Ar 2 Gorffennaf 2019, bydd dadl llywodraeth yn y Cynulliad ynghylch yr achos dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr.
Beth yw Toll Teithwyr Awyr?
Mae Toll Teithwyr Awyr yn doll sy'n cael ei chodi ar bob taith awyr sy'n gadael y DU. Mae teithwyr yn talu cyfraddau gwahanol ar gyfer teithiau byr a theithiau hir fel rhan o'u pris tocyn, y mae'r cwmnïau hedfan wedyn yn ei drosglwyddo i'r llywodraeth dan sylw.
Beth yw'r sefyllfa bresennol yn y DU?
Cafodd Toll Teithwyr Awyr ei datganoli'n llawn i'r Alban yn 2018, a chafodd teithiau hir eu datganoli i Ogledd Iwerddon yn 2012. Fodd bynnag, nid yw Toll Teithwyr Awyr wedi'i ddatganoli i Gymru o hyd, sy'n golygu mai Llywodraeth y DU sy'n pennu ac yn derbyn y doll ar gyfer teithiau o feysydd awyr Cymru.
Pam nad yw Toll Teithwyr Awyr wedi'i datganoli i Gymru?
Yn 2012, cyhoeddodd y Comisiwn Silk ei gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gwnaeth yr adroddiad argymhelliad ynghylch “datganoli cyfraddau teithiau hir y Doll Teithwyr Awyr, yn yr un modd ag yng Ngogledd Iwerddon, ac ystyried ei datganoli’n llwyr yn y dyfodol”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson am ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru ac wedi dadlau bod 'amharodrwydd Llywodraeth y DU i ddatganoli'r Doll yn parhau i gyfyngu, mewn ffordd na ellir ei chyfiawnhau, ar allu Cymru i'w hyrwyddo'i hun dramor a’i fod hefyd yn llesteirio twf yn y sector hedfan a'r economi ehangach'.
Yn 2016, cadarnhaodd Llywodraeth y DU nad oedd yn bwriadu datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru ar y sail y byddai'n creu gwyro'r farchnad ac y byddai'n niweidiol i feysydd awyr eraill y DU, yn enwedig Bryste.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru lunio adroddiad ym mis Mehefin 2017 a oedd yn herio asesiad Llywodraeth y DU fod agosrwydd meysydd awyr Caerdydd a Bryste yn ffurfio un farchnad awyrennau yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ymchwiliad 'Datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru'. Roedd adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019, yn argymell y dylid datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru. Galwyd ar Lywodraeth y DU i amlinellu cynlluniau i wneud hynny erbyn 2021.
Erthygl gan Christian Tipples, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru