Tlodi a chefnogi aelwydydd incwm isel

Cyhoeddwyd 25/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/05/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Cyn y pandemig roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Y tlotaf sydd wedi’u taro waethaf gan y flwyddyn ddiwethaf, felly sut y gall Llywodraeth nesaf Cymru fynd i'r afael â hyn?

Mae mynd i'r afael â thlodi wedi bod yn her barhaus i Lywodraethau olynol Cymru, a bydd hyn yn parhau, gyda'r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau presennol. Daeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd i’r casgliad bod tlodi, yn ystod y pandemig, wedi bod yn ffactor allweddol wrth benderfynu pa mor debygol yw pobl o golli eu swyddi neu eu hincwm, cael eu gadael ar ôl o ran eu haddysg, a hyd yn oed pa mor debygol ydynt o farw o COVID-19.

Rhybuddiodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid nad oes amheuaeth y bydd yr arafu yn yr economi yn cael effaith negyddol fawr ar incwm aelwydydd dros y blynyddoedd nesaf wrth i weithwyr golli eu swyddi, ac wrth i enillion ostwng.

Beth yw tlodi?

Ystyrir bod person mewn tlodi os yw incwm ei aelwyd yn disgyn yn is na 60% o ganolrif y DU (sef y gwerth canol mewn rhestr o rifau sydd wedi'u trefnu o'r lleiaf i'r mwyaf).

Canolrif incwm wythnosol aelwydydd yn y DU yw £476 ar ôl costau tai, a 60% o hyn yw tua £286.

Tueddiadau o ran tlodi cyn y pandemig

Mae tlodi wedi parhau'n ystyfnig o uchel dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r gyfradd tlodi yng Nghymru yn uwch nag yng ngwledydd eraill y DU cyn y pandemig. Mae plant yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o fod mewn tlodi, gyda 31% yn byw mewn tlodi – yr unig grŵp oedran i weld cynnydd yn y ffigurau diweddaraf. Dywedodd Chwarae Teg bod menywod a rhieni sengl hefyd yn fwy tebygol o fod mewn tlodi.

Canran mewn tlodi ar ôl costau tai yng Nghymru, 1999/2000 – 2001/2002 i 2017/2018 – 2019/2020

Graff yn dangos amrywiadau yn lefelau tlodi plant, pobl oed gweithio a phensiynwyr yng Nghymru.

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Households below average income 1994/95 to 2019/20

Ym mis Ebrill 2020 roedd cyflogau yng Nghymru yn is nag ym mhob rhan arall o'r DU, ac eithrio Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr, gan gyfrannu at y lefelau cymharol uchel o dlodi mewn gwaith a nodwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree. Roedd gan bobl sy'n gweithio'n llawn amser ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru gyflog wythnosol canolrifol is na chyfartaledd y DU.

Enillion wythnosol gros canolrifol i weithwyr amser llawn fesul gweithle, Ebrill 2020

Graff yn dangos y cyflog wythnosol canolrifol gros i bobl sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2020.

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Employee Earnings in the UK: 2020

Ar ddechrau'r pandemig, roedd 22% o'r rhai sy'n gweithio yng Nghymru yn ennill llai yr awr na'r Cyflog Byw 'real' gyda hyn yn arbennig o debygol o ran gweithwyr rhan-amser a menywod. Mae llawer o weithwyr mewn sectorau allweddol fel gofal cymdeithasol a manwerthu bwyd yn ennill llai na'r Cyflog Byw, gyda'r Resolution Foundation yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn wir am dros hanner y gweithwyr gofal rheng flaen.

Effaith y pandemig ar aelwydydd incwm isel

Pobl o aelwydydd incwm isel sydd wedi bod yn fwyaf tebygol o golli eu swyddi, colli incwm neu gael eu rhoi ar ffyrlo ers dechrau'r pandemig. Canfu’r Resolution Foundation bod dros 40% o'r enillwyr isaf wedi cael eu heffeithio fel hyn, sef dwbl canran y rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf. Tynnodd y Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod chwarter aelwydydd Cymru wedi gweld eu hincwm yn gostwng yn ystod y pandemig, ac ar yr un pryd, mae costau byw wedi cynyddu mewn mwy na phedair o bob deg aelwyd.

O ganlyniad, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol sy'n cefnogi'r rhai ar incwm isel wedi cynyddu'n sylweddol. Ym mis Ebrill 2021 roedd dros 125,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn hawlio Credyd Cynhwysol nag ar ddechrau'r pandemig, gyda llawer o'r cynnydd hwn yn digwydd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2020. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cynnydd dros dro o £20 yr wythnos i’r Credyd Cynhwysol, tan ddiwedd mis Medi 2021, ond nid yw’n glir beth fydd yn digwydd ar ôl hyn.

Nifer y bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru, mis Ionawr 2020 i fis Ebrill 2021

Graff yn dangos y cynnydd cyflym yn nifer y bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ar ddechrau'r pandemig.

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Tablau data Credyd Cynhwysol Stat-Xplore

Bu bron i 180,000 o daliadau'n gysylltiedig â COVID drwy Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn hyd at 18 Mawrth 2021. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod angen cymorth ar bobl o ganlyniad i roi’r gorau i weithio neu leihau gwaith, oedi o ran hawliadau budd-daliadau neu gynnydd mewn costau byw. O ystyried bod y gronfa wedi cael ei thyfu’n sylweddol, bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried ei rôl yn y dyfodol.

Mae dyled yn debygol o ddod yn broblem fwy yn ystod y misoedd nesaf, wrth i gynlluniau cymorth a gwaharddiadau troi allan ddod i ben. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi amcangyfrif bod pobl yng Nghymru wedi cronni gwerth £73 miliwn o ôl-ddyledion biliau aelwydydd yn ystod y pandemig, a'r ffynonellau mwyaf o ôl-ddyledion yw rhent a'r dreth gyngor. Canfu Sefydliad Bevan mai aelwydydd incwm isel oedd y mwyaf tebygol o fenthyca yn ystod y pandemig, gyda dros chwarter yr aelwydydd tlotaf wedi benthyca gan ffrindiau a theulu neu wedi defnyddio’u gorddrafft.

Canfu Sefydliad Bevan hefyd fod mwy na chwarter yr aelwydydd incwm isel wedi ymateb i amgylchiadau ariannol anodd drwy gwtogi ar wariant ar fwyd i oedolion. Mae banciau bwyd a Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy i ddarparu bwyd ychwanegol i bobl sy'n gwarchod eu hunain a'r rhai mewn angen, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn darparu dros 145,000 o barseli bwyd brys yn 2020-21. Fodd bynnag, gyda llawer o aelwydydd tlotach yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt wneud toriadau pellach yn y dyfodol, bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried pa gamau i'w cymryd i'w cefnogi.

Beth y gellir ei wneud i leihau tlodi o fewn y setliad datganoli?

Er bod Budd-dal y Dreth Gyngor a'r Gronfa Cymorth Dewisol wedi'u datganoli i Gymru fel rhan o ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU, dim ond i raddau bychan y mae nawdd cymdeithasol wedi'i ddatganoli, gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Yn yr un modd, nid yw cyfraith cyflogaeth wedi'i datganoli, sy'n golygu bod cyfyngiadau ar yr ysgogiadau y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i leihau tlodi.

Argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd y dylai Llywodraeth Cymru geisio cael Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai wedi’u datganoli’n llawn, ac archwilio'r posibilrwydd o ddatganoli budd-daliadau eraill, ynghyd â phwerau i ychwanegu at fudd-daliadau a gadwyd yn ôl a chreu rhai newydd.

Mae amrywiaeth o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn gweithredu ochr yn ochr â'r system nawdd cymdeithasol i roi cymorth i bobl ar incwm isel. Mae Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree wedi galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wella'r cynlluniau hyn i greu 'System Budd-daliadau Cymru'. Byddai hyn yn golygu un pwynt mynediad i bobl ar incwm isel, ac yn blaenoriaethu cymorth gyda chostau tai ac addysg a chymorth brys.

Er mwyn gwella sefyllfa economaidd y rhai sydd mewn gwaith cyflogau isel, bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried sut y mae argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg yn cydweddu i’w dull cyffredinol, a sut mae am ymateb i drafferthion sy’n wynebu gweithwyr cyflog isel a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig.

Cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gontract Economaidd a gwaith teg oedd un o’r gofynion i fusnesau a oedd yn gofyn am fuddsoddiad. Mae TUC Cymru yn credu y dylid cryfhau hyn i sicrhau arfer cyflogaeth gwell a chanlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol eraill. Mae hefyd yn credu bod yn rhaid i waith teg fod ymhlith gofynion pob proses gaffael a phob grantiau a benthyciad. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw ar y llywodraeth nesaf i ddechrau ymgyrch o dan arweiniad busnesau i helpu cwmnïau i ddeall sut y gall gwaith teg weithredu ochr yn ochr â thŵf busnes. Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru hefyd Fil Drafft Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru bennu a chyflawni amcanion gwaith teg, a cheisio defnyddio caffael i hyrwyddo gwaith teg a llesiant.

Er mwyn ceisio sicrhau gwell canlyniadau i bobl ar incwm is, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol o 31 Mawrth 2021. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sy'n dod o dan y ddyletswydd i ystyried sut y gall eu penderfyniadau strategol helpu i leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol drwy ddeall effeithiau posibl, ac ymgynghori â'r rhai y mae penderfyniadau'n effeithio arnynt. Er ei bod yn anodd asesu effaith dyletswyddau cydraddoldeb, mae gan yr offeryn newydd hwn y potensial i newid sut mae cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau.

Y cwestiwn allweddol i Lywodraeth nesaf Cymru fydd pa mor effeithiol y gall ddefnyddio'r ysgogiadau hyn i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cynyddol sy'n deillio o'r pandemig, tra'n gweithredu yng nghyd-destun polisi ehangach Llywodraeth y DU.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru