Llun o berson yn defnyddio cyfrifiannell a gliniadur

Llun o berson yn defnyddio cyfrifiannell a gliniadur

Trafod Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025

Cyhoeddwyd 18/10/2024   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25 ar 1 Hydref. Mae’n nodi manylion am benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ers i’r Senedd gymeradwyo Cyllideb Derfynol y Llywodraeth ar 5 Mawrth. Mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf hefyd yn cynnwys nifer o newidiadau technegol a gweinyddol i gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at y dyraniadau allweddol, sefyllfa gyllidol Llywodraeth Cymru a faint o gyllid sydd gan y Llywodraeth ar ôl i’w wario, fel y nodir yn y Gyllideb Atodol. Mae Ymchwil y Senedd hefyd wedi llunio Geirfa’r Gyllideb, sy'n egluro rhai o'r termau rydym wedi'u defnyddio.

Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu yn y Gyllideb Atodol?

Mae'r Gyllideb Atodol yn dangos cynnydd o £643 miliwn neu 2.7 y cant yng nghyfanswm y cyllid refeniw a chyfalaf (ac eithrio Gwariant a Reolir yn Flynyddol) a ddyrannwyd i adrannau Llywodraeth Cymru o gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-2025. Fel y dangosir yn Ffigur 1:

  • Mae refeniw wedi cynyddu £248 miliwn (1.2 y cant) i £21.2 biliwn; ac
  • mae cyfalaf wedi cynyddu £395 miliwn (13.4 y cant) i £3.3 biliwn;

Ffigur 1: Prif ffigurau o'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25 yn dangos y newidiadau ers y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 wedi’i hailddatgan*.

Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw: £21,158 miliwn (i fyny £248 miliwn neu 1.2 y cant). Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL) Cyfalaf: £3,340 miliwn (cynnydd o £395 miliwn neu 13.4 y cant). Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £24,497 miliwn (cynnydd o £643 miliwn neu 2.7 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £3,109 miliwn (i fyny £333 miliwn neu 12.0 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £27,607 miliwn (i fyny £976 miliwn neu 3.7 y cant).

*Gwnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 ym mis Mehefin 2024 a'i hailddatgan eto yn y Gyllideb Atodol Gyntaf i adlewyrchu portffolios diweddaraf y Cabinet a gyhoeddwyd ym mis Medi.

Fel y dangosir yn Ffigur 2, mae’r rhan fwyaf o adrannau’r Llywodraeth wedi gweld cynnydd mewn cyllid, gyda’r adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweld y cynnydd mwyaf o ran gwerth (cynnydd o £454 miliwn neu 3.9 y cant), a’r adran Drafnidiaeth yn gweld y cynnydd canrannol mwyaf (cynnydd o £221 miliwn neu 17.5 y cant). Yr adran Addysg wynebodd y gostyngiad mwyaf o ran gwerth ac yn ganrannol (gostyngiad o £215 miliwn neu 8.4 y cant).

Mae'r gostyngiad yng nghyllideb yr adran Addysg yn adlewyrchu cynnydd cyllidol (neu arian parod) o £25 miliwn. Mae’r gostyngiad mewn dyraniadau anghyllidol (neu sydd ddim yn ymwneud ag arian parod) o £237 miliwn yn fwy na’r swm y byddai ei angen i orbwyso hyn. Mae’r gostyngiad hwn yn adlewyrchu cost flynyddol benthyciadau myfyrwyr ac nid yw’n effeithio ar rym gwario Llywodraeth Cymru. Ar 10 Hydref, dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid:

“It's sort of a double ring fence, in that it is non-fiscal, so there is no cash attached to it, and it can only be used for the purposes of student loans.”

Ffigur 2: Newidiadau yn y Terfynau Gwariant Adrannol yn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25, o gymharu â'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25.

Refeniw a chyfalaf Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 yn ôl portffolio a newidiadau o Gyllideb Derfynol 2024-25 (a ailddatganwyd). Iechyd a Gofal Cymdeithasol £12,212 miliwn, i fyny £454 miliwn (3.9 y cant). Tai a Llywodraeth Leol £6,296 miliwn, i fyny £61 miliwn (1.0 y cant). Addysg £2,350 miliwn, i lawr £215 miliwn (8.4 y cant). Trafnidiaeth £1,481 miliwn, i fyny £221 miliwn (17.5 y cant). Newid Hinsawdd a Materion Gwledig £831 miliwn, i fyny £31 miliwn (3.9 y cant). Yr Economi, Ynni a Chynllunio £772 miliwn, i fyny £87 miliwn (12.7 y cant). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £401 miliwn, sef gostyngiad o £2 miliwn (0.5 y cant). Cyfiawnder Cymdeithasol £154 miliwn, i fyny £6 miliwn (3.8 y cant).

* Yn cynnwys dyraniad o £277 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Dylid cyfeirio at Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 i gael yr union ffigurau.

Nid yw pob un o’r newidiadau hyn yn gysylltiedig â phenderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru; mae rhai newidiadau’n gysylltiedig ag addasiadau cyllidebol ac addasiadau cyfrifyddol technegol, yn ogystal â phenderfyniadau gan Lywodraeth y DU. Nid oes dyraniadau newydd yn y gyllideb hon: mae'r holl newidiadau yn gysylltiedig â chyllid a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae gwybodaeth am ddyraniadau blaenorol ar gael yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25. Nid yw dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 10 Medi wedi’u cynnwys yn y Gyllideb Atodol hon.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi trosglwyddo cyllid rhwng ei hadrannau ac o fewn adrannau.

Sut mae'r sefyllfa gyllido wedi newid?

Mae rhagolygon refeniw treth ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru, y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac ardrethi annomestig wedi’u hadrodd wrth i ragolygon barhau i adlewyrchu’r rhai a gyhoeddwyd ar adeg y Gyllideb Derfynol.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig gwneud unrhyw newidiadau i’w threfniadau benthyca ers y Gyllideb Derfynol, a bydd yn parhau i fenthyg yr uchafswm o £150 miliwn a ganiateir o dan y Fframwaith Cyllidol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu £39 miliwn o gyllid refeniw yn ychwanegol o Gronfa Wrth Gefn Cymru ar ben yr £86 miliwn a gynlluniwyd yn y Gyllideb Derfynol, gan ddod â’r cyfanswm i £125 miliwn. Nid oes unrhyw newid i'r swm o arian a dynnir o Gronfa Wrth Gefn Cymru ar gyfer cyfalaf, sef £50 miliwn.

Newidiadau technegol

Mae effaith y camau i weithredu’r safonau cyfrifo newydd ar gyfer lesoedd (sef y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16) ar y Gyllideb Atodol hon wedi bod yn sylweddol. Fel addasiadau technegol, nid ydynt yn effeithio ar rym gwario presennol. Mae’r addasiadau cyffredinol i’r Gyllideb Atodol fel a ganlyn:

  • Gostyngiad o £116.9 miliwn mewn refeniw (arian parod);
  • cynnydd o £119.9 miliwn mewn refeniw (nad yw'n arian parod); a
  • chynnydd o £338.9 miliwn mewn cyfalaf.

Cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer cynlluniau pensiwn

Mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid ychwanegol i Adrannau’r DU i ymdrin â chostau uwch yn sgil newidiadau i gyfradd y Cyfraniadau Pensiwn wedi’u Haddasu ar gyfer Profiadau’r Gorffennol (Superannuation Contributions Adjusted for Past Experiences, neu SCAPE, yn Saesneg), sy’n gynlluniau pensiwn nad ydynt yn gysylltiedig â’r gwasanaeth sifil. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyllid canlyniadol yn ôl fformiwla Barnett o ganlyniad i hyn, ac mae cyllid wedi’i ddyrannu yn y Gyllideb Atodol hon fel a ganlyn:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol - £117.1 miliwn ar gyfer costau staff y GIG;
  • Tai a Llywodraeth Leol - cyfanswm o £63.8 miliwn ar gyfer athrawon (cyn-16) a'r Gwasanaeth Tân; ac
  • Addysg - £11.9 miliwn ar gyfer athrawon mewn lleoliadau chweched dosbarth a cholegau Addysg Bellach.

Effaith pwysau chwyddiant, costau a chyflogau

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae pwysau chwyddiant wedi bod yn destun pryder i Lywodraeth Cymru gan fod lefelau chwyddiant uwch wedi cael effaith sylweddol ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Y ffigur diweddaraf ar gyfer mynegai prisiau defnyddwyr, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2024, oedd 1.7 y cant. Cadarnhaodd Banc Lloegr y disgwylir i’r ffigyrau chwyddiant godi i 2.5 y cant erbyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, disgwylir i’r cynnydd hwn fod yn fyrhoedlog, gyda chwyddiant yn gostwng yn 2025.

Y cynnydd blynyddol mewn enillion rheolaidd cyfartalog cyflogeion (ac eithrio taliadau bonws) oedd 5.1 y cant; y tro diwethaf yr oedd y cynnydd yn llai na hyn oedd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022, pan welwyd cynnydd o 4.7 y cant. Ym mis Mawrth 2024, amcangyfrifodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd twf cyflog cyfartalog enwol yn arafu i 3.6 y cant yn 2024 ac y bydd yn gostwng i oddeutu 2 y cant ar gyfer 2025 a 2026.

Cronfeydd wrth gefn

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn, sydd yn eu hanfod yn golygu’r cyllid nad yw’r Llywodraeth wedi’i ddyrannu eto. Mae cronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru, ar ôl gwneud y dyraniadau yn ei Chyllideb Atodol, yn cynnwys:

  • Refeniw cyllidol o £35.8 miliwn (cynnydd o £3.2 miliwn ers y Gyllideb Derfynol); a
  • refeniw anghyllidol o £76.8 miliwn (gostyngiad o £415.2 miliwn ers y Gyllideb Derfynol); a

Mae cronfa cyfalaf cyffredinol wrth gefn Llywodraeth Cymru wedi gorddyrannu £110.1 miliwn (cafodd swm o £109.0 miliwn ei orddyrannu yn y Gyllideb Derfynol). Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y gorddyraniadau hyn i sicrhau nad oes tanwariant mewn cyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn, ac i sicrhau y gellir gwario unrhyw gyfalaf sy’n dod i law yn ystod rhan olaf y flwyddyn.

Beth nesaf?

Bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Atodol ar 22 Hydref, a gellir gwylio’r trafodion ar Senedd TV.


Erthygl gan Peter Davies a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru