Mae cyfiawnder ieuenctid yn mynd i mewn i gyfnod o ddiwygio ledled Cymru a Lloegr. Er nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli'n llawn, mae llawer o wasanaethau sy'n siapio a yw plant yn mynd i'r system gyfiawnder neu'n ei hosgoi - addysg, iechyd, tai, gofal cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau a diogelu - wedi'u datganoli yng Nghymru. Felly, mae cyfiawnder ieuenctid yn eistedd ar groesffordd rhwng pwerau cyfiawnder troseddol a gwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.
O fis Ebrill 2027, disgwylir i Lywodraeth Cymru ymgymryd â rôl fwy mewn cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys cyfrifoldeb am rywfaint o gyllid sy'n cael ei reoli ar hyn o bryd ar lefel Cymru a Lloegr, yn amodol ar gwblhau trefniadau gyda Llywodraeth y DU. Gallai hyn gynnwys cyllid sydd wedi'i fwriadu i leihau'r defnydd o remánd – lle mae plentyn yn cael ei gadw yn y ddalfa wrth aros am benderfyniad llys – a chyllid ymyrraeth gynnar sy'n weddill sy'n gysylltiedig â'r rhaglen Turnaround, sy'n cefnogi plant cyn i broblemau waethygu i droseddu difrifol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytundeb yn cyfeirio at gyllid gwerth “[m]iliynau o bunnoedd”, ond nid yw'n nodi'r union ffigur nac yn cadarnhau telerau terfynol y trosglwyddiad. Mewn datganiad ym mis Chwefror 2026 gan yr Arglwydd Timpson, y Gweinidog ar y pryd, darparwyd rhywfaint o gyd-destun pellach ar raddfa debygol y ffrydiau cyllido perthnasol, ond nid yw'n cadarnhau'r swm a fydd yn trosglwyddo i Gymru.
Pam mae'r trosglwyddiad cyllid yn bwysig
Nid swm yr arian yn unig yw'r arwyddocâd. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dweud y dylai'r newid roi mwy o hyblygrwydd i Gymru alinio buddsoddiad â blaenoriaethau Cymru. Mae hynny'n bwysig oherwydd bod llawer o'r gwasanaethau sy'n gallu atal troseddu neu ddarparu dewisiadau amgen i'r ddalfa wedi'u datganoli. Fodd bynnag, mae cwmpas yr hyblygrwydd hwnnw yn dal i fod yn aneglur. Nid yw'r cytundeb yn esbonio eto sut y bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu, pa amodau fydd ynghlwm, na sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur.
Yn ymarferol, gallai hyn gefnogi aliniad agosach â meysydd polisi datganoledig fel atal, hawliau plant, iechyd meddwl, addysg a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd yr effaith ymarferol yn dibynnu ar raddfa'r cyllid a drosglwyddir a'r amodau sy'n gysylltiedig â hyn. Y cwestiwn allweddol yw a fydd gan Gymru ddigon o gyllid a disgresiwn i newid yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, yn hytrach na dim ond llwybr gwahanol ar gyfer gweinyddu rhaglenni sy’n bodoli eisoes.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno i ystyried a ddylai Cymru gael mwy o rôl yn y Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'r fformiwla bresennol ar gyfer y grant yn seiliedig ar ddata poblogaeth ac amddifadedd hanesyddol, gyda threfniant dros dro o 2011/12 yn dal i fod ar waith.
Beth arall mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig?
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Mai 2026, Cutting youth crime, changing young lives. Mae'n cyflwyno ei chynigion fel ffordd o foderneiddio system sydd wedi gweld llai o blant yn mynd i’r system gyfiawnder ieuenctid a'r ddalfa dros y ddau ddegawd diwethaf, ond sydd bellach yn gweithio gyda grŵp llai, a mwy cymhleth, o blant. Mae'n dweud bod gan lawer o blant sy'n cyrraedd y system anghenion sy'n gorgyffwrdd, gan gynnwys camfanteisio, trawma, anawsterau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anghenion addysgol arbennig ac anfantais gymdeithasol ehangach. Dadl ganolog Llywodraeth y DU yw y dylai'r system ymyrryd yn gynharach, ymateb mewn ffordd fwy cyson, diogelu’r cyhoedd a defnyddio’r ddalfa dim ond lle bo angen.
Mae'r datganiad cydraddoldeb sy’n cyd-fynd â’r papur yn dweud bod y diwygiadau wedi'u bwriadu i wella canlyniadau i bob plentyn, gyda disgwyl buddion penodol ar gyfer grwpiau sy'n cael eu cynrychioli'n anghymesur yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Mae'r Papur Gwyn hefyd yn cynnig newidiadau i'r model cyfiawnder ieuenctid cenedlaethol. Disgwylir i bolisi, safonau cenedlaethol, goruchwylio perfformiad a gweinyddu'r Grant Cyfiawnder Ieuenctid symud i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Byddai'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau fel corff annibynnol gyda rôl â mwy o ffocws ar dystiolaeth, gwella arferion, dysgu systemau ac arloesi.
I Gymru, mae’r Papur Gwyn yn nodi rôl gryfach i Lywodraeth Cymru. Ymddengys mai diwygiad gweinyddol o drefniadau goruchwylio ac ariannu yw hyn, yn hytrach na datganoli cyfansoddiadol pwerau cyfiawnder ieuenctid. Y gymhariaeth agosaf yw Manceinion Fwyaf, lle mae cyllid Turnaround a remánd cymunedol wedi'u cyfuno i gefnogi gwneud penderfyniadau lleol mwy hyblyg ers 2026. Mae'r trosglwyddiad i Gymru yn ymddangos yn debyg mewn egwyddor. Ar hyn o bryd nid yw'n glir a fydd Cymru'n cael mwy o reolaeth dros ffrydiau cyllido penodedig, neu a allai’r trefniadau yn y dyfodol fynd ymhellach trwy drefniadau goruchwylio ehangach.
Beth mae’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru wedi'i gyflawni?
Mae cyllid ar gyfer cyfiawnder ieuenctid eisoes wedi'i rannu ar draws sawl gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r Papur Gwyn yn dweud bod cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyfrif am oddeutu traean o gyllid gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ar gyfartaledd. Daw'r gweddill gan awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd a phartneriaid eraill.
Mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dweud bod y cyd-destun wedi newid ers i wasanaethau cyfiawnder ieuenctid gael eu sefydlu yn eu ffurf bresennol ym 1998. Mae'r rhan fwyaf o staff bellach yn gweithio i wasanaethau datganoledig, mae'r rhan fwyaf o’r gweithgarwch yn ataliol, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn dod trwy gyllidebau datganoledig. Mewn geiriau eraill, mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid yng Nghymru eisoes yn rhan ganolog o sut mae cyfiawnder ieuenctid yn gweithio yn ymarferol.
Mae hynny'n gwneud y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru yn bwysig. Fe'i cyhoeddwyd yn 2019, ac roedd yn adlewyrchu dull cyffredin Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU tuag at gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni. Hyrwyddodd fodel sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf, yn seiliedig ar hawliau ac yn cael ei lywio gan drawma, gyda'r nod o atal troseddu lle bo modd a chadw plant mewn cymunedau yn hytrach na'u cadw yn y ddalfa.
Mae tystiolaeth Llywodraeth Cymru yn awgrymu yr helpodd y Glasbrint i adeiladu arfer a rennir, er nad yw ei effaith ar y system gyfan wedi'i werthuso'n llawn eto. Mae'n tynnu sylw at gyflawniadau ymarferol, gan gynnwys hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma ar gyfer mwy na 300 o ymarferwyr cyfiawnder yng Nghymru ac ehangu Rheoli Achosion Uwch ar draws Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Cymru. Fodd bynnag, canfu’r asesiad gwerthusadwyedd y byddai angen mesurau canlyniadau cliriach, gwell cysylltiad data a dangosyddion atal cryfach cyn y gellid asesu effaith y Glasbrint yn gadarn.
Felly, mae'r Glasbrint yn bwysig i ddiwygiadau Ebrill 2027 oherwydd ei fod yn tynnu sylw at y cwestiwn ynghylch a all rôl gryfach Cymru droi egwyddorion cyffredin yn ganlyniadau mesuradwy.
Pam mae remánd yn bwysig
Mae remánd yn brawf defnyddiol o'r cwestiwn hwnnw. Mae lleihau remánd plant wedi bod yn flaenoriaeth hirsefydlog yng Nghymru, gan adlewyrchu'r dull Plentyn yn Gyntaf, sy'n seiliedig ar hawliau ac sydd wedi’i lywio gan drawma yn y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru (gweler hefyd Diogelu yn hytrach na chosbi? Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru).
Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid 2024 i 2025 yn dangos y bu tua 420 o blant yn y ddalfa ar unrhyw adeg yn ystod 2024–25, sef y ffigur isaf ar gofnod. Ond mae remánd yn parhau i fod yn her sylweddol. Mae bron i hanner y plant yn yr ystad ddiogel heb euogfarn.
Mae'r un ystadegau hefyd yn dangos bod bron i 62% o blant a gafodd eu cadw mewn remánd yn y ddalfa heb gael dedfryd o garchar wedi hynny. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a yw rhai plant yn profi aflonyddwch a niwed y ddalfa yn ddiangen.
Mae tystiolaeth gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn awgrymu bod Cymru ar hyn o bryd yn lleihau'r defnydd o remánd yn y ddalfa yn gyflymach na Lloegr, er bod remánd yn parhau i gyfrif am gyfran sylweddol o'r boblogaeth o bobl ifanc yn y ddalfa. Mae plant o grwpiau ethnig lleiafrifol hefyd yn parhau wedi’u gorgynrychioli ymhlith y rhai sydd wedi'u cadw yn y ddalfa.
Mae hyn yn gwneud remánd yn un o'r profion ymarferol cliriaf o newidiadau Ebrill 2027. Os oes gan Gymru fwy o reolaeth dros gyllid perthnasol, y mater fydd a yw’r cyllid hwnnw yn gallu cefnogi dewisiadau amgen cymunedol credadwy y mae ynadon yn hyderus i'w defnyddio.
Y cwestiwn ehangach felly yw nid yn unig a oes mwy o gyllid cyfiawnder ieuenctid yn cael ei reoli yng Nghymru, ond sut mae'r trefniadau newydd yn gweithio yn ymarferol. Am y tro, mae'n ymddangos bod newidiadau Ebrill 2027 yn ymwneud â chyllid, goruchwylio a gweinyddu yn hytrach na datganoli pwerau cyfiawnder ieuenctid yn llawn. Bydd remánd yn un prawf ymarferol i weld a yw'r newid mwy cyfyngedig hwnnw yn dal i fod yn ddigon i roi'r hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru a phartneriaid lleol weithredu'n gynharach, cefnogi dewisiadau amgen cymunedol credadwy, a chadw mwy o blant yn ddiogel yn eu cymunedau.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru