Tŷ'r Cyffredin yn mabwysiadu'r arfer o bleidleisio drwy ddirprwy i Aelodau Seneddol ar absenoldeb rhiant

Cyhoeddwyd 12/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Beth yw'r mater?

Ar 22 Ionawr 2019 gofynnodd Jo Swinson, AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Gwestiwn Brys yn Nhŷ'r Cyffredin:

To ask the Leader of the House of Commons if she will make a statement on the obstacles to introducing proxy voting in Parliament.

Yn ystod ei hymateb, cafodd Arweinydd y Tŷ, y Gwir Anrhydeddus Andrea Leadsom AS, gyfle i gyhoeddi ei bod wedi cyflwyno cynnig o sylwedd ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldebau mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu, a byddai Tŷ'r Cyffredin yn pleidleisio arno ddydd Llun 28 Ionawr 2019.

Esboniodd y bydd y cynnig, i raddau helaeth, yn dilyn yr argymhellion a nodir ym mhumed adroddiad Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin o Sesiwn 2017-19.

Bydd yn hwyluso absenoldeb rhiant i Aelodau Seneddol ac yn gweithredu penderfyniad y Tŷ i gytuno ar yr arfer o bleidleisio drwy ddirprwy mewn achosion o absenoldeb rhiant.

Cytunwyd ar y cynnig i gymeradwyo pleidleisio drwy ddirprwy gyda'r nos ar 28 Ionawr 2019. Roedd y cynnig yn galw ar y Llefarydd i baratoi cynllun peilot. Dywedodd wrth y Tŷ ei fod yn barod a'i fod wedi'i lofnodi ganddo ef, y Prif Weinidog, Arweinydd yr Wrthblaid ac arweinydd seneddol plaid Genedlaethol yr Alban." Fe'i cyhoeddwyd y noson honno a chafodd effaith o ddydd Mercher 29 Ionawr 2019. Daeth i'r casgliad a ganlyn:

I also confirm that I expect my first certificate of eligibility to be published in the Votes and Proceedings for today, enabling a proxy vote to be cast tomorrow.

Sut y bydd yn gweithio?

Amlinellodd Valerie Vaz AS, Arweinydd yr Wrthblaid yn y Tŷ, sut y bydd y cynllun yn gweithio yn ei haraith yn ystod y ddadl ar y cynnig. Er mwyn pleidleisio drwy ddirprwy, gall Aelodau naill ai ddarparu tystysgrif beichiogrwydd neu dystysgrif gyfatebol i'r Llefarydd. Uchafswm y cyfnod i bleidleisio drwy ddirprwy yw chwe mis ar gyfer mam fiolegol babi, neu ar gyfer prif fabwysiadwr neu unig fabwysiadwr baban neu blentyn, a phythefnos ar gyfer tad biolegol babi, partner yr unigolyn sy'n rhoi genedigaeth, neu ail fabwysiadwr baban neu blentyn. Bydd angen i Aelodau sy'n gymwys nodi'n ysgrifenedig i'r Llefarydd, y dyddiadau fydd yr absenoldeb yn dechrau ac yn dod i ben o fewn y cyfnodau hwyaf hyn, ac enw'r Aelod sydd wedi cytuno i fwrw ei bleidlais drwy ddirprwy. Bydd y Llefarydd yn cyhoeddi tystysgrif ac yn ei chyflwyno fel rhan o'r Pleidleisiau a Thrafodion. Gall yr Aelodau newid eu dirprwy, dod â'u cyfnod o bleidleisio drwy ddirprwy i ben yn gynharach neu fwrw pleidlais yn bersonol drwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r Llefarydd, cyn gynted ag y bo modd, neu, fan bellaf, erbyn diwedd y diwrnod eistedd blaenorol.

Bydd yr Aelodau sy'n bwrw pleidlais drwy ddirprwy yn ystod Ymraniad (neu Bleidlais) yn hysbysu Clerc yr Ymraniad wrth y ddesg briodol a'r Rhifwyr wrth ddrysau'r Lobi. Gall Aelodau fwrw eu pleidlais mewn un Lobi a'r bleidlais drwy ddirprwy yn y llall, a chaniateir iddynt bleidleisio drwy ddirprwy heb fwrw eu pleidlais eu hunain o gwbl. Bydd canlyniad yr Ymraniadau yn cael ei gyhoeddi yn Hansard, a hynny ar-lein ac yn y fersiwn argraffedig, a bydd yn nodi'r pleidleisiau a wneir drwy ddirprwy, gan gynnwys enw'r Aelod a bleidleisiodd drwy ddirprwy.

Caiff y cynllun peilot ei adolygu ar ôl blwyddyn.

Adroddiad y Pwyllgor Gweithdrefnau

Ar 1 Chwefror 2018 mabwysiadodd Tŷ'r Cyffredin y penderfyniad a ganlyn:

That this House believes that it would be to the benefit of the functioning of parliamentary democracy that honourable Members who have had a baby or adopted a child should for a period of time be entitled, but not required, to discharge their responsibilities to vote in this House by proxy.

Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd y Pwyllgor Gweithdrefnau ymholiad i bleidleisio drwy ddirprwy ac absenoldeb rhiant i archwilio:

  • a oes angen system ffurfiol o bleidleisio drwy ddirprwy i weithredu penderfyniad y Tŷ, ac
  • os felly, sut y dylai system o'r fath weithredu.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ("Yr Adroddiad") ar 15 Mai 2018. Amlinellodd yr Adroddiad y trefniadau presennol:

  • Paru: Os na all aelodau fynd i'r Senedd i bleidleisio, gallant ddod i gytundeb anffurfiol a elwir yn "paru". Mae hyn yn golygu y bydd AS o ochr wrthwynebol y gwleidydd sy'n absennol yn cytuno i beidio â phleidleisio er mwyn cydbwyso'r niferoedd.
  • Pleidleisio drwy amneidio: Dull arall a ddefnyddir yw "pleidleisio drwy amneidio". Mae hyn yn golygu y gellir cyfrif pleidlais rhywun hyd yn oed os na all fynd drwy un o'r lobïau - cyhyd â'i fod yn bresennol rywle ar yr ystad seneddol. Fe'i defnyddir yn draddodiadol ar gyfer pobl nad ydynt yn teimlo'n ddigon iach i gerdded. Yn y gorffennol mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o gefn ambiwlans a gafodd ei yrru drwy'r gatiau ac oddi yno.

Argymhellodd yr Adroddiad y dylai cwmpas unrhyw gynllun ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy gyfateb mwy neu lai â'r ddarpariaeth statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth a thadolaeth.

O ran gweithredu cynllun pleidleisio drwy ddirprwy, argymhellodd yr Adroddiad y dylid mabwysiadu pleidleisio drwy ddirprwy.

Pam nawr?

Sbardunwyd y digwyddiadau diweddar gan ddau ddigwyddiad dadleuol mewn perthynas â phleidleisiau hanfodol Brexit. Ym mis Gorffennaf 2018, roedd Jo Swinson, AS Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, ar absenoldeb mamolaeth ar ôl rhoi genedigaeth tair wythnos yn gynt. Cafodd ei pharu â Brandon Lewis AS, ond daeth yn hysbys ei fod wedi pleidleisio ddwy adeg o'r blaen. Codwyd y mater gydag Arweinydd y Tŷ gan Alisdair Carmichael, Chwip y Democratiaid Rhyddfrydol:

As the Leader of the House has said, as my party’s Chief Whip, I was given an undertaking yesterday by the Government pairing Whip that the right hon. Member for Great Yarmouth (Brandon Lewis) would be absent from the Lobbies in accordance with the normal terms. I was therefore very concerned to learn that, although the right hon. Gentleman had not voted in the earlier Divisions or, indeed, even at the 6 pm Division, he had taken part in the Divisions at 6.15 and 6.30 pm. Obviously, this is a very serious breach of the convention. Within the usual channels, we rely on these agreements being honoured. The Government Chief Whip has apologised to me directly, and I of course accept that apology. It remains less than clear to me exactly how this came to pass, but I can pursue that directly with the Government Chief Whip outside the Chamber.

Ymddiheurodd Arweinydd y Tŷ a dywedodd y cafodd sicrwydd gan y Prif Chwip y torrwyd y paru ar gam ac na chaiff ei ailadrodd.

Yn fwy diweddar, yn ystod pleidlais Tŷ'r Cyffredin ar y cytundeb Brexit ar 15 Ionawr 2019, penderfynodd Tulip Siddiq AS, ohirio ei thoriad cesaraidd er mwyn pleidleisio. Aeth trwy'r lobi mewn cadair olwyn. Bythefnos yn ddiweddarach, ar ôl rhoi genedigaeth, hi oedd yr AS cyntaf i bleidleisio drwy ddirprwy.


Erthygl gan Alys Thomas, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru