Tystysgrifau statws COVID: beth yw'r ystyriaethau allweddol?

Cyhoeddwyd 09/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2021   |   Amser darllen munud

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun i lacio’r cyfyngiadau COVID yn Lloegr, roedd yn cynnwys adolygiad o'r defnydd o dystysgrifau statws COVID dan arweiniad Michael Gove AS, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet. Disgwylir i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei barn eto ynglŷn â’r defnydd o dystysgrifau statws COVID.

Drwy gydol yr erthygl hon rydym yn defnyddio’r term tystysgrifau statws COVID, mae hyn yn cynnwys pasbortau brechu a thystysgrifau eraill yn seiliedig ar brofion.

Beth yw tystysgrifau statws COVID?

Gall tystysgrif statws COVID fod yn seiliedig ar nifer o wahanol bethau, gan gynnwys brechiad, prawf llif unffordd neu brawf PCR negyddol, neu imiwnedd naturiol rhag profi’n bositif hyd at 180 diwrnod yn dilyn y cyfnod hunanynysu.

Rydym yn gwybod nad yw brechlynnau'n rhoi gwarchodaeth 100 y cant yn erbyn y feirws. Er bod tystysgrif statws COVID yn seiliedig ar frechiad yn dweud wrthym fod person wedi cael y brechlyn, nid yw’n gallu cadarnhau a ydynt yn heintus neu’n gallu trosglwyddo’r feirws ar yr adeg honno. Nid yw'n hysbys eto a yw person yn gymwys i gael tystysgrif statws COVID ar ôl un dos o'r brechlyn neu a oes angen y ddau ddos.

Er nad oes yr un prawf 100 y cant yn gywir, ystyrir mai’r prawf PCR yw’r “safon orau”. Mae profion llif unffordd yn gyflymach gan eu bod yn dychwelyd canlyniadau mewn tua 30 munud. Fodd bynnag, maent yn llai sensitif na phrofion PCR, sydd angen eu hanfon i labordy i’w dadansoddi. Mae dal yn bosibl i rywun sy'n heintus ac sy’n cael canlyniad prawf negyddol drosglwyddo'r feirws, ac mae hyn yn fwy tebygol mewn achos profion llif unffordd.

Pam fod angen y tystysgrifau?

Ar hyn o bryd, mae angen tystysgrif statws COVID dim ond ar gyfer teithiau rhyngwladol i rai gwledydd. Nid yw’n glir sut ac a fyddant yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau domestig.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod rhai lleoliadau (megis gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, trafnidiaeth gyhoeddus a siopau hanfodol) lle na ddylai fod angen tystysgrif statws COVID byth. Nododd y gallai tystysgrifau statws COVID chwarae rhan mewn lleoliadau fel theatrau, clybiau nos, a digwyddiadau torfol i helpu i leihau'r risg y bydd nifer fawr o bobl yn ymgynnull yn agos.

A fyddant yn berthnasol yn yr un modd ar draws y DU?

Ar hyn o bryd mae tystysgrifau statws COVID yn seiliedig ar frechiad ar gael drwy ap y GIG i deithwyr sydd wedi’u cofrestru gyda meddygfa yn Lloegr os ydynt yn ofynnol yn y wlad y maent yn ymweld â hi. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn “gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni ddefnyddio'r ap y maen nhw'n ei ddatblygu”.

Wrth siarad â Phwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin, dywedodd Michael Gove AS fod Llywodraeth Cymru yn gweld llawer o werth mewn gweithio'n agos gyda [dull gweithredu Llywodraeth y DU].

Mae'n bosibl i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei fersiwn ei hun o gynllun tystysgrif statws COVID yng Nghymru. Mae Sefydliad y Llywodraeth yn dweud er mwyn sicrhau bod cynllun domestig yn gweithio ledled y DU ac nad oes dryswch i fusnesau na'r cyhoedd, bydd angen i bedair llywodraeth y DU gydlynu ymateb.

Pam y gallai tystysgrifau statws COVID gael eu cyflwyno mewn lleoliadau domestig?

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn trafod a fyddai’n bosibl defnyddio tystysgrifau statws COVID yn Lloegr i ‘ailagor ein heconomi, lleihau cyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol, a gwella diogelwch’. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau ynghylch defnyddio tystysgrifau statws COVID mewn lleoliadau domestig.

Sut allan nhw gael eu cyflwyno?

Gallai tystysgrifau statws COVID fodoli heb unrhyw fath o reoliad. Er nad oes unrhyw gyfraith ar hyn o bryd sy’n darparu y caiff busnes wrthod mynediad i berson heb tystysgrif statws COVID, nid oes unrhyw gyfraith sy’n ei wahardd rhag gwneud hynny cyn belled â’i fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb.

Fodd bynnag, dywedodd Dr Ronan Cormacain o Ganolfan Rheolaeth y Gyfraith Bingham y byddai peidio â chael deddfwriaeth i ategu tystysgrifau statws COVID yn arwain at ansicrwydd cyfreithiol annerbyniol. Gellid defnyddio deddfwriaeth i ddarparu fframwaith ar gyfer tystysgrifau statws COVID sy'n nodi hawliau dinasyddion a busnesau, yn amlinellu'r eithriadau, yn ystyried yr ystyriaethau o ran cydraddoldeb a gwahaniaethu ac yn darparu datrysiadau pan fydd pethau’n mynd o chwith.

Nid yw'n glir a fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth a pha un a fyddai deddfwriaeth o'r fath yn hymgeisio i Gymru.

Pa effaith y gallai tystysgrifau statws COVID ei chael ar fusnesau?

Mae Sefydliad y Llywodraeth yn awgrymu y gallai tystysgrifau statws COVID gynyddu gweithgarwch economaidd oherwydd llai o risg o drosglwyddo’r feirws. Mae'n nodi y byddai gwasanaethau a busnesau sy’n llai abl i weithredu o dan fesurau cadw pellter cymdeithasol yn elwa. Fodd bynnag, canfu arolwg barn a gynhaliwyd gan Savanta ym mis Ebrill 2021 fod perchnogion busnesau Cymru ymhlith y rhai lleiaf tebygol o gytuno y byddai tystysgrifau statws COVID, i bob pwrpas, yn caniatáu i sectorau busnes ailagor o’u cymharu â pherchnogion mewn ardaloedd eraill o’r DU.

Mae Siambrau Masnach Prydain yn dangos nad oes gan 78 y cant o gwmnïau'r DU unrhyw gynlluniau i ddefnyddio tystysgrifau statws COVID, gyda 5 y cant o gwmnïau eisoes yn gweithredu eu gofynion eu hunain o ran prawf o frechiad COVID-19, a 6 y cant arall yn cynllunio gwneud hynny yn y dyfodol.

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi nodi saith egwyddor y byddai’n hoffi eu gweld ar gyfer unrhyw gynllun tystysgrif statws COVID.

A allent ddod yn orfodol i gyflogeion?

Mae’r Gymdeithas Frenhinol yn tynnu sylw at effeithiau posibl y tystysgrifau ar gyfraith cyflogaeth. Mae’n mynegi’r posibilrwydd y gallai cyflogeion ddwyn achosion o ddiswyddo annheg neu o wahaniaethu ynghylch tystysgrifau statws COVID yn y gweithle, gan nodi hefyd y ddyletswydd ofal ar gyflogwyr i ddiogelu cyflogeion a chwsmeriaid.

Dywedodd Llywodraeth y DU nad ei bwriad yw dweud y dylai cyfraith contractau newid neu y dylai amodau cyflogaeth newid o ganlyniad i dystysgrifau statws.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur yn codi cwestiynau ynghylch effaith tystysgrifau statws COVID ar gyflogeion, gan gynnwys sut y bydd data o brofion yn cael eu casglu, a sut y bydd gwybodaeth iechyd personol cyflogeion yn parhau i fod yn gyfrinachol.

Beth am faterion cydraddoldeb a phreifatrwydd?

Mae pryderon y gallai tystysgrifau statws COVID greu 'cymdeithas ddwy haen', a allai waethygu anghydraddoldebau presennol a gwahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn pwysleisio ei bod yn bwysig cael y cydbwysedd yn iawn rhwng rhyddid yr unigolyn a hawliau pobl eraill. Mae Sefydliad Hawliau Dynol Prydain yn nodi y gall tystysgrifau statws COVID fod yn ystyriaeth berthnasol o ran nifer o hawliau yn y Ddeddf Hawliau Dynol, gan gynnwys hawl i fywyd, hawl i barch am fywyd preifat, hawl i ryddid meddwl, cred a chrefydd, a hawl i neb wahaniaethu yn eich erbyn.

Mae risg hefyd y gallai tystysgrifau statws COVID digidol wahaniaethu yn erbyn pobl sy'n fwy tebygol o fod wedi'u hallgáu'n ddigidol, fel y bobl ar incwm isel a phobl hŷn. Mae Cyngor Ewrop (sy'n gorfodi'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) yn argymell bod yn rhaid i dystysgrifau statws COVID gynnwys mesurau llym i ddiogelu data personol, a mwy o wyliadwriaeth yn erbyn y risgiau o ffugio tystysgrifau.

Beth mae gwledydd eraill yn ei wneud?

Mae saith o wledydd yr UE wedi lansio Tystysgrif Covid Digidol yr UE (EDCC), a elwid gynt yn Dystysgrif Gwyrdd Ddigidol. Gellir rhoi'r EDCC i ddinasyddion yr UE sydd wedi cael eu brechu, sydd wedi cael canlyniad prawf negyddol, neu sydd wedi gwella o COVID. Bydd y cod QR rhad ac am ddim, digidol neu ar bapur, yn ddilys ym mhob un o wledydd yr UE ac ardal Schengen i baratoi ar gyfer teithiau Ewropeaidd yn yr haf. Mae Iwerddon yn ystyried ymestyn yr EDCC i ddeiliaid pasbort Gwyddelig sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cyflwynodd Israel ei Bàs Gwyrdd wrth leddfu cyfyngiadau, ond mae bellach wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio. Mae gan Denmarc ac Estonia eu cynlluniau eu hunain gyda gofynion gwahanol.

Mae rhai gwledydd wedi gwrthod y cysyniad o dystysgrifau statws COVID gan gynnwys UDA (er y gall taleithiau unigol lansio eu tystysgrifau eu hunain), tra bod eraill wedi cael eu gorfodi i atal eu cynlluniau yn sgil gwrthwynebiad, megis yn Awstralia.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi gwrthwynebu pasbortau brechlyn hefyd fel amod ar gyfer gadael/mynediad ar y sail nad yw’n sicr eto a yw brechlynnau yn atal y feirws rhag trosglwyddo ac oherwydd eu heffeithiau gwahaniaethol posibl.


Erthygl gan Lucy Morgan, Gareth Thomas, Gruffydd Owen a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru