Twf yn y de-ddwyrain

Cyhoeddwyd 07/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

07 Mehefin 2016 Erthygl gan Gareth Thomas, Andrew Minnis a Elfyn Henderson. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cytuno ar Fargen Ddinesig yn ddiweddar. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru ac awdurdodau lleol yn y rhanbarth yn cydweithio i hybu twf economaidd?

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys 10 awdurdod lleol ar draws y de-ddwyrain, yw'r ddinas-ranbarth fwyaf yng Nghymru. Mae i gyfrif am tua hanner holl gyflogaeth a gwerth ychwanegol crynswth (GVA) Cymru, sef mesur allweddol o allbwn economaidd ein gwlad. Er gwaethaf hyn, mae gwerth ychwanegol crynswth y rhanbarth yn is na phob un ond un o'r dinas-ranbarthau mwyaf yn Lloegr. Hefyd mae’n anodd galluogi cymunedau yn y Cymoedd i fanteisio ar gyfleoedd economaidd. Bydd rheoli poblogaeth a thwf economaidd tra’n gwella ansawdd bywyd pobl y rhanbarth yn fater o bwys i Lywodraeth Cymru ac eraill yn ystod y Pumed Cynulliad. Llun o ganol dinas Caerdydd Cynllunio ar gyfer twf Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio lleol yn y de-ddwyrain wedi paratoi eu cynlluniau datblygu lleol erbyn hyn. Mae'r cynlluniau presennol ar gyfer y rhanbarth yn sicrhau capasiti ar gyfer tua 110,000 o gartrefi ychwanegol erbyn 2021-26, gan cynnwys 41,000 o gartrefi yng Nghaerdydd. Yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, mae disgwyl y bydd gan Gaerdydd gyfradd twf o ran poblogaeth sy’n uwch nag unrhyw ddinas arall yn y DU. Er bod cynlluniau datblygu lleol yn berthnasol i ardal awdurdod cynllunio lleol, mae yna faterion i’w cael sy’n berthnasol i nifer o awdurdodau cynllunio lleol. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn byw ac yn gweithio mewn gwahanol ardaloedd, sy'n effeithio ar y galw am dai yn y rhanbarth. Mae materion strategol trawsffiniol eraill yn cynnwys safleoedd cyflogaeth a seilwaith trafnidiaeth. Yn 2012, argymhellodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-Ranbarthau nifer o welliannau o ran cydweithio rhanbarthol a phartneriaethau. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi dewis canolbwyntio ar gydweithio mewn pedwar maes: cysylltiadau; sgiliau; arloesi a thwf; a hunaniaeth. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru nodi ‘ardaloedd cynllunio strategol’ sy'n fwy nag awdurdodau cynllunio lleol unigol, ac i ‘baneli cynllunio strategol’ gael eu sefydlu ar gyfer yr ardaloedd hyn. Yna, bydd panel yn cynhyrchu ‘cynllun datblygu strategol’, a fydd yn ymdrin â materion trawsffiniol ac yn dod yn rhan o'r cynllun datblygu ffurfiol ar gyfer yr ardal honno. Awgrymodd Llywodraeth flaenorol Cymru y gallai un o'r rhain gwmpasu rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan ganolbwyntio ar Gaerdydd. Rôl y Metro Nodwyd prosiect Metro’r de-ddwyrain gan Fwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel elfen sydd wrth graidd y prosiect Dinas-Ranbarth. Bydd y Metro yn system drafnidiaeth integredig sy'n cynnwys bysiau, rheilffyrdd trwm ac o bosibl rheilffyrdd ysgafn. Nododd adroddiad Sbarduno Economi Cymru y bwrdd fod 65% o'r cymudwyr i Gaerdydd yn dibynnu ar geir, ac mae hon yn ganran uwch na dinasoedd tebyg fel Caeredin a Manceinion. Pe bai’r sefyllfa’n parhau, gallai hyn atal twf economaidd ac effeithio ar ansawdd bywyd pobl yn y rhanbarth. Nod y Metro yw mynd i'r afael â hyn drwy gynyddu nifer y bobl yn y rhanbarth sy'n gallu defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth 60% erbyn 2030. Gallai hyn fod o gymorth i fynd i’r afael â thagfeydd, a lleihau'r angen am fuddsoddi yn y priffyrdd, tra gallai hefyd arwain at dwf poblogaeth posibl o fwy na 100,000 o bobl ar draws y rhanbarth. Awgrymodd yr Astudiaeth effaith: Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y gallai'r cynllun gefnogi 7,000 o swyddi newydd a chyfrannu £4 biliwn at economi’r rhanbarth dros gyfnod o 30 mlynedd. Roedd yn rhagweld y gallai'r cynllun fod yn rhan annatod o adfywio hefyd, yn enwedig yn y Cymoedd. Gallai gorsafoedd allweddol a chyfnewidfeydd eraill ddod yn ganolfannau trafnidiaeth lleol sy’n cefnogi datblygiad lleol, a gallai mynediad gwell at gyflogaeth a gwasanaethau allweddol hefyd brysuro newid. Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Cytunwyd ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mis Mawrth 2016. Dyrannwyd iddi gronfa fuddsoddi o £1.2 biliwn dros gyfnod o 20 mlynedd, gyda £734 miliwn o hwnnw ar gyfer y Metro a thrydaneiddio Cledrau’r Cymoedd. Bydd y fargen hefyd yn sefydlu awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol i gryfhau’r broses o gynllunio trafnidiaeth. Er mwyn cael gweddill yr arian hwn bydd yn rhaid i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddangos, drwy asesiad annibynnol bob pum mlynedd, fod y buddsoddi wedi cyflawni’r prif amcanion ac wedi cyfrannu at dwf economaidd yng Nghymru ac yn y DU. Gallai’r arian sy'n weddill ariannu cynlluniau eraill sy’n cefnogi twf economaidd, gan gynnwys buddsoddi mewn rhagor o brosiectau trafnidiaeth, safleoedd tai a chyflogaeth, neu fuddsoddi mewn cyfleusterau ymchwil ac arloesi. Bydd y Fargen Ddinesig hefyd yn ceisio denu buddsoddiad ychwanegol o £4 biliwn o'r sector preifat, gan greu 25,000 o swyddi newydd a chynyddu gwerth ychwanegol crynswth y rhanbarth o leiaf 5% dros gyfnod y buddsoddiad. Cytunodd Llywodraeth flaenorol Cymru i ystyried rhoi rhagor o bwerau ariannol i’r rhanbarth i gyflawni ymrwymiadau’r Fargen-Ddinesig. Mae’r rhain yn cynnwys rhywfaint o ddatganoli incwm ardrethi busnes, caniatáu ariannu prosiectau seilwaith drwy ardollau, a mynd i'r afael â heriau fel tlodi a safonau ysgolion ar sail ranbarthol. Gyda chymaint yn y fantol, un mater o bwys fydd sut y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn sicrhau bod y darnau yn y pos yn dod at ei gilydd i drawsnewid economi’r rhanbarth, yn enwedig ac ystyried goblygiadau posibl diwygio llywodraeth leol. At hynny, i ba raddau y bydd y prosiect hwn yn rhoi cliwiau i ni ynghylch sut y gall bargeinion posibl eraill ar gyfer Bae Abertawe a’r gogledd arwain at ragor o dwf economaidd? Ffynonellau allweddol