Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Thrydedd Gyllideb Atodol ar 16 Chwefror. Mae'n cynnig newidiadau i Gyllideb Atodol mis Hydref ac yn amlinellu dyraniadau o £2.9 biliwn pellach o adnoddau refeniw a chyfalaf i adrannau Llywodraeth Cymru, o gronfeydd wrth gefn a chyllid gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn gynnydd o 13.3% o'i gymharu â'r Ail Gyllideb Atodol (ac eithrio Gwariant a Reolir yn Flynyddol).
Cynnydd mewn cyllid ar gyfer adrannau
O'i gymharu â Chyllideb Derfynol 2020-21 mae cyfanswm y dyraniadau (gan gynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol) i adrannau Llywodraeth Cymru, neu'r Prif Grwpiau Gwariant (MEG), wedi cynyddu draean eleni, gan godi o £19.9 biliwn i £26.5 biliwn. O gymharu, dyrannodd Cyllideb Atodol mis Chwefror y llynedd £19.7 biliwn, a oedd yn gynnydd o ychydig dros 7% o gymharu â Chyllideb Derfynol 2019-20.
Amlinellir cyllid ar gyfer adrannau yn y ffeithlun isod:
Prif ffigurau'r Drydedd Gyllideb Atodol, sy'n dangos symudiadau arian parod o'r Ail Gyllideb Atodol a ailddatganwyd.
yw'r rhan ddewisol o'r gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn dewis sut i'w gwario. AME yw'r rhan o'r gyllideb nad yw'n ddewisol.
*Heb gynnwys tua £700 miliwn o incwm ardrethi annomestig.
SSB: Ail Gyllideb Atodol.
TSB: Y Drydedd Gyllideb Atodol.
Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 i gael yr union ffigurau.
Cafodd dau Brif Grŵp Gwariant dri chwarter yr arian ychwanegol. Prif Grŵp Gwariant yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n cael y dyraniad ychwanegol mwyaf, gyda £1.2 biliwn ychwanegol o adnoddau refeniw a chyfalaf. Mae hynny bron gymaint ag a amlinellwyd ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant hwn yn y Gyllideb Atodol Gyntaf (Mai 2020), a oedd yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer y cyfyngiadau symud cyntaf (£1.3 biliwn).
Mae cynnydd mawr hefyd yng nghyllideb y Prif Grŵp Gwariant Addysg, sy'n cynyddu dros 50% i £2.7 biliwn. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd hwn yn gysylltiedig â newidiadau i fenthyciadau myfyrwyr ac nid yw'r cyllid yn cael ei ddefnyddio mewn ymateb i'r pandemig nac ar gyfer polisi newydd.
Mae hefyd yn werth nodi nad arian parod yw tua £755 miliwn, o'r cynnydd o £2.9 biliwn. Defnyddir y termau hyn yn gyffredinol ar gyfer addasiadau cyfrifyddu nad ydynt yn cynnwys taliad arian parod, ac felly nid yw ar gael fel adnodd newydd i adrannau ei wario. Mae cynnydd pellach hefyd o £108 miliwn i Wariant a Reolir yn Flynyddol.
O ble y daeth yr arian?
Mae'r Gyllideb Atodol yn dweud bod y cyllid refeniw net sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi cynyddu £951 miliwn oherwydd symiau canlyniadol Barnett a throsglwyddiadau eraill. Mae'r trosglwyddiadau hyn yn digwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau gwario yn Lloegr sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, yn ogystal â rhesymau technegol eraill. O fewn y ffigur hwnnw mae newid cyllideb o £473 miliwn o refeniw i gyfalaf hefyd, gan godi cyfanswm y cynnydd yn y llinell sylfaen cyfalaf cyffredinol i £773 miliwn.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwriadu benthyg £125 miliwn yn 2020-21. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd erbyn hyn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn benthyca dim eleni.
Yn hytrach, yn ogystal â defnyddio'r arian ychwanegol sydd ar gael iddi gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chronfeydd wrth gefn i ariannu ei chynlluniau gwariant. Mae'r holl ddyraniadau hyn yn golygu bod cronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru yn crebachu o ychydig o dan £1.6 biliwn yn yr Ail Gyllideb Atodol i £345 miliwn.
Mwy o hyblygrwydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael swm digynsail mewn symiau canlyniadol eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn tynnu sylw drwy gydol y flwyddyn at yr effaith y gallai cyhoeddiadau am gyllid hwyr gan Lywodraeth y DU ei chael a'r trafferthion posibl a achosir gan gyllid ychwanegol sylweddol sy'n cyrraedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Heb fwy o hyblygrwydd, efallai na fydd unrhyw gyllid ar ddiwedd y flwyddyn yn gallu cael ei gario drosodd. Er bod 'Arian Wrth Gefn Cymru' yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gario arian drosodd o un flwyddyn i'r llall, yr uchafswm a ganiateir yw £350 miliwn. Yn ogystal, dim ond uchafswm o £125 miliwn o refeniw a £50 miliwn o gyfalaf y gall Llywodraeth Cymru ei dynnu i lawr mewn unrhyw flwyddyn o'r gronfa honno. Mae hyn wedi arwain Y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru i ofyn am fwy o hyblygrwydd gan Drysorlys EM ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £650 miliwn ychwanegol o gyllid i Gymru, a ddaeth â chyfanswm yr arian a ddyrannwyd drwy fformiwla Barnett a gwarant eleni i £5.85 biliwn. Daeth y cyhoeddiad hwnnw gyda'r hyblygrwydd i gario drosodd a gwario'r £650 miliwn ychwanegol hwn yn 2021-22. .
Cyllideb i gychwyn ailadeiladu?
Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'addewid ar ôl Covid' ochr yn ochr â’r papur 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau'. Roedd yr addewid hwnnw'n cynnwys pecyn buddsoddi gwerth £320 miliwn ac mae'r Drydedd Gyllideb Atodol yn amlinellu sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei wario. Mae'r pecyn yn cynnwys:
- £103 miliwn ar gyfer pobl ifanc ac addysg, gan gynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni allgáu digidol a seilwaith addysg, cyllid ar gyfer iechyd meddwl a chyllid pellach ar gyfer y Prydau Ysgol am Ddim.
- £75 miliwn ar gyfer cynlluniau buddsoddi a'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Cyfalaf Trafodion Ariannol (FTC) yw'r rhan fwyaf o'r arian hwn, sy'n ad-daladwy.
- £60 miliwn ar gyfer tai, mae hyn hefyd yn cynnwys rhywfaint o Gyfalaf Trafodion Ariannol.
Ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb Atodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei 'Chenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi' hefyd. Yn ei ddatganiad ar y genhadaeth, disgrifiodd Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ei weledigaeth ar gyfer "economi llesiant sy'n gyrru ffyniant, yn amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pawb i gyrraedd eu potensial".
Esboniodd y Gweinidog bod £270 miliwn yn ychwanegol wedi'i ddarparu i gefnogi busnesau drwy Fanc Datblygu Cymru ar gyfer yr amcanion hyn.
Beth nesaf?
Cafodd y Drydedd Gyllideb Atodol ei dal yn ôl am wythnos, gan ei bod yn ddibynnol ar gadarnhau Amcangyfrifon Atodol y DU, a oedd yn hwyrach na'r disgwyl. Mae'r ddadl bellach wedi'i threfnu ar gyfer yfory (9 Mawrth), gallwch ei gwylio'n fyw ar SeneddTV.
Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru