unig;
  • gael eu hystyried yn ddinasyddion agored i niwed y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i wneud cais, megis plant mewn gofal;
  • wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Y tu hwnt i 30 Mehefin 2021

Mynegwyd pryderon am y rhai sy’n methu’r dyddiad cau, gan gynnwys gan Bwyllgor Materion Allanol y Bumed Senedd.

Dywedodd Kevin Foster AS, Gweinidog Llywodraeth y DU, wrth y Pwyllgor yn y Senedd (PDF, 154KB) y bydd y rhai sy'n colli'r dyddiad cau heb fod unrhyw fai arnynt yn cael cyfleoedd pellach i wneud cais. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau (PDF, 123KB) ar sut y dylid trin ceisiadau hwyr.

Serch hynny, dywedodd Jane Hutt AS wrth Kevin Foster AS na fydd hyn yn ddigon i'r dinasyddion hynny sy'n dechrau dychwelyd i'r DU wrth i’r cyfyngiadau teithio gael eu llacio. Mynegwyd pryderon y gallai dinasyddion yr UE fod mewn sefyllfa lle maent yn byw'n anghyfreithlon yn y DU os ydynt yn methu'r dyddiad cau.

Gall dinasyddion cymwys wneud cais i'r Cynllun ar wefan Llywodraeth y DU.


Erthygl gan Sara Moran a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru