Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig–beth sy'n cael ei wneud yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 11/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

11 Chwefror 2014 Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ym mis Mehefin 2014, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn sail i strategaeth 'Yr Hawl i fod yn Ddiogel', a gyhoeddwyd yn 2010.
Diffiniadau Trais yn erbyn menywod: Mae Datganiad y Cenhedloedd Unedig (1993) ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod yn datgan bod trais yn erbyn menywod yn golygu unrhyw weithred o drais seiliedig ar ryw sy'n arwain at, neu sy'n debygol o arwain at, niwed neu ddioddefaint corfforol, rhywiol neu seicolegol i fenywod. Gall y term hwn gynnwys:  cam-drin domestig  treisio a thrais rhywiol, cam-drin a chamfanteisio;  stelcio ac aflonyddu;  masnachu mewn pobl;  enwaedu benywod;  priodasau dan orfod  trais ar sail anrhydedd. Cam-drin a thrais domestig: Nid oes diffiniad statudol o gam-drin a thrais domestig. Mae'r term yn cwmpasu ystod o ymddygiadau, ac nid yw pob un ohonynt yn drosedd. Yn hanesyddol, bu nifer o ddiffiniadau 'swyddogol' gwahanol. Ers 2013, diffiniad traws-lywodraethol Llywodraeth y DU o 'drais a cham-drin domestig', sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn, yw "unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gam-drin sy'n rheoli, gorfodi, neu'n bygwth rhwng y rhai sy'n 16 mlwydd oed neu drosodd sy'n bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu'n aelodau teulu waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb. Gall y cam-drin ymgorffori'r mathau canlynol ond nid yw'n gyfyngedig iddynt: seicolegol; corfforol; rhywiol; ariannol; emosiynol."
Nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod
  • Bob blwyddyn, mae hyd at 3 miliwn o fenywod  ar draws y DU yn profi trais rhywiol, trais domestig, priodas dan orfod, stelcio, camfanteisio a masnachu rhywiol, enwaedu benywod neu'r hyn a elwir yn 'drais ar sail anrhydedd'.
  • Amcangyfrifwyd fod 7 y cant o fenywod a 5 y cant o ddynion wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n cyfateb i tua 1.2 miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 800,000 o ddioddefwyr gwrywaidd.
  • Mae 404,000 o fenywod yn dioddef troseddau rhywiol yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn (2.5% o fenywod).
  • Mae 85,000 o fenywod yn dioddef trais rhywiol yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn, sef tua 2,000 yr wythnos.
  • Mae tua un o bob 20 o fenywod (rhwng 16 a 59 oed) yn dweud eu bod wedi dioddef trosedd rhywiol difrifol ers iddynt fod yn 16 oed.
Strategaeth 'Yr Hawl i fod yn Ddiogel' Er nad yw'r elfennau cyfiawnder troseddol sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am les cymdeithasol, llywodraeth leol, iechyd, tai, addysg a materion plant, yn ogystal â chydlynu gwaith aml-asiantaeth. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, sef 'Yr Hawl i fod yn Ddiogel', yn strategaeth chwe blynedd ar gyfer pob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Cafodd ei chyflwyno yn 2010. Mae'r strategaeth yn ehangu'n sylweddol cwmpas y strategaeth cam-drin domestig a gyflwynwyd yn 2005, ac yn mynd i'r afael â phedwar maes allweddol:
  • atal trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig a chodi ymwybyddiaeth o'r materion hyn;
  • darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;
  •  gwella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol;
  • gwella ymateb gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill.
Deddfwriaeth dawAr 26 Tachwedd, 2012, cyhoeddwyd ymgynghoriad Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a oedd yn amlinellu'r polisi a'r cynigion deddfwriaethol. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar dri maes penodol:
  • arweinyddiaeth gryfach ar draws gwasanaethau'r sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n annibynnol, a all fonitro a herio, a darparu trosolwg strategol;
  • gwell addysg ac ymwybyddiaeth o'r 'crud i'r bedd', sy'n cynnwys y cyhoedd, staff rheng flaen a gweithwyr proffesiynol; ac
  • atgyfnerthu ac integreiddio gwasanaethau sy'n gyson, yn effeithiol ac o safon.
Yn benodol, mae'r Papur Gwyn yn cynnig: - penodi 'Cynghorydd Gweinidogol Arbenigol ar gyfer Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod' a fydd yn meddu ar:
  • y pŵer i fynnu gwybodaeth a chynnal ymchwiliadau yn erbyn safonau ansawdd cytûn;
  • y gallu i gyfrannu at benderfyniadau a wneir ar ddefnyddio neu ddyrannu cyllid/adnoddau drwy ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (h.y. darparu gwybodaeth am berfformiad i lywio penderfyniadau ariannu yn y dyfodol).
- ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio ar lefel leol a rhanbarthol i ddatblygu a gweithredu strategaethau i leihau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r asesiad o anghenion; - comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau i ddioddefwyr; - sicrhau bod addysg ar 'gydberthnasau iach' yn cael ei chyflwyno ym mhob ysgol, a gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i nodi hyrwyddwr rhanbarthol i hyrwyddo'r mater hwn mewn lleoliadau addysgol; - cyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol y bydd darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigol allweddol yn rhoi ystyriaeth ddyledus iddo; - gosod dyletswyddau gwahanol ar gyrff datganoledig yn y sector cyhoeddus:
  • gyfrannu at fforymau amlasiantaethol a gynullir i rannu gwybodaeth a hyrwyddo diogelwch unigolion sydd mewn perygl o ddioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol;
  • holi a gweithredu mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn enwedig mewn perthynas â thai;
  • darparu llety diogel;
  • cael polisïau o ran cam-drin domestig yn y gweithle ar gyfer eu gweithwyr.
 Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror, 2013, a chyhoeddwyd crynodeb o'r 147 o ymatebion a gafwyd ym mis Medi 2013. Disgwylir i'r Bil gael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2014.