Un o bwyllgorau’r Senedd i adolygu rheoliadau dadleuol yn ymwneud â llygredd amaethyddol

Cyhoeddwyd 12/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae rheolau newydd sy’n ymwneud â llygredd amaethyddol wedi cythruddo cymunedau ffermio ledled Cymru.

Mae ffermwyr o’r farn bod y rheoliadau yn llym ac yn gosbol, ac maent wedi lansio her gyfreithiol yn eu cylch.

Mae amgylcheddwyr yn dadlau ei bod yn hen bryd cyflwyno’r rheolau dan sylw, gan honni y byddant yn helpu’r broses o atal difrod amgylcheddol trychinebus.

Daeth y ddadl i’r berw ym mis Mehefin, pan bleidleisiodd y Senedd yn unfrydol o blaid adolygu'r rheoliadau.

Beth yw'r rheolau newydd hyn, felly, a pham yr ystyrir eu bod mor ddadleuol?

Pastoral scene in rural Wales

Gall nitradau lygru dŵr a lladd bywyd gwyllt

Prif fwriad Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yw gwella ansawdd dŵr drwy reoli nitradau.

Mae ffermwyr yn aml yn defnyddio gwrteithiau, tail a slyri, sy’n cynnwys nitradau, i ychwanegu nitrogen at y pridd. Mae hyn yn gwella datblygiad planhigion, ac yn gwella swm ac ansawdd y cnwd.

Fodd bynnag, gall gormod o nitradau achosi difrod amgylcheddol sylweddol a chyson.

Daw’r rhan fwyaf o lygredd nitradau o ffynonellau amaethyddol gwasgaredig (llawer o ffynonellau unigol ar y cyd), drwy ddŵr ffo ar y tir.

Gall gormod o nitradau fynd i mewn i gronfeydd dŵr wyneb, fel llynnoedd ac afonydd, gan achosi ewtroffigedd, pan fo anghydbwysedd yn yr ecosystem yn niweidio bywyd dyfrol.

Gall llygredd nitradau hefyd effeithio ar ffynonellau dŵr yfed os yw’n mynd i ddŵr daear.

Dynodi Cymru gyfan yn ‘Barth Perygl Nitradau’

Mae'r rheoliadau dan sylw, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, yn cyflwyno ‘llinell sylfaen reoliadol’ ar gyfer Cymru gyfan o ran rheoli llygredd amaethyddol, gan gynnwys:

  • cael cynlluniau ar gyfer rheoli maethynnau a chadw cofnodion;
  • rheoli pryd, ble a sut y mae gwrteithiau yn cael eu gwasgaru – er enghraifft, atal ymdrechion i wasgaru slyri rhwng mis Hydref a mis Chwefror;
  • defnyddio'r swm cywir o wrtaith, yn y ffordd iawn, i fodloni gofynion y cnwd; a
  • chael safonau ar gyfer storio tail a silwair.

Y bwriad yw cyflwyno’r mesurau hyn fesul cam dros gyfnod o dair blynedd, a hynny er mwyn rhoi amser i ffermwyr addasu i'r newidiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ac wedi sicrhau bod cyllid ar gael, gan gynnwys £11.5 miliwn ar gyfer seilwaith rheoli maethynnau. Gall ffermwyr gael cyngor drwy wasanaeth Cyswllt Ffermio.

Mae'r mesurau yn debyg i'r rhai a oedd wedi’u cynnwys yn y Parthau Perygl Nitradau blaenorol, yn unol â gofynion Cyfarwyddeb Nitradau'r UE. Fodd bynnag, bwriedir iddynt wella ansawdd yr aer yn ogystal ag ansawdd y dŵr.

Yn sgil yr adolygiad swyddogol, argymhellwyd y dylai 8 y cant o dir Cymru fod yn Barthau Perygl Nitradau

Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad ynghylch Parthau Perygl Nitradau rhwng 2015 a 2016. Ei argymhelliad oedd dynodi saith ardal newydd, gan gynyddu’r ganran o dir Cymru a oedd yn Barthau Perygl Nitradau o 2.4 y cant i 8 y cant.

Yna, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddau opsiwn, sef:

  1. parhau â'r dull a oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd ar gyfer dynodi Parthau Perygl Nitradau, gan arwain at fwy o fesurau a chynyddu'r arwynebedd tir a oedd yn destun dynodiad i 8 y cant; neu
  2. dynodi Cymru gyfan fel Parth Perygl Nitradau.

Ym mis Rhagfyr 2017, dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog, ei bod “o blaid cyflwyno dull cenedlaethol”. Cadarnhaodd y Gweinidog y safbwynt hwn ym mis Tachwedd 2018. Bryd hynny, y bwriad oedd y byddai’r rheoliadau yn dod i rym ym mis Ionawr 2020.

Yna, ym mis Rhagfyr 2019, cafodd y broses hon ei hoedi gan y Gweinidog. Dywedodd y Gweinidog fod y diwydiant ffermio wedi awgrymu dull gwahanol a oedd yn seiliedig ar hyblygrwydd ac “ymreolaeth haeddiannol”, a’i bod yn dymuno archwilio’r mater hwn ymhellach.

Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd y Gweinidog reoliadau drafft ar gyfer cyflwyno Parth Perygl Nitradau ar gyfer Cymru gyfan, gan ddweud ei bod yn bwriadu cyflwyno’r rheoliadau “ar ôl i’r argyfwng [COVID] ddod i ben”. Ym mis Mai 2020, gwnaeth y Gweinidog ailadrodd y ffaith na fyddai'n cyflwyno’r rheoliadau yn ystod y cyfnod hwnnw o’r pandemig.

Serch hynny, cafodd y rheoliadau terfynol eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2021, a daethant i rym ar 1 Ebrill.

Gwahaniaeth barn ymhlith ffermwyr ac amgylcheddwyr

Ychydig iawn o faterion sydd wedi achosi’r fath anghytuno rhwng ffermwyr ac amgylcheddwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Croesawodd Ymddiriedolaethau Natur Cymru y rheoliadau gan ddweud: “For too long the farming industry has relied on voluntary measures that simply haven’t deterred the worst offenders…These new regulations should enable a level playing field for all farmers in Wales.”

Dywedodd Iolo Williams, cyflwynydd teledu a naturiaethwr, fod y datblygiad hwn yn newyddion gwych i afonydd Cymru, a’i bod yn hen bryd i hyn ddigwydd.

Mae grwpiau pysgota hefyd yn cefnogi'r rheoliadau. Mynegodd sefydliad Salmon and Trout Conservation ryddhad bod rheoliadau i atal llygredd amaethyddol yn afonydd Cymru wedi cael eu cyflwyno o’r diwedd.

Fodd bynnag, dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), fod cyflwyno’r rheoliadau yn fesur llym a oedd yn dwyn anfri ar ddatganoli ac yn bradychu’r egwyddor o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

Dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru, fod cael Parth Perygl Nitradau ar gyfer Cymru gyfan yn ddiwahân ac yn gosbol, a bod y gefnogaeth a oedd ar gael i helpu ffermwyr i addasu i newidiadau mor sylweddol yn druenus o annigonol. Yn ogystal, dywedodd fod y rheoliadau yn ymdrech ddiog i dorri a gludo Cyfarwyddeb Nitradau’r UE, sydd wedi bod yn destun beirniadaeth sylweddol.

Mae NFU Cymru wedi lansio her gyfreithiol. Mae'r undeb yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy beidio ag ystyried yr holl wybodaeth berthnasol wrth ymgymryd â'r Asesiad Effaith Rheoleiddio cyn cyflwyno'r rheoliadau. Mae hefyd wedi herio absenoldeb 'rhanddirymiad' (eithriad) penodol.

Cafodd cynnig gan wrthblaid i ddirymu’r rheoliadau ei drechu yn y Senedd flaenorol.

Adolygu'r rheoliadau chwe mis ar ôl iddynt ddod i rym

Wrth agor y ddadl yn y Senedd ym mis Mehefin, cwestiynodd James Evans AS, y Ceidwadwyr Cymreig, y sylfaen dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau dull gweithredu Cymru gyfan. Beirniadodd y pecyn cymorth a oedd ar gael, gan fynegi pryder y byddai rhai ffermwyr yn gadael y diwydiant.

Galwodd Cefin Campbell AS, Plaid Cymru, am ddull wedi'i dargedu a oedd yn seiliedig ar wyddoniaeth ac arloesi. Dywedodd hefyd y dylid ailystyried argymhelliad Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch dynodi 8 y cant o dir Cymru yn Barth Perygl Nitradau.

Dywedodd Jane Dodds AS, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, nad oedd y rheoliadau yn gymesur nac yn fforddiadwy. Dywedodd fod datrysiadau amgen yn cynnwys darparu mwy o adnoddau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru at ddibenion plismona achosion o lygredd ac erlyn troseddwyr.

Fodd bynnag, cefnogwyd y rheoliadau gan Joyce Watson AS, Llafur Cymru. Dywedodd Joyce Watson fod angen gweithredu ar frys er mwyn rheoli llygredd cyn ei bod yn rhy hwyr i adfer ecosystemau afonydd, gan ychwanegu bod dull Cymru gyfan yn “arf cwbl gymesur.”

Rhoddodd y Gweinidog amddiffyniad cadarn o'r rheoliadau. Dywedodd fod cyfraddau llygredd yn rhy uchel a bod angen gweld cynnydd yn gynt.

Cydnabu’r Gweinidog y ffaith y bydd y newidiadau yn heriol i rai, ond dywedodd fod ffermwyr yn gwbl abl i weithio yn ôl y safonau sylfaenol hyn, a bod llawer eisoes yn rhagori arnynt.

Pwysleisiodd y ffaith y byddai’r newidiadau yn cael eu cyflwyno’n raddol, bod cefnogaeth ar gael, a bod y sylfaen reoleiddiol yn bwysig ar gyfer diogelu sefyllfa fasnachu Cymru.

Yn ogystal, dywedodd y Gweinidog y byddai’r rheoliadau yn caniatáu i'r diwydiant ddatblygu mesurau amgen a fyddai’n cael yr un effaith â'r rheoliadau, neu effeithiau gwell, a'i bod am barhau i weithio gyda rhanddeiliaid yn y maes hwn.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi lansio galwad am dystiolaeth, gyda’r bwriad o adolygu'r rheoliadau ym mis Medi.

Mae’n bosibl y bydd cynlluniau'r Pwyllgor yn newid, yn dibynnu ar hynt yr her gyfreithiol yn yr Uchel Lys.


Erthygl gan Elfyn Henderson a Holly Tipper, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.