Tlodi ac iechyd meddwl: Maen nhw’n cydblethu

Cyhoeddwyd 03/03/2022   |   Amser darllen munud

Mae yna bryderon ynghylch argyfwng iechyd meddwl yn y DU. Mae'n ddealladwy bod llawer o’r yn a drafodir yn canolbwyntio ar argaeledd gwasanaethau i drin problemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae yna gyd-destun iechyd cyhoeddus llawer ehangach, sy'n fwyfwy anodd ei anwybyddu.

Yn 2020, fe wnaeth y Sefydliad Iechyd Meddwl ddweud wrth Bwyllgor Iechyd y Bumed Senedd, er bod gwir angen gwell gwasanaethau iechyd meddwl arnom, ni fyddai hynny’n ddigon wrth ei hun.

We already had big demand for mental health services – and need – before the pandemic, so we do need to understand public mental health and the position of prevention and interventions in the community.

Mae’n ddichon bod y sefyllfa o ran y pandemig yn gwella, ond amser a ddengys beth fydd effaith hirdymor y pandemig ar iechyd meddwl ac – yn hollbwysig – y ffactorau sy’n cyfrannu at hynny.

Mae penderfynyddion iechyd meddwl a llesiant yn ymwneud yn bennaf â’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, yn hytrach na bod yn ffactorau meddygol.

Mae iechyd meddwl, i raddau helaeth, wedi’i ffurfio gan yr amgylcheddau cymdeithasol, economaidd a ffisegol y mae pobl yn byw ynddynt. Mae anghydraddoldebau mewn cymdeithas yn gysylltiedig â risg sylweddol uwch o salwch meddwl. Mae tlodi yn chwarae rhan allweddol.

Gall pobl sy’n byw mewn tlodi'n wynebu lefelau cyson uchel o straen, er enghraifft gan ei bod hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, bod cartrefi’n orlawn neu anniogel, oherwydd ofn trosedd ac iechyd corfforol cymharol wael yn ogystal. Mae tlodi’n amlwg yn gysylltiedig â nifer o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys sgitsoffrenia, iselder a gorbryder, a chamddefnyddio sylweddau.

Mae’r ddau beth wedi’u cydblethu. Gall tlodi achosi salwch meddwl yn ogystal â bod yn ganlyniad ohono, er enghraifft lle mae symptomau gwanychol a stigma ynghylch salwch meddwl yn effeithio ar incwm person a’i allu i weithio.

Mae'r anfantais hon yn dechrau cyn geni ac yn cronni trwy gydol oes.

Beth mae data yn ei ddweud wrthym am dlodi ac iechyd meddwl?

  • Yng Nghymru, mae 20% o oedolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dweud eu bod yn cael eu trin am gyflwr iechyd meddwl, o gymharu ag 8% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Mae plant o'r 20% tlotaf o gartrefi bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anawsterau iechyd meddwl difrifol erbyn 11 oed na’r rheini o'r 20% cyfoethocaf.
  • Mae cyfraddau hunanladdiad ddwy neu dair gwaith yn uwch yn y cymdogaethau mwyaf difreintiedig, o gymharu â’r rhai mwyaf cyfoethog.
  • Po fwyaf yw’r ddyled sydd gan bobl, y mwyaf tebygol ydyn nhw o fod â phroblem iechyd meddwl. Mae un o bob pedwar o bobl sy'n dioddef problem iechyd meddwl â phroblem dyled. Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl deirgwaith yn fwy tebygol o fod mewn trafferthion ariannol.
  • Mae cyflogaeth o ansawdd da yn un o'r penderfynyddion o ran iechyd meddwl sydd â'r dystiolaeth gryfaf. Ym mis Ionawr 2021, dywedodd 43% o bobl ddi-waith bod eu hiechyd meddwl yn wael (o gymharu â 27% o’r rheini sy’n gyflogedig).

Y pandemig a thu hwnt

Cyn COVID-19, roedd bron â bod chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi. Mae plant yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o fod yn dlawd, gyda 31% yn byw mewn tlodi. Bydd ystadegau’r dyfodol yn dweud mwy wrthym ni am effaith hirdymor y pandemig ar dlodi, ond gwyddom mai’r rhai lleiaf cefnog yn ein cymunedau sydd wedi eu taro galetaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gweithwyr ar gyflog isel sydd wedi bod yn fwyaf tebygol o fod ar ffyrlo, neu o fod wedi colli eu swyddi. Roedd grwpiau a oedd eisoes yn fwy tebygol o fod mewn dyled broblemus cyn y pandemig bellach yn destun mwy fyth o risg. Mae pryder eang am sefyllfa sy’n gwaethygu o ran argyfwng costau byw.

Mae’r cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd meddwl yn ddiamwys, ac mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ariannol ac effaith economaidd-gymdeithasol COVID-19 yn debygol o fod yn agos i frig yr agenda wleidyddol wrth i ni symud allan o’r pandemig.

Mae'r Sefydliad Iechyd yn galw am fwy o fesurau i amddiffyn gweithwyr ar gyflog isel, yn ogystal â chymorth wedi’i dargedu i helpu pobl y mae eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu, i fynd yn ôl i fyd gwaith. Yn fwy sylfaenol, mae’n sôn am yr angen i lywodraethau osod mwy o bwys ar faterion iechyd meddwl.

Ym mis Hydref 2020, diweddarodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei dogfen cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl i ystyried effeithiau ehangach y pandemig. Yr cynigion y gyllideb ar gyfer 2022-23 yn cynnwys mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, a chydnabyddiaeth bod angen dull gweithredu ar lefel llywodraeth gyfan i wella iechyd meddwl y cyhoedd.

Yn ôl y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl:

As a society, we cannot improve mental health or tackle the scourge of mental health inequality without tackling poverty and addressing income and wealth inequality. So these must be at the heart of a national effort to boost mental health equality.

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau

Fe wnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol lansio ymchwiliad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ym mis Ionawr eleni. Ei obaith fydd dylanwadu ar gynllun iechyd meddwl dilynol Llywodraeth Cymru (mae’r cynllun cyflawni presennol yn dod i ben yn 2022). Mae gwaith ymgynghori ac ymgysylltu’r Pwyllgor hyd yn hyn yn tynnu sylw at ystod o wahanol grwpiau o bobl y mae afiechyd meddwl yn effeithio’n anghymesur arnyn nhw. Nid yw'n syndod bod tlodi ac ansicrwydd ariannol ymhlith y ffactorau sy'n peri pryder sylweddol.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ymuno â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, o ystyried y materion eang eu cwmpas sydd o dan sylw. Bydd sesiwn tystiolaeth lafar ffurfiol gyntaf y Pwyllgor yn cael ei chynnal ar 24 Mawrth 2022, gyda sefydliadau iechyd meddwl, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Bydd hyn yn helpu i osod y cefndir ar gyfer casglu tystiolaeth bellach yn nhymor yr haf. Gallwch gadw i’r funud ar dudalen yr ymchwiliad ar y we.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru