Tyfu eich bwyd eich hun: rhandiroedd a bwyd sydd wedi'i dyfu mewn cymunedau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

24 Medi 2014

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 14 Gorffennaf 2014, lansiodd John Griffiths, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon ar y pryd, ymgynghoriad Papur Gwyrdd yn nodi cynigion i sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer rhandiroedd ac i wella cyfleoedd i dyfu bwyd mewn cymunedau yng Nghymru.

[caption id="attachment_1579" align="aligncenter" width="500"]Rhandiroedd Llun: o Flickr gan net_efekt. Dan drwydded Creative Commons[/caption]

Cefndir

Yn 2010, cynhaliodd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Trydydd Cynulliad ymchwiliad i ddarparu rhandiroedd yng Nghymru. Ystyriodd yr ymchwiliad ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo a darparu cyfleoedd i feithrin y diddordeb cynyddol mewn rhandiroedd a garddio cymunedol, ac archwilio’r ffyrdd y gallai’r gweithgareddau hyn gynnig manteision cymdeithasol ehangach. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei gasgliadau ym mis Gorffennaf 2010. Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cael llawer o dystiolaeth gadarnhaol am grwpiau yn dod at ei gilydd i greu llecynnau cymunedol. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor hefyd ei fod wedi cael tystiolaeth gan unigolion a oedd wedi 'straffaglu i ddod o hyd i dir i dyfu eu cynnyrch eu hunain a chan bobl a oedd wedi bod yn brwydro i gael Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswyddau.’ Roedd argymhellion y Pwyllgor yn cynnwys:
  • bod Llywodraeth Cymru yn mapio’r rhandiroedd sydd ar gael er mwyn sicrhau darlun clir o'r ddarpariaeth rhandiroedd;
  • bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth bresennol ac yn ceisio'r cymhwysedd deddfwriaethol angenrheidiol i gyflwyno deddfwriaeth newydd ar gyfer rhandiroedd;
  • bod y Gweinidog yn archwilio'r potensial i gynyddu'r cyflenwad o randiroedd drwy ddefnyddio tir sy’n eiddo cyhoeddus a
  • bod canllawiau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Awdurdodau Lleol yn amlinellu'r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer darparu rhandiroedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod llawer o'r argymhellion hyn wedi cael sylw yn y Cynllun Gweithredu Tyfu Bwyd yn y Gymuned a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2010 gan Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar y pryd. Roedd strategaethau'r cynllun gweithredu'n cynnwys bod Arsyllfa Wledig Cymru (AWC) yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ar bob lefel sy'n ymwneud â thyfu bwyd yn y gymuned. Hefyd, byddai AWC yn gweithio gyda sefydliadau perthnasol ac awdurdodau lleol i wella dulliau o ddarparu a rheoli rhandiroedd. Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o ddeddfwriaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â mynediad a hamdden awyr agored. Roedd yr adolygiad yn cynnwys edrych ar y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer rhandiroedd. Yn dilyn yr adolygiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen ystyried y ddeddfwriaeth i weld a oedd angen ei moderneiddio a'i gwella, yn enwedig o ran gwella'r ffordd o gofnodi'r tir sydd ar gael. Galwodd Llywodraeth Cymru hefyd am ddiffiniad gwell o dir a ddefnyddir ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned gan awgrymu y dylai fod yn fwy hyblyg na'r rhandir 'traddodiadol'. Arweiniodd hyn at Bapur Gwyrdd 2014 ar wella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol.

Cynigion Newydd

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ei chynigion newydd yn ategu'r Cynllun Gweithredu Tyfu Bwyd yn y Gymuned. Mae'r Papur Gwyrdd yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i nodi a chyflenwi tir ar gyfer defnydd rhandiroedd er mwyn 'hybu sgiliau, iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac er mwyn adfywio cymunedau lleol'. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar gynigion i wella argaeledd tir ar gyfer rhandiroedd, i ddiogelu tir ar gyfer rhandiroedd a gwella cyfleoedd ar gyfer tyfu cymunedol gyda'r nod o helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu argaeledd tir ar gyfer rhandiroedd. Mae'r cynigion yn cynnwys:
  • darparu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch hybu a chefnogi tyfu bwyd yn y gymuned;
  • sicrhau bod tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned ac annog a chefnogi tirfeddianwyr preifat a chyhoeddus i wneud yr un peth;
  • cefnogi ffermwyr i fynd i’r afael â rhwystrau o safbwynt darparu tir ar gyfer rhandiroedd a thyfu bwyd yn y gymuned; a
  • sefydlu hawl i awdurdodau lleol, cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd gofrestru a defnyddio tir cyhoeddus nad yw’n cael ei ddefnyddio, neu dir lle nad yw’r perchennog yn hysbys, at ddiben tyfu bwyd yn y gymuned.
Wrth lansio'r Papur Gwyrdd, dywedodd John Griffiths, y cyn Weinidog: Mae tyfu bwyd ar gyfer eich hunain ac ar gyfer eich teulu’n weithgaredd arbennig i lawer o bobl yng Nghymru a gall unigolion a grwpiau o bob oedran, ac o bob gallu a modd ariannol, ei fwynhau. Mae bellach yn weithgaredd sy’n fwy poblogaidd nag erioed ac ni all llawer o awdurdodau lleol fodloni’r galw uchel am randiroedd... Gall sicrhau defnydd mwy cynhyrchiol o dir o fewn ein cymuned drwy randiroedd a mannau tyfu hefyd sicrhau manteision cymdeithasol, gan ddwyn cymunedau ynghyd a chynorthwyo i’w hadfywio. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 6 Hydref 2014.