Twbercwlosis Buchol

Cyhoeddwyd 02/01/2025   |   Amser darllen munudau

Mae twbercwlosis buchol (TB) yn parhau i fod yn her sylweddol i’r sector amaethyddol yng Nghymru. Mae’r papur briffio hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws presennol TB buchol, y mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith i reoli a dileu’r clefyd, a’r newidiadau arfaethedig i reoli TB buchol yng Nghymru.

Mae ymgynghoriad ar Raglen Dileu TB ar ei newydd wedd, a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2022, yn gofyn am farn ar ystod eang o gamau gweithredu arfaethedig, gan gynnwys newidiadau i brotocolau profi TB buchol, trefniadau iawndal TB buchol a phrynu gwybodus.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cyflawni Rhaglen Dileu TB Buchol Cymru ym mis Mawrth 2023 sy'n ymestyn i fis Mawrth 2028.

Yn ein papur briffio rydym hefyd yn crynhoi agweddau allweddol ar y Cynllun Cyflawni ac ymatebion rhanddeiliaid i newidiadau arfaethedig mewn polisi TB buchol.


Erthygl gan Jake Lloyd Newman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jake Lloyd Newman gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a alluogodd i’r papur briffio hwn gael ei gwblhau.