Mae’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn Fil Aelod a gyflwynwyd gan Mark Isherwood AS. Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 14 Gorffennaf 2025.
Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (IAP) o’r Bil ar gael.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar y dudalen we Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Mae hyn yn cynnwys y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Cyhoeddiadau Ymchwil y Senedd
Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.