Cyhoeddwyd 02/07/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
2 Gorffennaf 2014
Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Un o themâu
papur gwyn Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Llywodraeth Cymru yw ‘adeiladu asedau cymunedol’ - mae hyn yn cynnwys cynnig i gryfhau rôl awdurdodau lleol wrth gynllunio ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad iddynt.
Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 24 Mehefin 2014.
[caption id="attachment_1362" align="alignright" width="300"]
![Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons](/researchblogfilescy/2014/07/public_toilets_at_connahs_quay.jpg?w=300)
Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Yn y papur gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod costau i iechyd y cyhoedd a chostau amgylcheddol i’r gymuned ehangach o gyfleusterau toiled annigonol.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi nifer o heriau gyda’r system bresennol yn llywodraethu mynediad y cyhoedd i doiledau, gan gynnwys:
- mae darparu a chynnal toiledau cyhoeddus yng Nghymru yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol (nid oes unrhyw ddyletswydd i’w darparu);
- mae toiledau cyhoeddus yn gostus i awdurdodau lleol ac o ganlyniad i hynny, maent o dan fygythiad i gau ledled Cymru;
- mae’r Cynllun Grant Toiledau Cymunedol presennol (sy’n ad-dalu awdurdodau lleol am grantiau i fusnesau lleol am ganiatáu mynediad am ddim i’r cyhoedd i doiledau) yn gyfyngedig gan ei fod yn canolbwyntio’n unig ar sefydliadau preifat; ac
- mae cynllunio gwael o ran gwneud y defnydd gorau o doiledau o fewn adeiladau cyhoeddus e.e. llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau chwaraeon ac ati
Mae’r papur gwyn yn cynnig dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i ddatblygu strategaeth (a allai fod yn rhan o’r broses gynllunio integredig sengl) ar ddarparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad iddynt.
Mae’n rhaid i’r strategaeth fod yn seiliedig ar angen y gymuned leol, ac mae’n rhaid ymgynghori arni a’i hadolygu’n rheolaidd. Byddai’n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried argaeledd toiledau at ddefnydd y cyhoedd ym mhob agwedd ar gynllunio. Yn benodol, gallai hyn gynnwys y ddyletswydd i ystyried sut y byddai awdurdodau lleol yn defnyddio pwerau presennol i sicrhau bod cyfleusterau toiled digonol yn cael eu darparu ar gyfer y cyhoedd; ac argaeledd toiledau cyhoeddus a ddarperir gan yr awdurdod lleol ac o fewn adeiladau cyhoeddus e.e. mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, neuaddau cymuned a thref, canolfannau chwaraeon, theatrau ac amgueddfeydd.
Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ymchwiliad byr i ‘
Oblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus’ yn ystod y gaeaf 2011/12 (ar ôl cyflwyno deiseb i’r Pwyllgor Deisebau ym mis Mehefin 2010).
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan amrywiol randdeiliaid a daeth i’r casgliad bod achos iechyd cyhoeddus dros well darpariaeth o doiledau cyhoeddus.
Dywedodd tystion wrth y Pwyllgor fod darpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus yn cael effaith anghymesur ar rai rhannau o gymdeithas, fel pobl hŷn a phobl anabl, plant a’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau’r bledren neu’r coluddyn.
Pwysleisiodd tystiolaeth y gall diffyg toiledau cyhoeddus digonol effeithio’n ddifrifol ar allu person i adael y tŷ a chymryd rhan yn y gymuned. Clywodd y Pwyllgor y gall yr effaith gynnwys straen, unigrwydd, iselder, symudedd cyfyngedig, effeithiau ar y bledren a’r coluddyn, diffyg hylif, heintiau’r llwybr wrinol a lledaenu haint.
Mae sefydliadau fel Age Cymru a Senedd Pobl Hŷn Cymru wedi galw am ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu nifer digonol o doiledau cyhoeddus hygyrch ledled Cymru.
Mae ar bobl sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog, yn ogystal â namau difrifol eraill megis anafiadau i asgwrn y cefn, sglerosis ymledol neu anaf i’r ymennydd, yn aml angen cyfleusterau ychwanegol i’r rhai a ddarperir mewn toiledau anabl safonol. Mae gan doiledau Changing Places nodweddion ychwanegol a mwy o le i ddiwallu’r anghenion hyn. Yn ôl Changing Places, mae
24 o doiledau Changing Places yng Nghymru ar hyn o bryd.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y gall diffyg darpariaeth ddigonol o doiledau effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol unigolyn, yn ogystal ag iechyd amgylcheddol ehangach poblogaeth Cymru, gan ddod â goblygiadau i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.