Trethi Cymreig newydd, am y tro cyntaf ers bron i 800 mlynedd, yn cael eu cyflwyno o 1 Ebrill 2018

Cyhoeddwyd 29/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 1 Ebrill 2018, bydd y trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 mlynedd yn dod i rym. Bydd y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi newydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp y DU a'r Dreth Dirlenwi.

Mae'r blog hwn yn rhoi gwybodaeth am y trethi newydd a sut maent yn wahanol i Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd. Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn casglu ac yn rheoli'r trethi newydd hyn.

Treth Trafodiadau Tir

Bydd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn deddfu ar gyfer Treth Trafodiadau Tir yng Nghymru. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, y cyfraddau a'r bandiau newydd ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ynghyd â'r gyllideb ddrafft ym mis Hydref 2017. Fodd bynnag, mewn ymateb i Gyllideb Hydref y DU ym mis Tachwedd 2017, newidiodd y cyfraddau a'r bandiau ar gyfer eiddo preswyl ym mis Rhagfyr 2017.

Bydd Treth Trafodiadau Tir yn seiliedig ar system cyfradd ymylol yn debyg i Dreth Dir y Dreth Stamp, sy'n golygu bod y pris prynu yn cael ei drethu ar gyfradd benodol sy'n gymwys i'r band hwnnw. Er enghraifft, mae tabl 1 isod yn dangos y byddai eiddo preswyl gwerth £190,000 yn cael ei esemptio am y £180,000 cyntaf a'r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar y £10,000 sy'n weddill ar gyfradd o 3.5%.

Eiddo preswyl

Mae cyfraddau a bandiau arfaethedig Treth Trafodiadau Tir ar gyfer eiddo preswyl yn wahanol i'r rhai sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd o dan Dreth Dir y Dreth Stamp. Fel y dangosir, mae eiddo preswyl hyd at £180,000 wedi'i esemptio o Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru ond ar hyn o bryd mae hynny'n wir ar gyfer eiddo hyd at £125,000 o dan Dreth Dir y Dreth Stamp.

Tablau 1 a 2. Cymharu cyfraddau Treth Trafodiadau Tir Cymru a Threth Dir y Dreth Stamp y Deyrnas Unedig ar gyfer eiddo preswyl Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, “mae’r trothwy hwn £55,000 yn uwch na’r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp, a bydd yn lleihau’r baich treth ar oddeutu 24,000 o brynwyr tai yng Nghymru.”

Cyfradd ychwanegol ar gyfer eiddo preswyl

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyfraddau uwch ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp a fyddai'n gymwys o 1 Ebrill 2016 wrth brynu eiddo preswyl ychwanegol, fel ail dai neu eiddo prynu i osod.

Mewn ymateb i hyn, gosododd Llywodraeth Cymru gyfradd ychwanegol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir o 3% ar bob trothwy pris. Mae cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ar gyfer prynu eiddo preswyl ychwanegol fel a ganlyn:

Tabl 3. Cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir Cymru ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol

Eiddo amhreswyl

Mae gwahaniaethau hefyd mewn cyfraddau a bandiau rhwng Treth Trafodiadau Tir a Threth Dir y Dreth Stamp ar gyfer eiddo amhreswyl. Bydd Treth Trafodiadau Tir yng Nghymru yn cynnwys cyfradd ychwanegol ar gyfer eiddo dros £1 miliwn. Bydd unigolion yn talu llai o Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer eiddo rhwng £150,000 a £250,000 o gymharu â Threth Dir y Dreth Stamp ond mwy ar gyfer eiddo dros £1 miliwn.

Tablau 4 a 5. Cymharu cyfraddau Treth Trafodiadau Tir Cymru a Threth Dir y Dreth Stamp y Deyrnas Unedig ar gyfer eiddo amhreswyl Mae'r trothwy pris ar gyfer cyfradd Treth Trafodiadau Tir o 2% ar gyfer rhent gosod amhreswyl yn £3 miliwn llai na Threth Dir y Dreth Stamp. Mae Llywodraeth Cymru yn egluro bod hyn oherwydd cyfraddau gosod is fel arfer yng Nghymru sy'n golygu mai ychydig iawn o drafodion fyddai'n talu'r gyfradd uchaf o Dreth Trafodiadau Tir pe byddai'n gyson â Threth Dir y Dreth Stamp.

Tablau 6 a 7. Cymharu cyfraddau Treth Trafodiadau Tir Cymru a Threth Dir y Dreth Stamp y Deyrnas Unedig ar gyfer rhent gosod amhreswyl

Treth Gwarediadau Tirlenwi

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 sy'n deddfu ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi, a fydd yn disodli Treth Dirlenwi y DU o 1 Ebrill 2018. Treth ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi ydyw sy'n cael ei thalu gan weithredwyr safleoedd tirlenwi. Bydd Treth Gwarediadau Tirlenwi yn cynnwys cyfradd is a safonol yn debyg i Dreth Dirlenwi y DU ond bydd hefyd yn cynnwys cyfradd gwaredu anawdurdodedig newydd.

Yng nghyllideb 2018-19 Llywodraeth Cymru, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y bydd y cyfraddau is a safonol y dreth yn parhau i fod yn gyson â'r Dreth Dirlenwi am y 2 flynedd gyntaf ac y bydd y gyfradd gwarediadau anawdurdodedig yn cael ei gosod ar 150% o'r gyfradd safonol.

Tablau 8. Tabl yn dangos cyfraddau Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru ar gyfer 2018-19 a 2019-20

Awdurdod Cyllid Cymru

Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei sefydlu i reoli a chasglu trethi datganoledig yng Nghymru. Sefydlwyd ACC ym mis Hydref 2017 a dyma'r adran anweinidogol gyntaf i'w sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr awdurdod yn gweithredu yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac yn atebol i'r Cynulliad.


Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru