Awyrlun o Gastell Caernarfon o ochr draw i'r afon ar ddiwrnod heulog

Awyrlun o Gastell Caernarfon o ochr draw i'r afon ar ddiwrnod heulog

Twristiaeth hygyrch yng Nghymru: A ydym wedi cyrraedd y nod eto?

Cyhoeddwyd 04/04/2024   |   Amser darllen munud

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn diffinio twristiaeth hygyrch fel yr ymdrech barhaus i sicrhau bod cyrchfannau, cynhyrchion a gwasanaethau i dwristiaid yn hygyrch i bawb, ni waeth am gyfyngiadau corfforol, anableddau neu oedran. Mae meysydd hygyrchedd amrywiol yn berthnasol i dwristiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys hygyrchedd ffisegol lleoedd, negeseuon rhyngbersonol a llywio mannau digidol. Yn yr erthygl hon, rydym yn ystyried pa mor hygyrch yw Cymru fel cyrchfan i dwristiaid.

Maint a gwerth twristiaeth

Mae twristiaeth yn sector pwysig yn economi Cymru, yn rhoi cyfrif am 5 y cant o werth ychwanegol gros a mwy nag 11 y cant o gyflogaeth. Yn 2022, roedd 686,000 o ymweliadau â Chymru gan ymwelwyr tramor, gan greu £391 miliwn mewn gwariant. Mae twristiaeth ddomestig hefyd yn bwysig iawn, gyda phreswylwyr Prydain Fawr yn cymryd 8.7 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru yn 2022 ac yn gwario £1.9 biliwn drwy wneud hynny. Cymerodd ymwelwyr domestig hefyd 62 miliwn o deithiau dydd twristiaeth yng Nghymru yn 2022, gan wario mwy na £2.3 biliwn mewn cysylltiad â hynny.

Fodd bynnag, mae nifer yr ymwelwyr rhyngwladol yn parhau i fod yn is na lefelau 2019. Yn 2022, roedd gwariant ymwelwyr rhyngwladol 24 y cant yn is (cyfanswm gwariant £391 miliwn) o’i gymharu â 2019.

Mae cyhoeddiad diweddar Baromedr Twristiaeth i Gymru Llywodraeth Cymru yn dangos y parhaodd 2023 i fod yn flwyddyn heriol i'r diwydiant gyda thraean o fusnesau’n cael llai o ymwelwyr na'r flwyddyn flaenorol. Mae'r Baromedr yn amlinellu tri o bryderon busnesau twristiaeth: Polisïau Llywodraeth Cymru, costau gweithredu uchel, a llai o incwm gwario ymwelwyr.

Gwerth twristiaeth hygyrch

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod 16 miliwn o bobl yn byw yn y DU a bod oddeutu 21 y cant o boblogaeth Cymru ag anabledd. Yng ngwledydd yr UE, amcangyfrifir bod gan un o bob pedwar oedolyn anabledd, sy’n cyfateb i oddeutu 101 miliwn o bobl.

Y ‘bunt borffor’ yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio pŵer gwario cyfunol pobl ag anableddau. Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd (Twristiaeth y Cenhedloedd Unedig) yn tynnu sylw at y manteision economaidd i gyrchfannau a busnesau hygyrch sy'n gallu darparu ar gyfer yr holl ymwelwyr. Mae’n awgrymu camau y gall llywodraethau a diwydiant eu cymryd i wella hygyrchedd cyrchfannau i ddod yn fwy cynhwysol, cystadleuol a deniadol i ystod ehangach o dwristiaid.

Mae gwaith ymchwil gan Visit England yn dangos mai £14.1 biliwn oedd cyfanswm gwerth gwariant yn ystod y dydd a thros nos yn Lloegr gan ymwelwyr domestig ag anabledd yn 2023. Dangosodd y gwaith ymchwil hwn hefyd mai £660 y daith oedd gwariant cyfartalog ymwelwyr rhyngwladol â Lloegr, o'i gymharu â £740 i’r rhai a oedd yn teithio ag anabledd a’u cymdeithion.

Polisi twristiaeth y DU

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fargen y sector twristiaeth ar gyfer y DU, sy'n nodi sut y mae’n bwriadu gweithio gyda’r diwydiant i gefnogi a datblygu’r economi ymwelwyr.

Mae’r fargen yn cynnwys yr uchelgais i sicrhau mai’r DU fydd y gyrchfan dwristiaeth fwyaf hygyrch yn Ewrop erbyn 2025. Mae’r uchelgais hon wedi parhau yn y ymlaen yn y Cynllun Adfer Twristiaeth ar ôl y pandemig.

Nodir bod gweithgareddau megis cyflawni Strategaeth Trafnidiaeth Gynhwysol Llywodraeth y DU, archwiliadau hygyrchedd gorsafoedd trenau a chyflwyno’r Gronfa Changing Places gwerth £30 miliwn yn gynnydd tuag at y targed hwn.

Mae Visit Britain, fel Awdurdod Twristiaeth Prydain, yn gyfrifol am hyrwyddo Prydain Fawr yn rhyngwladol, datblygu'r economi ymwelwyr, ac yn sefydliad arweiniol ar gyfer y cynllun adfer ar ôl y pandemig ar gyfer twristiaeth. Croeso Cymru, y tîm yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr agweddau datganoledig ar dwristiaeth, sy’n datblygu ac yn hyrwyddo’r economi ymwelwyr yng Nghymru ac yn ei hadfer ar ôl y pandemig.

Mae rhai meysydd sy'n ymwneud â thwristiaeth, megis fisâu a mewnfudo, wedi’u cadw yn ôl i Lywodraeth y DU.

Polisi twristiaeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru drwy gyngor, canllawiau a chyllid. Mae hefyd yn gallu ymgymryd â chyhoeddusrwydd a gwaith ymchwil ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Croeso i Gymru, sy'n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr hyd at 2025. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â’r amcanion hygyrchedd ym Margen Sector Twristiaeth Llywodraeth y DU, a’r Cynllun Adfer Twristiaeth wedi hynny, drwy ei ymrwymiad i wella hygyrchedd twristiaeth yng Nghymru.

Mae un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru, sef profiadau o ansawdd i ymwelwyr, yn canolbwyntio ar ddarparu llety o safon, cyfleusterau hygyrch, a gwasanaeth cwsmeriaid da. Er mwyn cefnogi hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru gronfa ledled y wlad, sef y Pethau Pwysig yn 2023 i gefnogi sefydliadau twristiaeth i wella hygyrchedd seilwaith.

Pa mor hygyrch yw dinasoedd Cymru?

Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023 gan AgeCo Limited yn awgrymu bod dinasoedd Cymru ymhlith y rhai lleiaf hygyrch yn y DU. Mae pob un o'r deg dinas fwyaf hygyrch yn y DU y tu allan i Gymru.

Ystyriwyd mai Tyddewi, sef y ddinas leiaf ym Mhrydain, yw’r ddinas fwyaf hygyrch yng Nghymru, ond roedd yn yr 22ain safle o'r 67 o ddinasoedd a aseswyd. Yn y cyfamser, roedd Caerdydd ac Abertawe ymhlith y dinasoedd lleiaf hygyrch, yn safleoedd 50 a 61, yn y drefn honno.

Penderfynwyd ar sgoriau hygyrchedd cyffredinol ar gyfer pob un o’r gwledydd datganoledig drwy system sgorio pwyntiau ar gyfer categorïau gan gynnwys bwytai, gwestai, atyniadau, parcio a thoiledau. Cymru gafodd y sgôr isaf ar gyfartaledd ar gyfer ei dinasoedd.

Gwella hygyrchedd atyniadau ymwelwyr

Roedd yr ymgyrch Cyrchfannau Denu Twristiaeth bum mlynedd, a lansiwyd yn 2014 dan arweiniad Croeso Cymru, yn rhaglen gwerth £67.2 miliwn i wella 12 safle twristiaeth ranbarthol. Roedd hygyrchedd gwell i ymwelwyr yn un o effeithiau ehangach disgwyliedig prosiectau Cyrchfannau Denu Twristiaeth. Canfu gwerthusiad o’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod llawer o'r prosiectau wedi gwella'r hygyrchedd safleoedd i ymwelwyr ag anableddau.

Ymhlith prosiectau’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth, cafodd Porth y Brenin yng Nghastell Caernarfon £2.09 miliwn o gyllid Cyrchfannau Denu Twristiaeth. Nod y prosiect oedd gwella hygyrchedd ffisegol i loriau uchaf y castell drwy osod lifft, yn ogystal â darparu toiledau hygyrch. Y prosiect yw'r cyntaf o'i fath i ddarparu mynediad gwastad i furfylchau uchaf safle Treftadaeth y Byd yn y DU.

Ar wahân i'r prosiectau a ariennir gan y Cyrchfannau Denu Twristiaeth, lansiodd PIWS, cwmni buddiannau cymunedol yn Ynys Môn, ymgyrch yn 2022 i gynyddu ymwybyddiaeth a’r defnydd o Gardiau Mynediad yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru. Mae’r cerdyn, y cyfeirir ato gan PIWS fel ‘pasbort anabledd’, yn hysbysu'r darparwr hamdden neu dwristiaeth o anghenion cymorth ychwanegol a all fod ar y deiliad pan fydd yn yr atyniad.

A allai ardoll ymwelwyr helpu i wella hygyrchedd?

Mae cynigion i ganiatáu i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr yn cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru. Byddai arian a godir drwy ardoll yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru yn unol á diffiniad Twristiaeth y Cenhedloedd Unedig:

Tourism that takes full account of its current and future economic, social and environmental impacts, addressing the needs of visitors, the industry, the environment and host communities

Gallai hyn gynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn gwella hygyrchedd cyfleusterau, atyniadau a chyrchfannau er budd ymwelwyr a chymunedau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd Bil drafft i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn cael ei ddwyn gerbron y Senedd erbyn diwedd y flwyddyn hon. Os caiff deddfwriaeth ei phasio, bydd awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal.


Erthygl gan Charlotte Lenton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Charlotte Lenton gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei gwblhau.