Trethi datganoledig a'r fframwaith cyllidol

Cyhoeddwyd 04/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

4 Gorffennaf 2016 Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_5874" align="alignnone" width="640"]Money Llun gan Pixabay. Trwydded Creative Commons.[/caption] Trethi datganoledig yng Nghymru Ar 1 Ebrill 2018, bydd treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli'n llwyr i Gymru (PDF, 693KB). Enwau'r trethi newydd hyn i Gymru fydd y dreth trafodiadau tir (PDF, 760KB) a'r dreth gwarediadau tirlenwi (PDF, 1.03MB). Mae'n fwriad gan Lywodraeth y DU hefyd i ddatganoli'r ardoll agregau a datganoli treth incwm yn rhannol (PDF, 322KB) i Gymru er nad yw'n glir beth yw'r amserlenni. Pan fydd y trethi i gyd wedi cael eu datganoli, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn codi tua 25% o'i chyllideb ei hun yn uniongyrchol, gyda'r 75% sy'n weddill yn dod trwy grant bloc Cymru, sef cyllid a ddyrennir i Gymru gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn gyfran sylweddol o'i chymharu â'r 6.6% a godir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Bydd angen addasu grant bloc Cymru o ganlyniad i ddatganoli pwerau i godi trethi. Rhan hanfodol o'r broses o ddatganoli pwerau newydd i godi trethi ac o roi mwy o atebolrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru fydd yr angen am fframwaith cyllidol i Gymru. Mae'n hanfodol bod y system a gytunir ar gyfer Cymru yn deg, neu gellid cael effaith sylweddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Beth yw fframwaith cyllidol?

Mae'n cynnwys yr holl drefniadau, gweithdrefnau, rheolau a sefydliadau sy'n sail i gyflawni polisïau cyllidebol llywodraeth gyffredinol

Pam mae ar Gymru angen fframwaith cyllidol? Fframwaith cyllidol yw'r rheolau a'r sefydliadau a ddefnyddir i osod a chydlynu polisi cyllidol. Mae'n cynnwys dwy elfen allweddol (PDF, 1MB)
  • rheolau cyllidol
  • sefydliadau cyllidol
Mae'n sefydlu rheoliadau yn ymwneud â materion fel:
  • y rhyngweithio rhwng polisi cyllidol Cymru a'r DU
  • addasiadau i'r grant bloc ar gyfer Cymru
  • lefelau diffyg a therfynau dyled Cymru
  • lefelau benthyca Llywodraeth Cymru
  • rhagolygon cyllidol.
Bydd fframwaith o'r fath yn sefydlu'r ffiniau y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithredu oddi mewn iddynt ar ôl datganoli trethi i Gymru. Sut y bwriedir trafod a chytuno ar fframwaith cyllidol? Mae hyn yn aneglur ar hyn o bryd o ystyried nad yw'r trafodaethau ond megis dechrau. Fodd bynnag, gallai'r Alban fod yn enghraifft dda i edrych arni o ystyried bod Llywodraeth yr Alban wedi cwblhau trafodaethau'n ddiweddar â Llywodraeth y DU ynglyn â'i fframwaith cyllidol ei hun. Cymerodd dros un mis ar ddeg i gwblhau'r trafodaethau, sy'n dangos pa mor gymhleth yw cytuno ar fframwaith cyllidol addas. Beth yw'r heriau tebygol wrth gytuno ar fframwaith cyllidol? Nodwyd amrywiaeth o bryderon gan Lywodraethau'r Alban a'r DU a bydd y rhain yn berthnasol i Lywodraeth Cymru wrth gynnal trafodaethau am fframwaith cyllidol i Gymru. Yr egwyddorion Arweiniwyd y trafodaethau gan gyfres o egwyddorion a amlinellir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Smith (PDF, 399KB). Y Comisiwn hwn oedd yn gyfrifol am argymell rhagor o bwerau i'w datganoli i Senedd yr Alban. Dwy egwyddor allweddol y canolbwyntiwyd arnynt ystod y trafodaethau oedd yr egwyddor dim niwed a thegwch i drethdalwyr.

Ffaith allweddol

Roedd Llywodraeth yr Alban yn pwysleisio'r egwyddor dim niwed tra bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar degwch i drethdalwyr yn ystod y trafodaethau.

Yr egwyddor 'dim niwed' Cynigiodd Comisiwn Smith (PDF, 399KB) na ddylai cyllidebau Llywodraeth yr Alban na Llywodraeth y DU newid o ganlyniad i'r penderfyniad i ddatganoli rhagor o bwerau i Senedd yr Alban. Byddai angen i'r fframwaith cyllidol felly sicrhau canlyniadau sy'n gyson â'r egwyddor hon er mwyn gweithredu fframwaith teg i'r ddwy Lywodraeth. Mae'n debygol y bydd trafodaethau ar fframwaith cyllidol Cymru yn dilyn yr un egwyddorion, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU yn sicrhau nad oes yr un o'r ddwy ochr yn waeth eu byd o ganlyniad i ddatganoli trethi i Gymru. Tegwch i drethdalwyr Dywedodd Comisiwn Smith hefyd (PDF, 1MB) na ddylai newidiadau mewn trethi sy'n berthnasol i weddill y DU yn unig, ond effeithio ar wariant yng ngweddill y DU. Yn yr un modd, ni ddylai newidiadau mewn trethi sy'n berthnasol i'r Alban yn unig, ond effeithio ar wariant yn yr Alban. Pe byddai'r egwyddor hon yn cael ei thanseilio, byddai angen i Lywodraeth yr Alban neu'r DU ad-dalu'r llall yn dibynnu ar ba Lywodraeth sydd wedi gwneud y penderfyniad. Addasiad i'r grant bloc Un rhwystr mawr i'r ddwy Lywodraeth oedd yr addasiad i grant bloc yr Alban ac yn benodol sut y gellid mynegrifo addasiadau i gyfrif am dwf yn y boblogaeth yn y dyfodol. Daeth papur a baratowyd dan arweiniad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i'r casgliad a ganlyn:

it is impossible to design a block grant adjustment system that satisfies the spirit of the ‘no detriment from the decision to devolve’ principle at the same time as fully achieving the ‘taxpayer fairness’ principle: at least while the Barnett Formula remains in place.

Daethpwyd o hyd i gyfaddawd gan fod y ddwy ochr yn anghytuno ynglŷn â'r model gorau ar gyfer addasu'r grant bloc. Byddai'r addasiad i'r grant bloc yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio 'Model cymaradwy' Llywodraeth y DU tra'n cyflawni canlyniad y model yr oedd Llywodraeth yr Alban yn ei ffafrio dros gyfnod trosiannol o bum mlynedd. Bydd hwn yn faes allweddol i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau, o ystyried y bydd y model yn chwarae rôl hanfodol wrth benderfynu cyfran sylweddol o gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Y boblogaeth Wrth ystyried model priodol ar gyfer addasu'r grant bloc, un testun pryder allweddol i Lywodraeth yr Alban oedd twf yn y boblogaeth (PDF, 503KB). O ystyried bod y boblogaeth yn tyfu'n arafach yn yr Alban nag yng ngweddill y DU, roedd Llywodraeth yr Alban yn ymwybodol o'r angen i gytuno ar fodel a oedd yn rhoi ystyriaeth i dwf cymharol yn y boblogaeth. Byddai hyn yn amddiffyn cyllideb yr Alban rhag effeithiau twf arafach yn y boblogaeth. Ai'r addasiad i grant bloc yr Alban yw'r ateb ar gyfer Cymru? Yn y gorffennol mae'r boblogaeth hefyd wedi tyfu'n arafach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r cynnydd mewn derbyniadau incwm wedi bod yn sylweddol arafach nag yn y DU.  Y prif reswm am hyn yw polisi Llywodraeth y DU o gynyddu'r lwfans personol sy'n golygu bod llawer o bobl sydd ar incwm is wedi rhoi'r gorau i dalu treth incwm. Mae astudiaeth ddiweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru (PDF, 612KB) wedi dangos y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng dros £100 miliwn y flwyddyn erbyn 2013-14 pe byddai treth incwm wedi cael ei datganoli yn 2010-11. Bydd yn hanfodol, felly, cytuno ar fodel sy'n ystyried y sefyllfa unigryw yng Nghymru. Cyllid gwaelodol Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn Natganiad yr hydref a'r Adolygiad o Wariant yn 2015 mai isafswm y cyllid i Gymru fyddai 115% o wariant cymharol y pen yn Lloegr. Bydd hyn mewn grym tan ddiwedd tymor seneddol presennol y DU. Un elfen bwysig o'r trafodaethau i Lywodraeth Cymru fydd y dull o integreiddio hyn â'r fframwaith cyllidol.