Cyhoeddwyd 10/11/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
10 Tachwedd 2014
Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1811" align="alignright" width="300"]
Llun o ComisiynyddyGymraeg.org[/caption]
Mae’n ddwy flynedd a hanner bellach ers i Meri Huws gychwyn yn ei swydd fel Comisiynydd cyntaf y Gymraeg. Swydd annibynnol oedd hon a gafodd ei chreu gan
Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae
cofnod blog arall ar gael sy’n rhoi mwy o gefndir cyffredinol am hyn.
Yn ddiweddar, ymddangosodd y Comisiynydd gerbron dau o bwyllgorau’r Cynulliad:
Ar 4 Tachwedd, cynhaliwyd
dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad blynyddol hwnnw. Dyma grynodeb o ambell fater a gododd yn y cyfarfodydd hyn.
Craffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau
Ers cymryd yr awenau, mae’r Comisiynydd wedi datgan droeon pa mor bwysig yw integreiddio a phrif-ffrydio’r Gymraeg mewn meysydd polisi a deddfwriaeth. Fe ddywedodd hi wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth ond nad oedd hi eto’n gweld tystiolaeth “fod y gweu hwnnw yn digwydd yn gynhwysfawr”.
Drachefn, galwodd y Comisiynydd ar y Llywodraeth i wneud mwy i brif-ffrydio’r iaith wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig o ran yr economi, sgiliau, iechyd ac addysg. Mynnodd fod angen “strategaeth weladwy gynhwysfawr” yn cwmpasu’r holl feysydd yma i gyflawni hyn.
Ar fater tebyg, bu cryn drafod yn y Pwyllgor Cymunedau ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ymateb i ffigurau’r Cyfrifiad, ac yn arbennig y ddogfen bolisi
Bwrw Mlaen. Mae
cofnod blog arall ar gael sy’n edrych yn fanylach ar hyn.
Delio â chwynion
Rhan bwysig o waith y Comisiynydd yw delio â chwynion gan y cyhoedd ynghylch ansawdd gwasanaethau Cymraeg. Dywedodd wrth y Pwyllgor Cymunedau ei bod, yn araf bach, yn “gweld y gwaith cwynion hwnnw yn arwain at sefydlu hawliau mwy pendant i Gymry Cymraeg”. Yn hyn o beth, bu sawl achos nodedig yn ddiweddar, gan gynnwys:
- Achos ym mis Ionawr 2014 pan wrthododd fferyllydd roi meddyginiaeth gan fod y presgripsiwn wedi’i ysgrifennu yn Gymraeg. Dangosodd y Comisiynydd nad oedd dim yn y gyfraith yn rhwystro hynny rhag digwydd;
- Adolygiad barnwrol llwyddiannus a gafodd ei ddwyn gan y Comisiynydd yn erbyn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, lle profwyd fod y sefydliad hwnnw wedi ymddwyn yn anghyfreithlon trwy gael gwared ar ei wasanaethau Cymraeg;
- Achos ym mis Hydref 2014 pan benderfynodd y Comisiynydd fod ymyrraeth wedi bod â rhyddid unigolion i siarad Cymraeg â’i gilydd o dan Fesur 2011. Dyma’r ail dro i’r Comisiynydd farnu fod hyn wedi digwydd – y tro hwn ar ôl i feddyg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ofyn i riant beidio â siarad Cymraeg â’i merch.
Yn ôl y Comisiynydd, mae hi wedi cynnal adolygiad o’i threfn gwyno er mwyn gwneud y broses yn fwy hwylus i’r cyhoedd, a bydd hyn yn arwain at sefydlu tîm arbenigol newydd yn ei swyddfa.
Y system gynllunio
Yn gynharach yr hydref hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y
Bil Cynllunio (Cymru) gerbron y Cynulliad (gweler y
cofnod blog yma am ragor o gefndir). Mae’r Prif Weinidog wedi datgan droeon mai Bil strwythurol sy’n ymdrin â fframwaith y system gynllunio yw hwn, ac nad yw’n addas o’r herwydd iddo roi sylw i faterion polisi fel y Gymraeg.
Roedd y Comisiynydd wedi cynghori’r Llywodraeth o’r dechrau y dylai’r Bil ddod o hyd i ffordd statudol o sicrhau bod awdurdodau cynllunio yn rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau. Mae’n bur glir yn hyn o beth nad yw hi’n credu bod y system bresennol (lle dylai awdurdodau ddefnyddio canllawiau TAN 20 i roi ystyriaeth i’r Gymraeg wrth greu eu Cynlluniau Datblygu Lleol) yn ddigonol. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi dadlau mai nad mater o bolisi yn unig yw’r iaith yn y cyd-destun hwn, ond mater fframweithiol ynddo’i hun. Dal i wadu nad oes lle iddo yn y Bil y mae’r Llywodraeth.
Mae hwn yn rhywbeth sy’n sicr o gael rhagor o sylw wrth i’r Bil barhau â’i daith trwy’r Cynulliad.
Cyllideb y Comisiynydd
Yn 2014-15, ar fyr rybudd, cwtogwyd cyllideb y Comisiynydd o 10 y cant. Ysgogodd hyn iddi ailstrwythuro’i swyddfa yn fewnol, a rhoi ar waith gynllun ymddiswyddo gwirfoddol a gostiodd £445,000. Yn 2015-16, mae disgwyl i gyllideb y Comisiynydd ostwng £300,000 yn rhagor, sef tua 8 y cant y tro hwn, i £3.4 miliwn.
Mae’r Prif Weinidog wedi cyfiawnhau’r gostyngiad trwy fynnu bod angen canolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned (
gweler yma). Ond mae’r Comisiynydd wedi mynegi pryderon y gall y toriad gael effaith sylweddol ar waith anstatudol – ond tra phwysig – y mae’n ei wneud, fel hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhlith y trydydd sector a busnesau.
Cwestiwn mawr sy’n deillio o hyn, wrth gwrs, yw pa mor briodol yw tarddiad ffynhonnell ariannol y Comisiynydd o gofio y bydd ganddi gyfrifoldeb dros reoleiddio’r Llywodraeth o dan Fesur 2011. Fel y gofynnodd y Comisiynydd i’r Pwyllgor Cymunedau:
Pan fyddwn yn gorff sy’n rheoleiddio’r Llywodraeth, ac yr un pryd yn cael ein hariannu’n uniongyrchol gan y Llywodraeth, a ydyw hynny’n gyfansoddiadol dderbyniol?
Y Llywodraeth a’r Comisiynydd
Mewn
papur i’r Pwyllgor Cymunedau, mae’r Prif Weinidog wedi awrgymu bod lle i gael gwell eglurder ynghylch gwahanol gyfrifoldebau’r Llywodraeth a’r Comisiynydd, a bod angen osgoi dyblygu gwaith. Mae’r Prif Weinidog yn datgan hefyd fod swyddogion y Llywodraeth “yn gweithio gyda’r Comisiynydd i nodi ffyrdd o gydweithio a gweithio’n wahanol”.
Pan holodd y Pwyllgor y Comisiynydd am hyn, dywedodd fod Mesur 2011 yn ei gwneud yn gwbl eglur beth yw cyfrifoldebau’r Comisiynydd. Er bod angen cyd-ddealltwriaeth, mynnodd hefyd fod “swyddogaethau’r ddau sefydliad yn wahanol iawn”.
Mae hwn yn fater a fydd yn sicr o gael sylw pan ddaw’n bryd i graffu’n ôl ar lwyddiant Mesur 2011, yn enwedig o bosibl wrth edrych ar ble mae’r cyfrifoldebau’n gorwedd dros hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.
Materion eraill
Dau bwnc o bwys sydd heb gael sylw uchod yw’r diweddaraf am y
broses o gyflwyno Safonau o dan Fesur 2011, ac ymholiad statudol a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn 2013-2014 i’r Gymraeg mewn gofal iechyd. Bydd cofnodion blog ar wahân yn cael eu llunio ar y materion hyn maes o law.