Mae'r economi sylfaenol yn cyflogi tua 40% o weithlu Cymru ac yn cyfrif am 60% o fusnesau â'u pencadlys yng Nghymru. Ond mae llawer o bobl, gan gynnwys rhai o'r rheini sy'n gweithio yn yr economi sylfaenol, ddim yn gwybod beth yw hi.
Mae ein herthygl yn egluro beth yw'r economi sylfaenol, beth mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni yn y maes hwn, a pha mor effeithiol y mae'n ei chefnogi. Bydd y Senedd yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr economi sylfaenol ar 9 Gorffennaf.
Beth yw'r economi sylfaenol?
Un o ganfyddiadau allweddol Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig oedd bod yna “ddryswch ynghylch beth yw’r economi sylfaenol, a diffyg ymwybyddiaeth o’r term. Dangoswyd hyn gan yr Athro Karel Williams (un o grewyr y cysyniad economi sylfaenol), a ddywedodd:
If you actually asked people in public services in Wales to define the foundational economy, I’d be surprised if one in 50 could actually give that one sentence definition.
Mae Cynghrair Sefydliadol Cymru yn dadlau fod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ddiffiniad disgrifiadol, seiliedig ar sectorau, o'r economi sylfaenol, pan ddylai hefyd edrych ar ddiffiniad dadansoddol yn seiliedig ar wella lles a bywiogrwydd. Mae'n dweud bod y ddau ddiffiniad hyn yn gyflenwol ac yn gywir.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans MS, ymateb i'r pryderon hyn, gan ddweud ei bod ddefnyddiol os yw pobl yn gweithio tuag at un ddealltwriaeth. Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diffiniad diwygiedig o'r economi sylfaenol, gan ei disgrifio fel a ganlyn:
… y sectorau hynny o'r economi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n sylfaenol i fywyd bob dydd.
Y sectorau economi sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n strategol arnynt yw gwasanaethau iechyd a gofal; rheoli tai cymdeithasol; adeiladu; ynni a chyfleustodau; bwyd; manwerthu a gwasanaethau stryd fawr; twristiaeth; a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru, hefyd, wedi cyhoeddi rhestr o amcanion yr economi sylfaenol sy’n cynnwys cynyddu modd o fyw i aelwydydd.
Beth yw amcanion economi sylfaenol Llywodraeth Cymru?
Bu galwadau am fwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni drwy ei chefnogaeth i'r economi sylfaenol. Roedd Adra a Dr Gary Walpole ill dau eisiau gweld dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu creu, tra i Banc Datblygu Cymru argymell datblygu “set glir o dargedau cyfunol”.
Ym mis Ebrill, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad cenhadaeth yn nodi ei hamcanion o ran yr economi sylfaenol. Roedd y canlynol yn eu plith:
- Nodi a chefnogi cyfleoedd i ddarparu mwy o swyddi a swyddi gwell;
- rhoi “mwy o fodd i fyw i aelwydydd”;
- adeiladu cadwyni cyflenwi lleol;
- cyfrannu at fynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur; a hefyd
- annog pobl i gyd-arloesi a chyd-arbrofi i wella nwyddau a. gwasanaethau sylfaenol.
Yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn creu “set o ddangosyddion perfformiad allweddol sy'n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn egluro'r uchelgais”.
Pa mor effeithiol yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r economi sylfaenol?
Mae'r Athrawon Paul Sissons ac Anne Green o’r farn i Lywodraeth Cymru fod yn ‘arweinydd’ wrth archwilio ffyrdd o gefnogi twf yr economi sylfaenol. Maent yn nodi, fodd bynnag, fod ‘liferau’ polisi ar gyfer cefnogi datblygiad yr economi sylfaenol yn ddibynnol iawn ar arferion caffael.
Siaradodd sefydliadau a oedd wedi derbyn cefnogaeth drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol am yr effaith gadarnhaol a gafodd. Yn ôl Cyfle Building Solutions, heb yr hwb hwnnw, ni fydden nhw wedi cynnal cynllun peilot. Fodd bynnag, cododd nifer o sefydliadau’r angen am gefnogaeth ariannu tymor hwy i adeiladu ar y cyllid cychwynnol. Er enghraifft, dywedodd Well-Fed fod angen buddsoddiad tymor hwy yn hytrach na grant tymor byr ar unrhyw brif ffrydio.
Mae Cynghrair Sefydliadol Cymru wedi bod yn fwy beirniadol o ddull Llywodraeth Cymru, gan ddweud nad oes digon o ganlyniadau sy’n gadarnhaol ac yn cael eu gyrru gan bolisi, o fentrau economi sylfaenol sydd wedi’u labelu’n benodol felly. Mae'n dadlau, er bod llwyddiannau damweiniol wedi bod o ganlyniad i fentrau fel Cronfa Her yr Economi Sylfaenol, bod y ffordd y datblygwyd y gronfa wedi gwanhau’r effaith a’r cyfleoedd dysgu.
Daeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i’r casgliad, er bod “sawl enghraifft ardderchog o fentrau sy’n ymwneud â’r economi sylfaenol”, mae angen i Lywodraeth Cymru “weithio gyda phartneriaid i ddysgu o’r rhain, a lledaenu arfer gorau yn fwy eang”.
A ddylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu dull o'r gwaelod i fyny o gefnogi'r economi sylfaenol?
Mae’r Athro Karel Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu dull gwahanol iawn i gefnogi'r economi sylfaenol. Mae'n dadlau y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar hwyluso 'cynghreiriau y rhai sy’n barod', lle mae sefydliadau'n cydweithio i gyflawni newid. Galwodd yr Athro Williams, hefyd, ar Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau ‘skunkworks’, sy'n harneisio pŵer unedau bach sy'n canolbwyntio ar dasgau sydd o fewn y llywodraeth, ond nid ohoni.
Mae sefydliadau sy'n cyflawni mentrau economi sylfaenol eisiau i Lywodraeth Cymru gefnogi dull cyflawni o'r gwaelod i fyny. Mae Woodknowledge Wales o’r farn bod angen ychydig o bennu polisïau o’r brig i lawr, ac yna llawer o alluogi o’r gwaelod i fyny, er mwyn ysbrydoli pobl i wneud pethau’n wahanol, ac yna eu helpu a’u cefnogi i weithredu hynny.
Mae eraill yn dadlau bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan fwy ymyraethol. Dywedodd Cynnal Cymru:
Social innovation is important in generating new ways of doing things and making progress. Government also has a role in spreading these new ideas, and helping those who are not intimately involved in the FE [foundational economy] agenda and concepts to implement them. Both of these approaches are important.
Wrth ymateb i alwadau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i nodi cyfleoedd ar gyfer treialu dull tebyg i skunkworks, a bydd yn “yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r gymuned ymarfer bwyd er mwyn llunio rhagor o 'gynghreiriau y rhai sy'n barod”.
Sut ddylai Llywodraeth Cymru gefnogi gweithlu'r economi sylfaenol?
Bu pryderon ers nifer o flynyddoedd am gyffredinrwydd cyflogau isel ac amodau gwaith gwael mewn ambell ran o’r economi sylfaenol. Fe wnaeth Cynnal Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod cyrff cyhoeddus yn hyrwyddo talu'r Cyflog Byw Go Iawn, ac yn cefnogi cydnabyddiaeth undebau llafur. Ym mis Rhagfyr 2024, ysgrifennodd y Prif Weinidog at bob corff cyhoeddus yng Nghymru, “gan eu hannog i ystyried manteision mabwysiadu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a bod yn gyflogwr achrededig y Cyflog Byw Gwirioneddol”.
Mae rhai sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus wedi datblygu mentrau ‘datblygu eich gweithlu eich hun’, gan ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i gymunedau difreintiedig yn eu hardal leol. Mae Adra wedi sefydlu Academi Adra i ddarparu sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i'w denantiaid. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi mabwysiadu dull newydd o recriwtio gweithwyr cymorth gofal iechyd, sydd wedi newid y gofynion mynediad ar gyfer y rôl hon, ac wedi defnyddio proses ddethol wahanol i recriwtio o gymunedau lleol
Galwodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am i'r dulliau hyn gael eu graddio ar draws Cymru mewn ffordd sy'n diwallu anghenion cymunedau lleol a chyflogwyr. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau iechyd i annog mabwysiadu'r dulliau hyn ar draws y sector, a bydd yn archwilio'r cwmpas ar gyfer gweithredu yn y maes hwn gan awdurdodau lleol.
Beth sydd nesaf?
Mae’r economi sylfaenol yn “ganolog i Genhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru”, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud y “casgliadau ac argymhellion defnyddiol” adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn llywio ei weithgareddau yn y dyfodol. Bydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu prosbectws economi sylfaenol y dyfodol erbyn chwarter cyntaf 2026, i'w ystyried gan lywodraeth nesaf Cymru ar ôl etholiadau'r Senedd.
Fe fydd y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn fyw ar Senedd TV ar 9 Gorffennaf.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.