Trethi Newydd i Gymru

Cyhoeddwyd 30/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf 2017 i ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru.

O ble mae'r pwerau i Gymru gyflwyno ei threthi ei hun yn dod?

Mae Deddf Cymru 2014 yn caniatáu creu trethi Cymreig newydd drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor. Rhaid i'r Gorchymyn gael ei osod a'i gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Papur Gorchymyn 'Financial Empowerment and Accountability (PDF, 322KB)' yn rhoi mwy o wybodaeth fanwl am y pŵer hwn, y gellid ei ddefnyddio at ddau bwrpas:

  • Galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno trethi newydd penodol yng Nghymru
  • Caniatáu i Lywodraeth y DU ddatganoli ymhellach drethi presennol neu newydd y DU.

Byddai unrhyw gynnig ar gyfer cyflwyno treth newydd yng Nghymru yn cael ei asesu yn erbyn ystod o feini prawf, gan gynnwys i ba raddau y mae treth:

  • yn effeithio ar bolisi ariannol neu facro-economaidd y DU a/neu’r farchnad sengl
  • yn peidio â chydymffurfio, o bosibl, â deddfwriaeth yr UE
  • yn cynyddu’r risg o osgoi trethi
  • yn creu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau/unigolion
  • yn gyson â chyfrifoldebau datganoledig.

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyflwyno trethi newydd yng Nghymru?

Yn ystod sesiwn y Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd ar 23 Mawrth 2017 gofynnwyd i Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, am gyflwyno trethi newydd. Ymatebodd:

It is important, isn't it, for us to remember what the power is? It is a power to propose and then both Houses of Parliament in London have to give their agreement to the proposition. But I don't feel like we will know how to complete that process successfully without having tested the course. So, I think it comes in two stages. The first is that we need a detailed conversation here in Wales, ourselves, so that we identify a candidate new tax that we think has the best case for it—the strongest case. So, we need to narrow down some of the proposals that are there.

Eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet ymhellach yr angen i ddod o hyd i dreth newydd sydd â'r cyfle mwyaf o gael ei phasio gan ddau Dŷ'r Senedd:

But also, the one that would be most likely to successfully meet the criteria that the command paper sets out, and you know that some of those tests are that the UK Government would look to us to be able to identify the estimated revenue from any tax, the economic impact it might have, and whether there’s any interaction with UK taxes from any proposal that we put forward.

Yn ei Fframwaith Polisi Treth, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017, cydnabu Llywodraeth Cymru fod datblygu trethi newydd yn rym pwerus, y dylid ei ddefnyddio 'gydag eglurder ynghylch amcanion polisi ac amcanion cyllidol, a chydag effeithlonrwydd gweinyddol'.


Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Image from Free Stock Photos.Biz. Trwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Trethi Newydd i Gymru (PDF 129KB)