Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb bob blwyddyn, ond nid oes rhwydd hynt iddi wneud fel y mynno. Mae rheolau ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud â'i chyllideb ac mae’r rhain wedi’u cynnwys mewn 'fframwaith cyllidol', sy'n amlinellu terfynau ar gyfer benthyca a chronfeydd wrth gefn, ymhlith pethau eraill. Mae maint y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru hefyd yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU.
O gofio bod Pwyllgor Cyllid y Senedd a Llywodraeth Cymru yn galw am newid y fframwaith cyllidol, a bod adolygiadau o drefniadau tebyg yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’u cwblhau, a yw’n amser newid y drefn?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl yn y Senedd ar 27 Chwefror 2024 i drafod hyblygrwydd cyllidebol a’r modd y mae fframwaith cyllido’r DU yn gweithio. Yn yr erthygl hon rydym yn ymdrin â rhai materion yn ymwneud â phroses gyllidebol y DU a fframwaith cyllidol Cymru.
Proses gyllidebol Llywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU fel arfer yn cynnal dau 'ddigwyddiad cyllidol' bob blwyddyn: Datganiad yr Hydref, ym mis Tachwedd fel rheol, a Chyllideb y Gwanwyn, a disgwylir y gyllideb nesaf ar 6 Mawrth 2024. Mae’r digwyddiadau cyllidol hyn yn gosod terfynau gwariant ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU ac yn amlinellu arian canlyniadol Barnett ar gyfer y llywodraethau datganoledig.
Fodd bynnag, mae Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi sôn am broblemau’n ymwneud ag oedi cyn dyrannu arian i Lywodraeth Cymru, a bod hynny’n digwydd yn agos at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Y llynedd, dywedodd y canlynol:
Mae gwir angen mynd i’r afael â’r materion diwedd blwyddyn yn yr ystyr fod ein cyllideb yn aml yn newid yn hwyr iawn yn y flwyddyn a bod cyfyngiadau gwirioneddol ar gario drosodd, felly mae’n bosibl y gall hynny eich gorfodi i wneud penderfyniadau gwariant ar ddiwedd y flwyddyn sy'n wahanol i'r penderfyniadau y byddech yn eu gwneud, efallai, pe bai’r gallu gennych i gario’r cyllid hwnnw drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf
Ansicrwydd ynghylch dyraniadau ariannol
Felly sut mae'r ansicrwydd ynghylch y cyllid a gaiff ei ddyrannu gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar Gyllideb Llywodraeth Cymru? Yn ogystal â’r problemau’n ymwneud ag amserlennu sy’n gysylltiedig â phroses gyllidebu’r DU, gall cyhoeddiadau a dyraniadau yn ystod y flwyddyn arwain at newidiadau ym maint y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Un enghraifft a gafwyd yn ddiweddar oedd cytundeb cyflogau’r GIG ar gyfer 2023-24. Yn 2023, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y canlynol wrth y Pwyllgor Cyllid:
…we're waiting to see how the UK Government has funded its NHS pay deal. […] Well, the latest we would find out about it would be in February of next year, so in the supplementary estimates, and that would be completely unacceptable, because, of course, it means that we're almost budgeting in the dark…
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 ar 27 Chwefror 2024. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eto a fydd Llywodraeth Cymru yn cael unrhyw gyllid canlyniadol sy’n deillio o gytundeb gyflogau’r GIG.
Bu achosion hefyd pan gafodd Llywodraeth Cymru ddyraniadau ariannol annisgwyl yn hwyr ym mhroses y gyllideb. Yr enghraifft amlycaf oedd y cyllid a gafwyd yn ystod pandemig Covid. Ym mis Mawrth 2022, tynnodd y Gweinidog sylw at yr anawsterau a oedd codi wrth reoli dyraniadau cyllid hwyr gan Lywodraeth y DU:
So, every year, the Welsh Government and all devolved Governments receive an indication from HM Treasury of any changes to the in-year budgetary position that we should expect at the UK supplementary estimates. So, on 26 January, Treasury informed us that we could expect a further £178 million as a result of spending in England, and this then was on top of the £270 million that had been announced on 19 December to respond to the omicron variant.
Cafwyd eglurhad pellach gan y Gweinidog
We were told that this funding wouldn't be able to [be] carried over into the next financial year. That was funding for Wales totalling £448 million, which is a significant amount of money late on in the financial year… So, I think that this speaks to the difficult parameters within which we have to operate and why it is so important that we keep pressing for further flexibilities.
Fframwaith Cyllidol Cymru
Ym mis Rhagfyr 2016, yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU, cyhoeddwyd Fframwaith Cyllidol Cymru. Rhoddwyd trefniadau ariannu ar waith ar gyfer Llywodraeth Cymru gan roi pwerau benthyca ychwanegol iddi ynghyd â dulliau o reoli cyllideb. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau i’r fframwaith, ac mae’r rhain wedi dwysáu yn ystod y cyfnod hir o chwyddiant uchel.
Mae’r fframwaith yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fenthyca hyd at £1 biliwn at ddibenion cyfalaf gyda chap blynyddol o £150 miliwn (sef y terfyn a bennwyd yn 2019-20).
Roedd y Gweinidog wedi dweud cynt bod y cap blynyddol yn golygu nad yw pwerau benthyca yn addas i’r diben.
Roedd y fframwaith cyllidol hefyd yn cynnwys Cronfa Wrth Gefn i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gario cyfanswm o £350 miliwn ymlaen ar draws blynyddoedd ariannol. Mae terfyn o £125 miliwn y gellir ei dynnu i lawr o’r Gronfa bob blwyddyn gyfer adnoddau a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf. Os oes gan Lywodraeth Cymru fwy o adnoddau a chyfalaf yn y gronfa wrth gefn na’r terfyn a bennwyd, ni fydd yn gallu tynnu’r holl arian wrth gefn i lawr mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Fodd bynnag, ar gyfer 2023-24 mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi anwybyddu’r terfynau tynnu i lawr, felly’n caniatáu i Lywodraeth Cymru “dynnu adnoddau a chyfalaf i lawr i’r symau uchaf sydd ar gael yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru”.
Mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi gwneud sylw ar gronfeydd wrth gefn. Dyma oedd ei argymhelliad yn ei adroddiad Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24:
…mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r terfynau cyffredinol a’r terfynau blynyddol o ran benthyca a chronfeydd wrth gefn, yn unol â chwyddiant o leiaf, ac y dylid adolygu'r terfynau hyn yn rheolaidd er mwyn peidio â lleihau eu gwerth mewn termau real dros amser.
Beth am y gweinyddiaethau datganoledig eraill?
Cytunodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban y byddai fframwaith cyllidol yr Alban yn cael ei adolygu yn dilyn etholiadau’r DU a Senedd yr Alban yn 2020 a 2021, yn y drefn honno.
Cafodd adolygiad o fframwaith cyllidol yr Alban ei gyhoeddi ym mis Awst 2023. Ymhlith pethau eraill, mae’r terfynau benthyca cyfalaf wedi cynyddu ac mae terfyn cyffredinol y gronfa wrth gefn yn cynyddu bob blwyddyn, yn unol â chwyddiant. Diddymwyd y terfynau blynyddol ar gyfer tynnu arian i lawr o gronfa wrth gefn yr Alban a rhoddwyd system ar waith i uwchraddio'r terfyn cyffredinol bob blwyddyn.
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU hefyd setliad gwariant ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a gafodd ei adfer ym mis Chwefror 2024. Yn y setliad, cafwyd cynnydd o 10% yn nherfyn benthyca cyfalaf blynyddol Gogledd Iwerddon o 2024-25 ymlaen, a bydd yn cynyddu bob blwyddyn wedyn yn unol â chwyddiant.
Beth nesaf?
Mae’r cytundeb fframwaith cyllidol yn nodi y dylid adolygu’r fframwaith yn rheolaidd. Mae’r Gweinidog wedi dweud y canlynol:
Dylai Llywodraeth y DU gymhwyso'r newidiadau y mae wedi'u gwneud i fframwaith cyllidol yr Alban mewn cysylltiad â therfynau cronfeydd wrth gefn a benthyca i Gymru, gan roi'r un hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i ni. Byddai hyn yn mynegeio ein terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn i chwyddiant, ac yn dileu terfynau tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld newidiadau ac mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi gwneud pwyntiau tebyg. O gofio bod newidiadau wedi’u cyflwyno yn nhrefniadau ariannu rhannau eraill o’r DU, a yw’n amser cyflwyno newidiadau tebyg yng Nghymru, a sut fath o newidiadau fyddai’r rhain?
Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd.tv ar 27 Chwefror 2024.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru